Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Adfer mawndiroedd Cymru – i bobl a bywyd gwyllt

Valley fen Cors Goch anglesey

Mae’n ymddangos bod gwaith a ddechreuwyd i adfer mawndiroedd Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn – ond mae llawer mwy i’w wneud.

Dyna’r neges allweddol gan Grŵp Gweithredu Mawndiroedd Cymru wrth i Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Cymru ar Adnoddau Naturiol baratoi i fynychu Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis, sy’n rhedeg o 30 Tachwedd i 11 Rhagfyr 2015.

Oherwydd difrod dros sawl blwyddyn, mae mawn Cymru yn ffynhonnell o allyriadau nwyon tŷ gwydr, sy’n rhyddhau tua 550,000 tunnell o garbon i’r atmosffer bob blwyddyn. Mae hyn tua chymaint ag allyriannau blynyddol Ynys Môn neu Dorfaen.Dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol o gael holl fawndiroedd Cymru mewn rheolaeth i’w hadfer erbyn 2020.

Dywedodd Peter Jones, aelod Cyfoeth Naturiol Cymru o Grŵp Gweithredu Mawndiroedd Cymru:

“Mae adfer mawndiroedd yn hanfodol. Pe byddai’r holl garbon mewn mewndiroedd yn cael ei ryddhau i’r atmosffer byddai hyn gywerth â bron i 15 mlynedd o gyfanswm allyriadau CO2 Cymru - neu gwerth 97 blwyddyn o allyriadau CO2 o amaethyddiaeth a defnydd tir Cymru.”

Mae dros 50 y cant o fawndiroedd lled-naturiol Cymru bellach yn cael eu rheoli mewn dull cynaliadwy, sy’n helpu i gaethiwo’r carbon a fyddai fel arall yn cael ei ryddhau i’r atmosffer gan gyfrannu at newid hinsawdd.

Un o broblemau mwyaf mawngorsydd yw bod ffosydd wedi cael eu palu ar eu traws, yn bennaf rhwng yr 1940au a’r 1980au, i’w draenio ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth. Pan fyddant yn sychu, mae mawndiroedd yn rhyddhau carbon - sydd wedi cronni ynddynt dros filoedd o flynyddoedd – i’r atmosffer.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae 750km o ffosydd wedi cael eu llenwi ar draws mawndiroedd Cymru er mwyn eu hadfer a’u hailwlychu. Ymhlith yr ardaloedd allweddol mae ucheldir y Migneint, Hiraethog, Elennydd a Berwyn a safleoedd iseldir ar Ynys Môn a Phen Llŷn, ymhlith eraill.

Ychwanegodd Peter Jones:

“Ni ellir gorbwysleisio pa mor bwysig yw rheoli mawndiroedd. Nid dim ond er mwyn storio carbon. Maent yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt a phlanhigion prin – fel y gylfinir a’r cwtiad aur, a phlanhigion a phryfed prin. Maent hefyd yn helpu i storio dŵr gan leihau’r risg o lifogydd, ac yn helpu i buro ein cyflenwad dŵr.”

“Mae llawer o waith i’w wneud o hyd – mae dros hanner ein mawndiroedd yn dal i fod mewn cyflwr gwael ac mae llawer o waith cau ffosydd i’w wneud eto.”

Ar nifer o safleoedd yng Nghymru, mae’r Ganolfan ar gyfer Ecoleg a Hydroleg wedi gosod tyrrau fflwcs i fesur faint o garbon sy’n cael ei storio mewn mawn cyflwr gwael o’i gymharu â mawn mewn cyflwr da. Roedd Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Erddreiniog, Ynys Môn yn un o brif safleoedd prosiect LIFE Ffeniau Ynys Môn a Llŷn CNC. Mae bellach yn storio carbon fyddai fel arall wedi’i ryddhau i’r atmosffer.

Mae targed Llywodraeth Cymru i adfer mawn yn cynnwys tua thri chwarter o gyfanswm mawndiroedd Cymru. O’u hadfer yn llawn, byddai allyriadau’n lleihau o tua 168,00 tunnell bob blwyddyn.

Mae llawer o’r gwaith o adfer mawndiroedd Cymru wedi’i ariannu drwy gytundebau rheoli Cyfoeth Naturiol Cymru â pherchnogion tir a thrwy gyllid Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi’n sylweddol yn y gwaith o adfer mawndiroedd drwy ei chynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal, ei chynllun rheoli tir Glastir, ac yn fwy diweddar drwy’r Gronfa Natur.

Mae llawer o bartneriaid wedi bod yn rhan o’r gwaith– gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, y Gymdeithas Gwarchod Adar, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Parciau Cenedlaethol a’r holl ffermwyr a rheolwyr tir eraill sydd mor hanfodol i sicrhau bod y lleoedd unigryw hyn yn goroesi. 

Lansiwyd Cod Mawndiroedd newydd y DU yng Nghaeredin ar 23 Tachwedd i annog cwmnïau yn y sector preifat i fuddsoddi yn y gwaith o adfer mawndiroedd, yn seiliedig ar y gwasanaethau hanfodol maent yn eu darparu i gymdeithas, yn cynnwys cynnal bioamrywiaeth a storio carbon.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio ar adfer mawndiroedd pwysig, drwy ddefnyddio cytundebau rheoli gyda pherchnogion tir a gwneud ceisiadau am gyllid Ewropeaidd a chyllid arall i barhau â’r gwaith. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o reoli ac adfer mawndiroedd.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.