Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Adfer gwlyptir yn ne Cymru er budd pobl a bywyd gwyllt

Two NRW staff members measuring the Dipwell

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cychwyn ar raglen fonitro dwy flynedd ar wlyptir mawr yn Abercregan fel rhan o brosiect adfywiogi.

Bydd tîm y prosiect yn trawsnewid bron i 150 acer (bron yr un maint â 60 cae rygbi) er mwyn creu mawnog a gwlyptir mwy naturiol.

Bydd hyn yn helpu i leihau perygl llifogydd ar gyfer cymunedau gerllaw, yn cynnig cynefin i fywyd gwyllt ac yn gwella ansawdd y dŵr mewn afonydd.

Fe fydd y newid hwn mewn cynefin yn storio mwy o garbon, yn helpu i reoli lefelau afonydd ac yn helpu llawer mwy o rywogaethau i ffynnu.

Y bwriad yw gosod gwahanol fathau o offer fel y gellir monitro llif y dŵr ac ansawdd y dŵr dros gyfnod o ddwy flynedd, cyn i’r safle drawsnewid yn araf yn wlyptir.

Meddai Andrew Hood, swyddog amgylcheddol yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle unigryw i ddangos sut y gall buddsoddi yn ein hamgylchedd naturiol, ein hadnodd mwyaf gwerthfawr yng Nghymru, fod o fudd i bobl a bywyd gwyllt.

“Y gobaith yw y bydd y llecynnau hyn o fawn yn gweithredu fel cronfa ddŵr a fydd yn lleihau’r perygl llifogydd yng Nghwm Afan a Phort Talbot gerllaw.

“Bydd y prosiect hefyd yn rhoi gwybodaeth hollbwysig inni oherwydd y math hwn o ddull, ochr yn ochr ag amddiffynfeydd traddodiadol rhag llifogydd a’r gallu i wrthsefyll llifogydd yn well, fydd yn ein helpu i leihau’r perygl yn y tymor hir.”

Yn 2012 cafodd asesiad cenedlaethol ei gynnal er mwyn pennu mawnogydd yng Nghymru a’r potensial o’u hadfywiogi. Darganfu’r asesiad mai yn Abercregan y ceir un o’r llecynnau mwyaf o fawn dwfn a chanddo’r potensial mwyaf o safbwynt ei adfer o fewn y tir y mae CNC yn ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru.

Er mwyn cael digon o ddata ar gyfer ymchwilio i effaith y newidiadau hyn, rhaid monitro am o leiaf ddwy flynedd cyn i’r gwaith adfer gychwyn.

Y cam pwysig cyntaf ar ôl i’r ymchwil ddod i ben fydd cael gwared â’r coed oddi ar y safle. Nid yw’r coed hyn yn dda i fawr ddim ar y safle, a heb gael gwared â nhw ni ellir dechrau ar y broses o adfer y tir, oherwydd ni fyddai lefel y dŵr ar y safle’n codi.

Ymhellach, ceir nifer fawr o ffosydd draenio ar draws y safle, a bydd yn rhaid cau’r rhain trwy ddefnyddio’r coed a gaiff eu cwympo. Dyma’r ateb rhwyddaf a mwyaf cydnaws â’r amgylchedd.

Efallai y bydd lefel y dŵr daear o fewn y mawn yn hirach yn ymateb i’r gwaith adfer, felly mae’n debyg y bydd angen cynnal gwaith monitro pellach ar ôl i’r tir gael ei adfer.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.