Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Achub planhigyn prin rhag mynd i ddifancoll

Purple meadow flower know as clary

Mae planhigyn dôl prin sydd â blodau glas trawiadol wedi’i achub rhag mynd i ddifancoll yn wyllt yng Nghymru.

Roedd poblogaeth wyllt olaf clari’r maes yng Nghymru, ar safle yn Sir Fynwy, ar fin diflannu.

Ond cyn iddo ddiflannu’n llwyr, cafodd hadau eu casglu a’u tyfu yng Ngardd Fotaneg Treborth ym Mangor, Gogledd Cymru.

Rhoddodd hyn gyfle i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’i bartneriaid astudio’r planhigyn a deall pam yr oedd ei niferoedd yn lleihau.

Darganfuwyd bod poblogaeth clari’r maes ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Rectory Meadow yn Sir Fynwy wedi lleihau oherwydd dirywiad genetig. Nid oedd y planhigion yn gallu cynnal y boblogaeth.

Yna, astudiodd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin boblogaethau gwahanol o glari’r maes, a geir ar 22 yn unig o safleoedd ledled y DU.

Dangosodd y canlyniadau nad oedd eginiad y planhigyn Cymreig cystal â phoblogaethau eraill mwy ac iachach.

Felly, aethpwyd ati i greu cynllun i groesbeillio planhigion Sir Fynwy ag eraill o Loegr, yn ogystal â chyfyngu ar y graddau y câi’r safle ei bori gan wartheg.

Meddai Robert Bacon, Swyddog Cadwraeth o Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Yn ôl yr astudiaeth, pe bai clari’r maes yn cael ei ailgyflwyno ar safle Rectory Meadow ochr yn ochr â nifer o blanhigion o blith y poblogaethau iachaf ac agosaf yn Lloegr, byddai’r planhigyn yn gallu croesbeillio a sefydlu poblogaeth enetig gref a fyddai’n parhau yn y dyfodol.

“Rhan bwysig arall o’r prosiect hwn oedd cytundeb rheoli pum mlynedd gyda’r ffermwr-denant er mwyn sicrhau na fyddai lefel y pori’n cael effaith niweidiol ar dyfiant y planhigyn.

“Yng Nghymru, caiff un o bob chwech o blanhigion eu hystyried fel bod dan fygythiad, felly mae’r cyfrifoldeb o’u gwarchod ar ein hysgwyddau ni a’n partneriaid, fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Gerddi Sw Bryste.

“Ymhellach, mae’r ffaith y gall yr arfer o bori barhau ar y safle yn golygu ein bod yn helpu i warchod y planhigyn hardd hwn, ac ar yr un pryd yn gwneud yn siŵr fod modd i’r ffermwr barhau i ddefnyddio’r safle i gynhyrchu incwm.”

Mae CNC wedi creu ffilm fer yn esbonio’r gwaith, a wedi creu albwm lluniau o’r prosiect. 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.