Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Niferoedd yr adar prin bron â bod ar eu huchaf yng ngogledd Cymru

Mae nifer y grugieir duon prin mewn ardal yng ngogledd Cymru bron â chyrraedd y nifer uchaf a welwyd yn 2011 (cafodd 328 o geiliogod paru eu cyfrif) o ganlyniad i'r gwaith i'w gwarchod ac i wella eu cynefin.

Yng ngogledd Cymru, dim ond tua 140 o rugieir duon gwryw oedd ar ôl yn yr 1980au ac, yn ôl pob tebyg, roedd un o adar mwyaf enigmatig Cymru ar fin diflannu am byth.

Fodd bynnag, yn ôl arolygon gwawr diweddar gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru, RSPB Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a sawl sefydliad arall, cafodd bron 320 o geiliogod paru eu cyfrif y gwanwyn hwn.  Felly yn dilyn dwy flynedd o gyfrifiadau is (cafodd 297 eu cyfrif yn 2012 a 249 eu cyfrif yn 2013), ymddengys bod niferoedd y grugieir duon yn cynyddu unwaith eto.

Mae niferoedd yr adar wedi bod yn gostwng yn ddifrifol, ac erbyn 2000 roeddent wedi diflannu o dde Cymru yn gyfan gwbl, ac o'r rhan fwyaf o ganolbarth Cymru, gan adlewyrchu'r gostyngiad yn Lloegr ac yn rhannau eraill o orllewin Ewrop.  

Credir mai'r gwaith rheoli cynefinoedd, rheoli ysglyfaethu, a haf cynnes, sych y llynedd sy'n gyfrifol am y cynnydd parhaus yn y boblogaeth.  

Mae ffermwyr, coedwigwyr a sefydliadau fel Ystâd Wynnstay, RSPB Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, ag enwi ond ychydig, wedi ymroi i waith rheoli cynefinoedd hirdymor.  

Mae hyn wedi cynnwys llenwi ffosydd i adfer corsydd gwlypach, sy'n fwy cyfoethog o ran pryfed; rheoli ymlediad rhedyn; a thorri a llosgi grug i greu cynefinoedd mwy amrywiol er mwyn i'r grugieir duon fwydo a chysgodi ynddynt.

Mae manteision ehangach i wella cynefinoedd ar yr ucheldir, sef gwell storfeydd carbon sy'n helpu i drechu'r newid yn yr hinsawdd, tra bo'r tir yn rhyddhau dŵr glaw yn araf i mewn i'r afonydd gan helpu i leihau'r uchafbwynt llifogydd yn ystod cyfnodau o law mawr.

Bu'r cynnydd yn arbennig o amlwg ar fynydd Cefn y Fedw (Rhiwabon), ger Wrecsam, lle bydd ciperiaid, yn ogystal â rheoli cynefinoedd, yn gwneud cryn dipyn o'r gwaith rheoli ysglyfaethu, sy'n golygu bod brain a llwynogod yn llai tebygol o fwyta'r wyau a'r cywion bach.

Yn ôl Nick Thomas, Rheolwr Safleoedd Gwarchodedig Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Fel llawer o adar sy'n nythu, roedd niferoedd y grugieir duon yn gostwng yn ddifrifol, felly mae'n galonogol iawn bod y cynnydd yn nifer y grugieir duon a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi parhau.

"Gan mai'r boblogaeth yng Nghymru yw'r un fwyaf deheuol yn y Deyrnad Unedig, bydd llawer o wylwyr adar yn heidio i'r ardal i gael cipolwg o'r aderyn prydferth hwn, ac yn aros dros nos, sydd o fudd i westai a bwytai lleol.

"Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio i warchod ein bywyd gwyllt ac atal rhywogaethau fel y rugiar rhag gostwng. Maent yn rhan bwysig o'n hamgylchedd, ein hunaniaeth a'n heconomi".

Yn ôl Stephen Bladwell, Rheolwr Bioamrywiaeth RSPB Cymru:

"Mae'r prosiect yn dangos sut y gall rheoli cynefinoedd ar gyfer cadwraeth, a hynny mewn modd ymarferol, weithio ac ychwanegu gwerth at yr economi leol a'r gwaith rheoli presennol.

"Yn ogystal â'r canlyniadau ardderchog ar gyfer y grugieir duon, mae rhywogaethau eraill yn elwa yn Rhiwabon, gyda niferoedd y gylfinir yn parhau'n gyson a'r cwtieir aur yn dychwelyd yno i fridio. Mae hyn yn dangos gwerth ffermio cynaliadwy, rheoli helwriaeth a chadwraeth – sydd oll yn elfennau pwysig o ddyfodol ein hucheldiroedd."

Yn ôl y Capten Tim Bell, Rheolwr Ystâd Wynnstay:

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag RSPB Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli Gweunydd Rhiwabon ers diwedd yr 1990au. Rydyn ni wedi gweld gwelliant graddol yma yn rhai o gynefinoedd a nodweddion bywyd gwyllt allweddol y waun hon."

Yn ôl Harry Williams-Wynn, perchennog Gweunydd Rhiwabon:

"Mae'r ciperiaid wedi gwneud gwaith gwych ar y safle i'w wella ar gyfer y grugieir duon.  Mae eu gwaith caled wedi helpu niferoedd y rhywogaeth eiconig hon i gynyddu yn Rhiwabon.  Gobeithio y bydd y niferoedd yn parhau i gynyddu yn y blynyddoedd i ddod."

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.