Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Blwyddyn ymlaen...ond yn dal i gofio

Flwyddyn gyfan ers i lifogydd daro cymunedau ar draws Dyffryn Clwyd mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n parhau i ymdrechu i gefnogi’r sawl fu’n dioddef, yn atgyweirio'r difrod a gwella amddiffynfeydd llifogydd i bobl yn yr ardal.

Ac er na fydd y rhai a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd byth yn anghofio’r gofid a’r aflonyddwch, yn bendant nid ydyn nhw’n angof.

Ym mis Hydref, cafodd 120 o bobl sy’n byw ar ystâd dai Glasdir yn Rhuthun wasanaeth rhybudd llifogydd newydd.  Mae 16 o eiddo yn Ffordd Isaf Dinbych hefyd wedi cael gwasanaeth rhybudd llifogydd ychwanegol.

Gellir gosod mesurau Amddiffyn Eiddo Unigol, megis giatiau llifogydd, ar eiddo a chartrefi nad yw argloddiau llifogydd ar Afon Elwy yn eu hamddiffyn.

Fis Awst, dechreuodd y gwaith ar raglen wyth mis o waredu coed, llwyni a malurion ar ran bedair milltir o Afon Elwy i gynyddu llif y dŵr pan fydd bygythiad o lifogydd.

Hyd yn hyn, mae timoedd wedi clirio rhan fawr o’r afon rhwng Pont Beggard, Spring Gardens a New Inn, yn ogystal â chodi’r argloddiau llifogydd y tu ôl i Barc Roe.

Nid nepell, mae giatiau llifogydd unigol wedi’u gosod ar 22 o gartrefi ym mhentref Llanfair Talhaearn, a oedd hefyd wedi dioddef o’r un llifogydd.

Yn ogystal â hyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwella’r amddiffynfeydd llifogydd ar Nant Barrog yn ogystal â gosod sgriniau newydd i ddal malurion ac i atal y cwlferi rhag cael eu tagu.

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru’n dal i weithio gyda’r holl gymunedau a gafodd eu heffeithio i gynnig cyngor a helpu i ddatblygu cynlluniau llifogydd cymunedol.

Ers y llifogydd, mae swyddogion wedi helpu trigolion Ystâd Glastir yn Rhuthun i ddatblygu cynllun llifogydd cymunedol a rhwydwaith o wardeiniaid llifogydd, yn ogystal â dal i weithio gyda 30 o wirfoddolwyr ym mhob rhan o Lanelwy i gryfhau cynllun llifogydd presennol y ddinas.

Mae Cynllun Naturiol Cymru hefyd wedi sefydlu ‘Grŵp Partneriaeth Llifogydd Llanelwy’ yn ddiweddar, sy’n cael ei gadeirio gan John Roberts, Maer Llanelwy.

Mae’r grŵp yn cynnwys aelodau o Gyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cynghorwyr Sir, Cynghorwyr Dinas, Dŵr Cymru a chynrychiolwyr o’r gymuned.

Meddai John:

“Mae’r Grŵp Partneriaeth Llifogydd a gafodd ei sefydlu’n ddiweddar yn beirianwaith pwysig iawn sy’n cysylltu’r gymuned gyda’r holl asiantaethau ac mae’n derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn ac ar y gwaith y bwriedir ei wneud yn y tymor hirach.

“Trwy’r Grŵp Partneriaeth, bydd trigolion a gafodd eu heffeithio’n uniongyrchol gan y llifogydd yn gallu, trwy’u cynrychiolwyr, gyflwyno’u profiadau ac amlygu unrhyw broblemau a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n eu hystyried wrth gynllunio mesurau amddiffyn llifogydd tymor hir a thymor byr.

“Gobeithio y bydd y cylchlythyr mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n ei gylchredeg yn rhoi gwybod i bobl am y gwaith sy’n cael ei wneud i leihau’r perygl y bydd y math yma o ddigwyddiad yn digwydd eto ac yn gwneud y gymuned yn gadarnach rhag llifogydd.”

Meddai Tim Jones, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydyn ni’n deall fod digwyddiadau’r llynedd yn dal yn fyw iawn i lawer o’r rhai a ddioddefodd ac rydyn ni eisiau sicrhau pobl ein bod yn dal i weithio’n galed i wneud Llanelwy, Rhuthun a chymunedau gwerthfawr eraill yn gadarnach rhag llifogydd.

“Rydyn ni eisoes wedi cyflawni llawer, ond yn dal i ystyried y cynlluniau tymor hir i ddarparu gwell amddiffyniad rhag llifogydd i'r ardal.

“Fyddwn ni byth yn gallu rhwystro llifogydd rhag digwydd bob tro, ond rydyn ni wedi ymrwymo i gydweithio gyda’r holl asiantaethau eraill i helpu i gefnogi’r cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd a’u paratoi a’u gwarchod cystal ag y gallwn.”

Aeth dŵr llifogydd i mewn i tua 485 o eiddo ar draws Dyffryn Clwyd fis Tachwedd y llynedd, pan orlifodd Afonydd Elwy a Chlwyd eu glannau, ar ôl dyddiau o law eithriadol o drwm.

Yn union ar ôl y llifogydd, dechreuodd Cyfoeth Naturiol Cymru ar raglen o waith brys i glirio malurion o’r afonydd ac atgyweirio’r amddiffynfeydd llifogydd a oedd wedi’u difrodi gan y dŵr.

Cynhaliwyd cyfres o sesiynau galw i mewn cyhoeddus ar y cyd â Chyngor Sir Dinbych, yn union ar ôl y digwyddiad a gydol y flwyddyn, i ddarparu cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i’r rhai a effeithiwyd.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.