Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

CNC yn lansio ymgynghoriad ar is-ddedfau ynghylch rheolaethau dal pysgod i bysgodfeydd rhwyd neu wialen

Mae pysgodfeydd yn cynhyrchu gwerth tua £150m i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ac yn cynnal oddeutu 1,500 o swyddi, felly mae’n bwysig eu gwarchod.

Mae gostyngiad parhaus yn nifer yr eog a brithyll y môr mewn afonydd yng Nghymru yn golygu bod niferoedd y pysgod wedi cyrraedd swm lleiafrifol heb ei debyg o’r blaen, ac mae hyn yn fygythiad i ddyfodol nifer o bysgodfeydd. 

Er mwyn mynd i’r afael â’r dirywiad hwn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystyried sawl gweithrediad a fydd yn helpu i droi’r duedd o chwith a sicrhau bod y ddwy rywogaeth eiconig yn parhau i chwarae rôl hollbwysig yn ein hamgylchedd a’n diwylliant.  

Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol CNC ar gyfer Polisi Tystiolaeth a Thrwyddedu: 

“Mae’r dirywiad yn nifer yr eog a brithyll y môr sy’n mudo yn ôl i’r rhan fwyaf o’n hafonydd mor ddifrifol fel bod angen i ni roi’r cyfle i fwy o bysgod genhedlu os ydym ni eisiau sicrhau bod y rhywogaeth yn parhau i oroesi yng Nghymru.  

“Rydym wedi gofyn i nifer o bysgotwyr a rhwydwyr i ryddhau’r eog maent yn eu dal, ac rydym yn credu ei bod hi’n hen bryd cyflwyno mwy o reolaethau ar gyfer pysgota am eog a brithyll y môr. 

“Rydym wedi trafod sut y gellir gwella nifer y pysgod gyda Grwpiau Pysgodfeydd Lleol ledled y wlad ers dros 18 mis, ac rydym yn awyddus i wybod beth yw barn y cyhoedd ehangach.  

“Mae briff sy’n nodi’r materion cyfredol ynghylch statws nifer yr eogiaid a brithyll y môr yng Nghymru a’r tebygrwydd y bydd angen rheolaethau newydd yn y dyfodol ar gyfer pysgota gyda rhwyd neu wialen, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â sut y gallwch leisio eich barn ar gael ar ein gwefan naturalresources.wales/catchcontrols2017.”  

Yn ogystal, mae mesuriadau i sicrhau bod pysgod sy’n cael eu rhyddhau â’r siawns gorau posib o oroesi yn cael eu hystyried, gan gynnwys defnyddio bachyn heb adfach, gwahardd defnyddio bachau triphlyg a gwahardd defnyddio abwyd.  

Mae'r ymgynghoriad yn dechrau ar Awst 22, 2017 ac yn rhedeg tan Tachwedd 14, 2017. 

Mae’r cynigion yn cynnwys:

  • Lleihau’r tymor rhwydo fel nad yw’n dechrau cyn 1 Mai
  • Y tymor rhwydo yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 
  • Polisi ‘dal a rhyddau’ gorfodol ym mhob man pysgota am eogiaid gyda rhwyd neu wialen
  • Polisi ‘dal a rhyddhau’ gorfodol ar gyfer pysgota am frithyll y môr mewn afonydd lle mae niferoedd mewn perygl cyn 1 Mai.  
  • Terfyn hyd o ddim mwy na 60cm ar gyfer brithyll y môr
  • Gosod cyfyngiadau ar ddulliau pysgota (defnyddio abwyd, bachyn heb adfach, a bachau triphlyg) er mwyn sicrhau bod gan bysgod sy’n cael eu dal siawns dda o oroesi

Byddai’r is-ddeddfau newydd mewn grym am 10 mlynedd, a bydd arolwg yn cael ei gynnal ar eu heffeithlonrwydd ar ôl pum mlynedd.  

Mae niferoedd yr eogiaid yn cael eu hasesu mewn 23 afon ac mae niferoedd brithyll y môr yn cael eu hasesu mewn 33 afon yn flynyddol yng Nghymru.  

Mae CNC yn credu bod y camau hyn yn hollbwysig ar ôl i asesiadau 2016 ddangos bod 21 allan o’r 23 afon lle cyfrir niferoedd yr eogiaid wedi methu â chyrraedd eu targed rheoli, ac maent naill ai ‘mewn perygl’ neu’n ‘debygol o fod mewn perygl’.   

Mae dau draean (21 allan o 33) o’r afonydd lle cyfrir niferoedd brithyll y môr mewn sefyllfa fregus ac mae angen gwneud mwy i’w hamddiffyn. 

Ychwanegodd Ceri: 

“Ar ôl ystyried y dystiolaeth a’r barnau amrywiol, rydym wedi dod i’r casgliad nad ydym yn gallu parhau i gymryd eog pan mae’r niferoedd mewn sefyllfa mor beryglus â hyn.  

“Nid oedd y penderfyniad i geisio am y newidiadau hyn yn un hawdd, ac rydym yn cydnabod na fydd y mesuriadau hyn yn datrys y broblem gymhleth o ddirywiad yn nifer yr eogiaid.  

“Rydym eisiau gweithio gyda’r cymunedau pysgota a rhwydo i warchod ein pysgod a’n pysgodfeydd er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau, a bydd cyflwyno rheolaethau newydd yn gam cadarnhaol i helpu gwarchod nifer y pysgod.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.