Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli daliadau ar afonydd trawsffiniol

Mae stociau pysgod wedi cyrraedd iselfannau digynsail yn afonydd Cymru yn y blynyddoedd diwethaf ac mae dyfodol nifer o bysgodfeydd bellach o dan fygythiad.

Amcangyfrifir bod y diwydiant pysgod yn werth fwy na £100 miliwn yng Nghymru, gan gefnogi tua 1,500 o swyddi a gyda gwerth twristiaeth sy'n ymwneud â physgota hyd yn oed yn uwch, felly mae'n hanfodol ei amddiffyn nawr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ond mae pryderon parhaus ynghylch y niferoedd o eogiaid sy'n dychwelyd i afonydd Cymru. 

Nid oes digon o bysgod llawndwf yn silio i gynnal y stoc nac i atal dirywiad pellach.

Er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig nifer o gamau fydd yn helpu i wrthdroi'r duedd a helpu'r rhywogaeth eiconig hon i barhau i chwarae rôl yn ein hamgylchedd a'n diwylliant. 

Ym mis Awst, gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru lansio ymgynghoriad ar reoli daliadau ar afonydd sydd yn gyfan gwbl yng Nghymru ond roedd hyn yn eithrio'r afonydd trawsffiniol gyda Lloegr.

Bellach mae'n ymestyn yr ymgynghoriad i gynnwys rhannau Cymru o'r afonydd trawsffiniol, sef Afon Dyfrdwy ac Afon Gwy.

Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal ymgynghoriad cyfatebol ar rannau Lloegr o afonydd Dyfrdwy a Gwy, gan sicrhau bod datrysiadau integredig yn cael eu rhoi ar waith ar y ddwy afon.

Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru dros Bolisi, Tystiolaeth a Thrwyddedu: 

"Mae'r gostyngiad yn y niferoedd o eogiaid sy'n mudo yn ôl i'r rhan fwyaf o'n hafonydd bellach mor ddifrifol fel bod yn rhaid i ni roi fwy o gyfle i bysgod llawndwf silio er mwyn helpu goroesiad y rhywogaeth yn nyfroedd Cymru.

 "Mae sefydliadau fel Sefydliad Afon Gwy ac Afon Wysg wedi gwneud ymdrechion gwych, yn adfer cysylltedd a chynefinoedd, gan wella ansawdd y dŵr a'r pysgodfeydd.

 “Mae'r mesurau hyn ynghyd â rheoli daliadau yn y gorffennol wedi helpu i greu rhai arwyddion calonogol o adferiad.

 "Ar Afon Dyfrdwy, rydym eisoes wedi gofyn i bysgotwyr ryddhau'r eogiaid maent yn eu dal yn wirfoddol ond rydym yn teimlo ei fod yn amser i gyflwyno rheolaeth bellach nawr.

 “Rydym wedi bod yn trafod sut y gellid gwella stociau pysgod gyda rhai grwpiau lleol sydd â diddordeb mewn pysgodfeydd ledled y wlad am fwy na dwy flynedd ac rydym nawr yn holi am farn y cyhoedd cyffredinol ar ein cynigion newydd.

“Mae brîff ar statws stociau eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru, gan gynnwys afonydd Dyfrdwy a Gwy, a'n cynigion, ynghyd â gwybodaeth am sut y gall pobl ddweud eu dweud, ar gael ar ein gwefan.”

Yn ogystal, mae mesurau i sicrhau bod y pysgod a gaiff eu rhyddhau yn cael y cyfle gorau i oroesi, gan gynnwys defnyddio adfachau, a gwaharddiad ar fachau triphlyg a'r defnydd o abwyd, hefyd yn cael eu cynnig.

Mae'r ymgynghoriad yn dechrau ar 13 Tachwedd 2017 ac yn parhau tan 5 Chwefror 2018.

Mae'r cynigion yn cynnwys:

 Dal a rhyddhau eogiaid yn orfodol ar Afon Dyfrdwy

  • Dal a rhyddhau brithyllod y môr yn orfodol cyn 1 Mai ar Afon Dyfrdwy
  • Cyfyngiad maint o uchafswm o 60cm i frithyllod y môr yn unol â'r holl afonydd eraill yng Nghymru, i helpu amddiffyn brithyllod y môr mwy, sy'n fenywaidd yn bennaf, ar Afon Dyfrdwy
  • Cyfyngiadau ar ddulliau (abwyd a bachau triphlyg) fel bod gan y pysgod sy'n cael eu rhyddhau fwy o siawns o oroesi. Bydd y rhain yn berthnasol i afonydd Dyfrdwy a Gwy

Ni fydd y mesurau hyn yn effeithio ar y rheoliadau daliadau estynedig deng mlynedd a fu ar waith ar Afon Gwy ers 2012 ac nid ydynt i fod i ddod i ben tan 2021.

Byddai'r is-ddeddfau newydd hyn ar waith am ddeng mlynedd, gydag adolygiad cynhwysfawr o'u heffeithiolrwydd ar ôl pum mlynedd.

Ychwanegodd Ceri Davies: 

“Ar ôl ystyried yr holl safbwyntiau a thystiolaeth eang, rydym wedi dod i'r casgliad na allwn ni barhau i gymryd eogiaid tra bod y stociau mewn cyflwr mor enbyd.

“Nid ydym wedi gwneud y penderfyniad i alw am y newidiadau hyn yn ysgafn ac rydym yn sylweddoli na fydd y mesurau hyn ar eu pennau eu hunain yn datrys y mater cymhleth o stociau eogiaid sy'n dirywio. 

“Fodd bynnag, dylent helpu i fynd i'r afael ag amharodrwydd rhai i ymateb i'n ceisiadau cyson dros y blynyddoedd diwethaf i ryddhau'r pysgod i gyd.

Dyma sy'n arferol i bysgotwyr cyfrifol ar ein holl afonydd, ac rydym yn diolch i'r rheini sydd wedi dewis chwarae eu rhan ar gyfer cynaladwyedd ein stociau. 

“Rydymeisiau gweithio gyda'r gymuned bysgota i amddiffyn ein pysgod a'n pysgodfeydd er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau.

“Rydym o'r farn y bydd cyflwyno rheolaethau newydd yn gam cadarnhaol i helpu amddiffyn stoc. 

“Yn hanfodol, bydd y mesurau hyn yn cyd-daro â phecyn ehangach o fesurau i fynd i'r afael â'r holl bwysau sy'n niweidio ein holl stociau pysgod yng Nghymru." 

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar http://naturalresources.wales/crossbordercontrols?lang=cy

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.