Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

System rybuddio newydd i ddarganfod creaduriaid estron ym moroedd Cymru

Fe allai system rybuddio newydd leihau’r difrod a wneir gan greaduriaid estron neu anfrodorol i ddiwydiannau morol Cymreig ac ar fywyd gwyllt brodorol.

Bydd canfod cynnar hefyd yn golygu y bydd ymdrechion i ddifa rhywogaethau ymledol yn haws gan na fyddai cymaint ohonynt ac na fyddent mor wasgaredig.

Datblygir y system rhybudd cynnar yn rhan o brosiect 18 mis dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.

Mae rhywogaethau anfrodorol yn greaduriaid sydd wedi’u cyflwyno i’n dyfroedd o du allan i’w cynefinoedd naturiol.

Gwneir hyn yn bennaf trwy ddamwain trwy weithgareddau megis llongiadu, hwylio hamdden ac amaethu rhywogaethau a phlanhigion morol.

Nid yw’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau sy’n cael eu cyflwyno i ddyfroedd Cymru’n fygythiol nac yn niweidiol.

Fodd bynnag, gall rhai rhywogaethau megis ewinedd mochyn, cranc mynegog Tsieineaidd a’r chwistrell fôr garped drechu rhywogaethau brodorol gan ddwyn eu bwyd a difrodi’r cynefinoedd maent yn byw ynddynt.

Yn ei dro, gall hyn leihau poblogaeth rhywogaethau megis cregyn gleision, wystrys a chrancod gan ddifrodi diwydiannau pysgota lleol.

Bydd ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor ac arbenigwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda’r diwydiannau morol, yn gyntaf yng ngogledd Cymru. Mae ffermwyr wystrys, gweithredwyr marinas a physgotwyr cimychiaid a chrancod am ganiatáu i’r arbenigwyr osod a chasglu gwybodaeth o “baneli aneddiadau” yn y mor yn y safleoedd ble maent yn gweithio.

Dywedodd Gabrielle Wyn o Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Y cynharaf y byddwn yn adnabod unrhyw rywogaeth ymledol – y gorau yw ein siawns o daclo neu ddifa’r rhywogaeth yn gyfan gwbl yn llwyddiannus.

“Bydd yn helpu i’n rhoi ni ar y blaen a bydd yn lleihau’r difrod amgylcheddol ac economaidd a achosir gan y rhywogaethau hyn.

“Mae gweithio gyda’r diwydiannau pysgota a hamdden yn rhan bwysig o’r prosiect hwn. Maent yn y sefyllfa orau o ran adnabod y rhywogaethau hyn yn gynnar a bydd cofnodi’u canfyddiadau hefyd yn fuddiol i’w busnesau yn yr hir dymor”.  

Meddai Dr Katherine Griffith, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor:

"Cydnabyddir yn eang erbyn hyn fod rhywogaethau anfrodorol ymwthiol yn gryn fygythiad i fioamrywiaeth morol a thrwy hynny i weithrediad ecosystemau arfordirol a morol. Mae Dr Stuart Jenkins a minnau wedi gweithio ers talwm yn y maes ymchwil hwn; bwriad ein project cyfredol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yw datblygu system gadarn i ganfod rhywogaethau anfrodorol morol cyn iddynt ymsefydlu'n gadarn trwy gydweithio'n agos â diwydiannau morol Cymru.

“Byddai canfod rhywogaethau felly yn gynnar yn agor ystod ehangach o ddewisiadau rheoli, a ddylai liniaru'r costau economaidd ac amgylcheddol a gysylltir â rhywogaethau ymwthiol o'r fath.  Ein gobaith yw trwy godi ymwybyddiaeth ac annog canfod rhywogaethau anfrodorol ymwthiol morol yn gynnar y gallwn gynyddu gallu'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon i ymateb yn gyflym ac yn llwyddiannus i achosion newydd o'r fath.”

Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2015.

Mae’r system rhybudd cynnar arfordirol hon yn gysylltiedig â phrosiect ehangach trwy’r DU ac Iwerddon sydd hefyd yn datblygu system alltraeth trwy ddefnyddio paneli aneddiadau ar fwiau yn y môr.

Bwriad y rhwydwaith yw canfod rhywogaethau anfrodorol ymledol morol cyn iddynt ddod yn broblem i fioamrywiaeth a diwydiant. Mae’n cynnwys yr ardaloedd ‘risg uchaf’ i rywogaethau anfrodorol gyrraedd a lledaenu yn y DU ac Iwerddon.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.