Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Adroddiad pwysig yn dangos bod buddsoddi mewn lleihau perygl llifogydd yn talu

Mae adroddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi canfod y buddsoddwyd £165 miliwn mewn cynlluniau llifogydd a diogelu’r glannau, er mwyn amddiffyn pobl ac eiddo yng Nghymru, er Tachwedd 2011.

Mae’r buddsoddi hwn, y rhan fwyaf gan Lywodraeth Cymru yn ogystal ag arian Ewropeaidd, wedi lleihau’n uniongyrchol fygythiad llifogydd i ragor na 6,500 o gartrefi a busnesau.

Canfu’r adroddiad hefyd fod gwella systemau darogan a rhybuddio yn golygu bod rhagor na 160 o ardaloedd newydd yng Nghymru’n derbyn rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim gan Cyfoeth Naturiol Cymru, bellach, gan roi iddynt amser hanfodol ar gyfer eu paratoi’u hunain a’u cartrefi.

Dywedodd Steve Cook, Rheolwr Strategaeth Perygl Llifogydd, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae’r llifogydd a welsom yn y blynyddoedd diweddar, yng nghymunedau fel Ceredigion, Llanelwy a’r Rhyl, a’u heffaith ar fywydau pobl, yn dangos pa mor bwysig yw’r gwaith hwn.

“Â newid yn yr hinsawdd yn darogan ein bod ni’n debyg o weld tywydd mwy eithafol yn y dyfodol, rydym yn gweithredu yn awr er mwyn sicrhau y gallwn wrthsefyll y cynnydd ym mherygl llifogydd.

“Mae llawer iawn rhagor o waith eto i’w wneud, ond calonogol yw gweld cynifer o bobl, sydd wedi dioddef yn y gorffennol, yn cydweithio ac yn mynd ati i’w paratoi eu hunain a’u cymunedau’n well ar gyfer llifogydd.”

Mae gan lifogydd effaith ofnadwy ar y rhai a effeithir, gan achosi, ar gyfartaledd, gwerth £40,000 o ddifrod i gartrefi pobl, yn ogystal â gofid emosiynol gweld dinistrio eu heiddo personol.

Er Tachwedd 2011, mae Cymru wedi gweld llifogydd dinistriol ac eang, gyda tharo rhagor na mil o gartrefi a busnesau mewn lleoedd megis Ceredigion, Llanelwy, Rhuthun a’r Rhyl.

Achosodd llifogydd gyfanswm amcangyfrifedig o £71 miliwn o ddifrod, a bu effaith sylweddol, hefyd, ar bobl a’r economi, gydag amharu ar gysylltiadau ffordd a rheilffordd.

Golygodd y buddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd ar hyd arfordir Cymru yn ystod stormydd y gaeaf diwethaf, fodd bynnag, y diogelwyd 75,000 o dai a busnesau rhag llifogydd.

Canfu’r adroddiad hefyd fod:

  • 624 o gynlluniau llifogydd cymuned a busnes, wedi’u datblygu gyda gweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, bellach wedi’u sefydlu ledled Cymru, gan olygu y gŵyr pobl beth i’w wneud pe digwyddai’r gwaethaf
  • Mae 600 o adeiladau bellach â chyfarpar diogelu unigol, wedi’i ddarparu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, onid yw cynllun llifogydd yn ymarferol ar gyfer yr ardal
  • Mae cyfanswm y cartrefi ym mherygl llifogydd wedi gostwng o 220,000 yn 2009 i 208,000, oherwydd gwell modelu a mapio, yn ogystal â chynlluniau llifogydd newydd
  • Mae gwaith gan gwmnïau dŵr, gan gynnwys prosiect “Rainscape” Dŵr Cymru Welsh Water yn Llanelli, yn arwain y blaen yn nhermau dargyfeirio dŵr o’r rhwydwaith draenio
  • Mae 125 hectar o fannau gleision wedi’u creu neu’u gwella er mwyn defnyddio natur mewn modd sy’n lleihau bygythiad llifogydd i bobl, cartrefi a busnesau

Meddai John Griffiths, Gweinidog Adnoddau Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon:

“Gall llifogydd gael effaith ddinistriol ar gymunedau – gan achosi nifer o filoedd o bunnoedd o ddifrod, a gofid emosiynol  aruthrol.

“Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol, yn gweithio’n galed i leihau perygl llifogydd i bobl ledled Cymru. Rwyf yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad hwn sy’n dangos bod ein buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl llifogydd, ein Strategaeth Genedlaethol a’n dull blaenweithredol o ddelio â rheoli peryglon llifogydd ac arfordirol yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau hynny sydd mewn perygl.

“Mae rheoli perygl llifogydd yn parhau yn faes blaenoriaethol i Lywodraeth Cymru ond nid yw hon yn broblem y gallwn ddelio â hi ar ein pen ein hunain. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’n hawdurdodau lleol yn chwarae rôl arwyddocaol wrth baratoi ein cymunedau a’u diogelu rhag llifogydd ac rwyf yn diolch iddynt am eu cyfraniad parhaus i’r gwaith hanfodol hwn.”

Mae’r adroddiad, y cyntaf o’i fath a luniwyd tan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, yn edrych ar holl waith y rhai sy’n gweithio er mwyn lleihau bygythiad llifogydd i bobl, eu preswylfeydd, a’u gweithleoedd.

Mae’r rhain yn cynnwys y 22 awdurdod lleol, y byrddau draenio mewnol a chwmnïau dŵr  Cymru, yn ogystal â gwaith gan Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun.

Gellir canfod yr adroddiad ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.