
Bwriad Coetir Llyfni yw dod â llawer o fanteision i gymunedau Maesteg.
Mae’n trawsnewid hen safle diwydiannol yn ofod gwyrdd ffantastig sy’n hyrwyddo iechyd a lles drwy greu llwybrau cerdded a beicio a champfa werdd.
Ond mae’r fenter ddiweddaraf yn Llyfni’n troi’r ffocws oddi wrth y gweithgareddau hamdden ac yn canolbwyntio ar hyfforddiant ac addysg.
Esboniodd Geminie Drinkwater, swyddog ymgysylltu cymunedol Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae pedwar o bobl ifanc, Ronaan Quinn, Harry Mort, Morgan Wright, a Kristian McIlroy, o’r Ganolfan Hyfforddiant Adeiladu ym Maesteg wedi bod yn gweithio gyda’n contractwr Rheoli Tir i ddatblygu rhan o’r coetir yn ardal addysgol i ysgolion lleol.
“Maent wedi bod yn gosod cylch boncyff fydd yn cael ei ddefnyddio i ddysgu crefft llwyn a ffurfiau eraill ar ddysgu yn yr awyr agored. Cafodd y syniad am ardal addysgol ei grybwyll gan ddisgyblion a gafodd eu gofyn i feddwl am syniadau i’r coetir.”
Mae’r Ganolfan Goetir yn rhan o Goleg Nedd Port Talbot, sy’n cynnig hyfforddiant i’r rheini sy’n gadael yr ysgol sydd ddim yn bwriadu astudio Lefel A.
Aeth Geminie yn ei blaen:
“Rwyf wedi cysylltu â’r ganolfan yn ystod cam ymgynghoriad cymunedol y prosiect ac o gyfarfodydd dilynol roeddem yn teimlo bod y prosiect coetir yn cynnig cyfle arbennig i bobl ifanc fod yn rhan o rywbeth pwysig gyda manteision uniongyrchol i’r gymuned leol.”
Yn ychwanegol i’r gwaith yn yr ardal addysg, bydd pobl ifanc yn y ganolfan hefyd yn gwneud meinciau a seddi picnic i gael eu rhoi drwy gydol y coetir sy’n gallu cael eu mwynhau gan bob ymwelydd.
Roedd Mark Stokes, Rheolwr Adeiladu ar gyfer y Rheoli Tir, yn frwdfrydig am y prosiect a dywedodd:
“Rydym ni wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda’r Ganolfan Hyfforddiant Adeiladu i ddatblygu’r gymuned goetir i fod yn adnodd dysgu awyr agored i bawb ei fwynhau. Mae’r manteision fydd o’n ei ddarparu i’r gymuned ac i ysgolion lleol yn arbennig ac rydym ni’n falch iawn i fod yn rhan ohono.”
Mae CNC yn creu coetir newydd ar safle’r hen Gloddfa Coegnant a Golchdy Maesteg yn Nyffryn Llyfni Uchaf, prosiect a ariennir gan Gronfa Natur Llywodraeth Cymru.
Mae mwy na 60,000 o goed wedi’u plannu ar 30 hectar o’r safle 75 hectar.
Ychwanegodd Geminie:
“Mae cael mannau gwyrdd ar y stepen drws yn dda i fywyd gwyllt, ond maent hefyd yn helpu pobl i deimlo’n well am eu cymuned nhw ac yn darparu ardal i ymlacio ac ymarfer corf.
“Mae’r prosiect yn dangos sut gallwn ni ddarparu manteision gymunedau lleol drwy reolaeth adnewyddadwy adnoddau naturiol.”
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.