Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Arfordir Cymru yn hafan i siarcod prin?

Mae prosiect i gasglu tystiolaeth am boblogaeth o un o siarcod mwyaf prin y byd wedi cael ei lansio yn nyfroedd Cymru.

Unwaith roedd y Maelgi yn gyffredin ar draws Ewrop, ond bellach mae’n cael ei restru fel bod mewn Perygl Difrifol ar Restr Goch yr IUCN (rhestr o rywogaethau mewn perygl yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur), gyda'r dyfroedd o amgylch yr Ynysoedd Dedwydd yr unig fan lle maent yn cael ei gweld yn aml.

Fodd bynnag, gwelwyd nifer cynyddol o’r pysgod prin yma oddi ar arfordir Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Nawr mae gwyddonwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain) yn cydweithio gyda physgotwyr ac eraill ar hyd arfordir Cymru i ddarganfod mwy am ein poblogaeth frodorol o o’r siarcod.

Fel rhan o'r prosiect gofynir i bobl roi gwybod am bob tro maent yn dal y siarc yn ddamweiniol, ac yn cael cyngor ar sut i’w trin a’i rhyddhau yn ôl i'r dŵr yn ddianaf.

Gall Maelgwn dyfu hyd at ddwy fetr a hanner (tua wyth troedfedd) o hyd. Nid ydynt yn fygythiad i bobl, ac maent yn byw yn bennaf ar y tywod neu’r mwd ar waelod y môr, gan fwyta pysgod bach a molysgiaid.

Meddai Ben Wray, Ecolegydd Bioamrywiaeth Morol Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae pysgotwyr wedi bod yn riportio mwy o achosion o weld Maelgwn yn y blynyddoedd diwethaf.

"Nid ydym yn gwybod llawer am ecoleg y siarc yn nyfroedd Cymru ar hyn o bryd - gallai'r boblogaeth fod yn bresennol trwy gydol y flwyddyn, neu dim ond am ran o'r flwyddyn.

"Mae'r ffaith bod pysgotwyr a genweirwyr masnachol ar hyd arfordir Cymru yn ein helpu gyda'r ymchwil yma yn bwysig iawn, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cymorth.

"Rydym yn gobeithio y bydd y data a gasglwn yn ein helpu i greu darlun llawer gwell o'r sefyllfa ac yn helpu ein gwaith i warchod y creaduriaid rhyfeddol hyn.”

Dywedodd Jim Evans o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru: "Mae pwysigrwydd gwybodaeth ecolegol leol yn aml yn cael ei anwybyddu, ond mae pysgotwyr yn deall gwerth cynnal bioamrywiaeth.

"Gwelwyd Maelgwn oddi ar arfordir Cymru gan bysgotwyr am nifer o flynyddoedd, ac mae’r cyfle yma i wella ein dealltwriaeth o ddeinameg poblogaeth Cymru yn cael ei groesawu gan, ac yn glod i, bysgotwyr Cymru."

Mae'r Angel Shark Project, cydweithrediad rhwng ZSL, Prifysgol Sbaen o Las Palmas o Gran Canaria (ULPGC) ac Amgueddfa Sŵolegol Ymchwil Alexander Koenig Almaen (ZFMK), wedi bod yn gweithio ar gadwraeth Angelshark yn yr Ynysoedd Dedwydd am y dair mlynedd ddiwethaf.

Meddai Joanna Barker, Rheolwr Prosiect ZSL a Chyd-Arweinydd y prosiect: "Mae'n wych gallu ddefnyddio rhai o'r technegau rydym wedi ddatblygu i warchod Maelgwn yn yr Ynysoedd Dedwydd i wella ein dealltwriaeth o’r boblogaeth yn nyfroedd Cymru.

"Rydym yn gobeithio y bydd gweithio gyda physgotwyr Cymru yn ddechrau prosiect llawer mwy i ddeall a gwarchod Maelgwn yng Nghymru.

"Mae hwn yn un o'r llefydd diwethaf drwy Ewrop ble gallwch ddod o hyd Faelgwn, felly rhowch wybod i ni os ydych yn gweld un neu ddal un yn ddamweiniol a’n helpu i ddeall y creaduriaid rhyfeddol hyn yn well."

Mae'r canllawiau a gynhyrchwyd fel rhan o'r prosiect hefyd yn cynnwys cydweithrediad a’r Shark Trust a Chymdeithas Pysgotwyr Cymru.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.