Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn difrodi Safleoedd Gwarchodedig

Yn dilyn cyfnod o dresmasu anghyfreithlon yn ddiweddar gan gerbydau 4x4 ym Mynyddoedd y Berwyn, Rhiwabon a Llantysilio, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn apelio am wybodaeth gan dystion er mwyn rhwystro rhagor o ddifrod difrifol i ardaloedd gwarchodedig allweddol.

Mae’r safleoedd gwarchodedig hyn yn hynod o fregus a dan fygythiad mawr oherwydd y difrod a achosir gan leiafrif anystyriol ac anghyfrifol, sy’n benderfynol o barhau i gynnal gweithgareddau anghyfreithlon heb ystyried effaith hynny ar y dirwedd a’r gymuned amaethyddol.

Os oes unrhyw un yn gweld unrhyw ddigwyddiadau neu os hoffai unrhyw un roi gwybod am unrhyw yrru anghyfreithlon ar y safleoedd hyn, dylai gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar y rhif ffôn 101.

Mae rhostiroedd arbennig fel y rhain yn cael eu gwarchod gan gyfraith y DU ac Ewrop, ac wedi eu dynodi fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGAau), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAoedd).

Cânt eu gwarchod oherwydd cynefinoedd pwysig megis gorgors, tiroedd sy’n cynnal grug a phlu’r gweunydd ar fawndir dwfn a rhostir sych, yn ogystal â grug a llus ar bridd tenau.

Mae’r rhain hefyd yn ardaloedd sy’n gartref i lu o adar prin, megis y boda tinwyn, y cudyll bach, yr hebog tramor, y cwtiad aur, y gylfinir, y rugiar goch a’r rugiar ddu - ac oherwydd aflonyddu o’r fath mae llawer o’r rhain dan fygythiad drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r ardaloedd a ddifrodir hefyd i’w cael o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd, sef dynodiad y DU sy’n cydnabod pwysigrwydd cymeriad a harddwch naturiol y dirwedd.

Mae’r difrod sy’n cael ei achosi i’r ardal yn fygythiad gwirioneddol i fwynhad ymwelwyr sy’n dod i’r ardal ac sy’n rhoi hwb i’r economi leol.

Yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwych i hamddena a chynnal bywyd gwyllt pwysig, mae’r ucheldiroedd hyn yn cyflwyno gwasanaeth pwysig i bobl.

Pan mae mawn mewn cyflwr da, gall storio carbon. Mae hyn yn rhwystro’r carbon rhag mynd i’r atmosffer, a thrwy hynny mae’n helpu i daclo newid hinsawdd.

Hefyd, mae’r tir yn amsugno llawer o ddŵr glaw sy’n cael ei ryddhau’n raddol, gan weithredu fel amddiffynfa naturiol rhag llifogydd ar adegau o law trwm.

Mae’r gweithgareddau hyn hefyd yn cael effaith uniongyrchol ar fywoliaeth cymuned amaethyddol yr ardal, gan eu bod yn difrodi ffensys a giatiau, sydd, yn ogystal â bod yn ddrud i’w hatgyweirio, yn achosi i dda byw grwydro, sy’n peri bod rhai ardaloedd yn anodd eu rheoli.

Meddai’r Rhingyll Rob Taylor, Swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru:

“Rydym yn ystyried y digwyddiadau hyn yn rhai difrifol iawn.

"Mae’n drosedd achosi difrod i’r safleoedd cadwraethol pwysig hyn.

"Os canfyddir bod unrhyw un yn achosi difrod i’r safle bydd achos cyfreithiol yn debygol o gael ei ddwyn yn ei erbyn; byddem yn annog cerddwyr ac eraill yn yr ardal i roi gwybod inni os ydynt yn gweld unrhyw weithgareddau anghyfreithlon.”

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd â chyfrifoldeb statudol i ddiogelu’r safleoedd bywyd gwyllt hyn a gofalu am lawer o’r planhigfeydd coedwigaeth, yn gweithio’n agos â’r Heddlu, Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a thirfeddianwyr i geisio atal y tresmasu niweidiol hwn.  

Meddai David Smith, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae’r rhostiroedd arbennig hyn yn rhan o’n treftadaeth naturiol a diwylliannol yma yng Nghymru.

"Mae’r gweithgaredd hwn yn gwbl annerbyniol ac yn niweidio bywyd gwyllt, amaethyddiaeth a mwynhad tawel y mwyafrif llethol o ymwelwyr.

"Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn benderfynol o atal y tresmasu hwn ac rydym yn cymryd camau er mwyn sicrhau ei fod yn dod i ben.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.