Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Gwaith cynnal a chadw rhag llifogydd o fudd i fywyd gwyllt a phobl

view of the River Rhymney at Ystrad Mynach

Mae arbenigwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhoi dull newydd ac arloesol ar waith o gynnal a chadw rhag llifogydd ar Afon Rhymni, sydd o fudd i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd.

Roedd oddeutu 900 tunnell o waddodion wedi ymgasglu yn yr afon ger y clawdd llifogydd yn Ystrad Mynach, gan beri i’r afon lifo i sianel ddofn a chul. Roedd hyn yn niweidio’r cloddiau llifogydd, gan eu gwneud yn ansad. 

Rhaid oedd symud y gwaddodion oddi yno er mwyn gwneud yn siŵr y gallai’r amddiffynfeydd barhau i amddiffyn pobl rhag llifogydd. Ond fe fyddai dulliau traddodiadol o gloddio fod wedi rhoi bywyd gwyllt yr afon yn y fantol. 

Er mwyn ymdrin â hyn, rhoddwyd dull amgen ar waith a chafodd y dŵr ei ailgyfeirio o amgylch y gwaddodion er mwyn i beiriant cloddio allu gweithio yno mewn llecyn sych – gan beri i lai o silt symud, a all fod yn niweidiol i bysgod a phryfed. 

Cafodd matiau silt arbennig eu defnyddio i arafu llif yr afon a dal gwaddodion a ryddhawyd gan y gwaith. Gan weithio gyda’r cwmni Frog Environmental, rhoddwyd cynnig ar ddefnyddio ‘llen swigod’ am y tro cyntaf erioed mewn afon yn y DU. 

Roedd y llen hon o swigod aer yn ymestyn ar draws yr afon, gan helpu i reoli’r silt yn ogystal â chreu rhwystr acwstig er mwyn sugno’r sŵn a chynyddu lefelau ocsigen yn yr afon, gan warchod pysgod a bywyd gwyllt arall yr afon yn ystod y gwaith. 

Meddai David Penny, Peiriannydd Gweithrediadau yn CNC: 

“Mae gweld graean a siâl yn ymgasglu mewn afonydd yn broblem gyffredin. Mewn ambell achos, mae’n lleihau faint o ddŵr y gall yr afon ei ddal gan beri i ddŵr orlifo dros y glannau ac, mewn achos fel hwn, mae’n niweidio’r glannau rydym wedi’u gosod yno i leihau llifogydd. 

“Weithiau, yr unig ddewis yw mynd i mewn i’r afon i’w symud ymaith, ond y pryder bob amser yw y bydd ein gwaith i amddiffyn pobl yn effeithio ar fywyd gwyllt. Trwy fynd ati mewn ffordd newydd ac arloesol, fe wnaethon ni lwyddo i osgoi hyn.” 

Mewn gwelliannau eraill a wnaed i’r ardal oddi amgylch, cafodd coed mawr ar lan yr afon eu torri i lawr a defnyddiwyd y pren i atgyfnerthu’r cloddiau llifogydd a lleihau mwy o erydu yn y dyfodol. 

Trwy greu lle agored o gwmpas yr afon a chynyddu’r golau naturiol, y gobaith yw y bydd glaswelltau a blodau gwyllt brodorol newydd yn ffynnu yno, gan sugno mwy o ddŵr glaw a lleihau erydiad. 

Ychwanegodd David: 

“Yr hyn rydym wedi’i wneud yma yw taclo problem benodol a allai effeithio ar y gymuned leol; ond, yn hytrach nag ystyried y broblem ar ei phen ei hun, rydym wedi canolbwyntio ar y darlun cyflawn ac ar anghenion yr amgylchedd ehangach. 

“Rydym wedi gwarchod y cloddiau llifogydd ar gyfer y dyfodol ac, ar yr un pryd, wedi gwella’r cynefin fel y gall planhigion a bywyd gwyllt ffynnu yno. 

“Trwy daclo hen broblemau yn y ffordd newydd ac arloesol hon, rydym yn gobeithio gwneud ein hamgylchedd yn fwy cynaliadwy a gwydn ar gyfer y dyfodol.” 

Y bwriad yn awr yw cynnal arolwg i bennu’r lleoliad gorau ar gyfer creu rhwystr pren yn yr afon i wyro dŵr a sefydlogi llif yr afon trwy bileri’r bont. Dylai hyn hefyd helpu i rwystro gwaddodion rhag ymgasglu eto yn y dyfodol, gan leihau cost y gwaith cynnal a chadw a gwella ansawdd yr amgylchedd yn y tymor hir.

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.