Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

DATGANIAD DAROGAN LLIFOGYDD

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl ger arfordir Cymru i baratoi ar gyfer llifogydd.

Caiff y rhybudd ei gyhoeddi gan y gallai llanw uchel, ynghyd â thymhestloedd tebygol, arwain at ymchwydd storm a allai godi lefel y môr hyd at fetr uwchlaw’r llanw uchel. Gallai’r ymchwydd godi’n uwch na’r amddiffynfeydd mewn mannau.

Er bod y llanw a gafwyd y mis diwethaf, a arweiniodd at lifogydd mewn sawl rhan o Ogledd Cymru, yn uwch yn y Gogledd, rhagwelir mai’r llanw hwn fydd y llanw uchaf i daro arfordir Cymru gyfan er 1997.

Er bod y bygythiad yn ymestyn dros arfordir Cymru i gyd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw llygad barcud ar Gasnewydd yn y De (ardal Crindai yn benodol), arfordir y gorllewin (Abermo, Y Borth, Bae Caerfyrddin a Hwlffordd) ac arfordir gogledd Cymru o Fae Cinmel i aber Afon Dyfrdwy.

Er bod y manylion yn newid wrth i’r llanw nesáu, mae’n bosibl y bydd Rhybuddion Llifogydd Difrifol – y rhybudd uchaf o’i fath – yn cael eu cyhoeddi yn yr ardaloedd hyn, ac efallai mewn ardaloedd eraill.

Disgwylir i Rybuddion Llifogydd gael eu cyhoeddi mewn sawl man ar hyd yr arfordir.

Bydd y llanw uchel yn cychwyn yn Aberdaugleddau am 7.20am, yn cyrraedd Casnewydd (de Cymru) oddeutu 8.15am ac Abermo am 9.20am, gan gyrraedd Sir y Fflint erbyn hanner dydd.

Mi fydd llanwau uchel eraill yn arwain at fygythiad tebyg, ond rywfaint yn llai, oddeutu deuddeg awr a phedair awr ar hugain yn ddiweddarach.

Bydd gweithwyr ymateb i argyfwng Cyfoeth Naturiol Cymru mewn safleoedd allweddol drwy’r ardal er mwyn gwneud yn siŵr fod yr amddiffynfeydd yn gweithio’n iawn a sicrhau bod sgriniau a gridiau draenio yn glir, er mwyn lleihau’r perygl i bobl a’u cartrefi.

Bydd yn agor ystafelloedd argyfwng mewn sawl rhan o Gymru er mwyn paratoi ar gyfer hyn.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Gan fod Swyddfa’r Tywydd yn darogan tymhestloedd, rydym yn cadw golwg ar lefel y môr ac amodau’r tywydd, a byddwn yn cyhoeddi rhybuddion llifogydd ar gyfer adeiladau yn yr ardaloedd hynny sydd mewn perygl.

“Eisoes rydym wedi bod yn siarad gyda’n partneriaid o’r gwasanaethau brys a’r holl awdurdodau lleol y gallai hyn effeithio arnyn nhw, er mwyn eu galluogi i roi eu cynlluniau ar waith.

“Hefyd, rydym yn rhybuddio pobl i beidio â mynd i lan y môr rhag ofn iddyn nhw gael eu cipio i’r dŵr gan donnau mawr neu gael eu taro gan don neu ddeunyddiau a gaiff eu chwythu gan y gwynt.

“Gall llifddwr hefyd fod yn hynod o beryglus, ac ni ddylai pobl geisio cerdded neu yrru trwyddo oni bai eu bod yn cael cyfarwyddyd gan y gwasanaethau brys i wneud hynny.”

Ymhellach, gall ymchwydd yn y llanw a thonnau mawr, y disgwylir eu cael Ddydd Sul a Dydd Llun, arwain at fwy o broblemau. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw golwg ar y sefyllfa ac yn cyhoeddi gwybodaeth bellach fel bo angen.

Caiff rhybuddion llifogydd eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob chwarter awr, a gellir eu gweld ar www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk/alerts.

Ymhellach, gellir cael yr wybodaeth ddiweddaraf trwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188. Hefyd, gall pobl gofrestru i gael rhybuddion llifogydd yn rhad ac am ddim trwy ffonio rhif Floodline neu ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.