Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Gwaith llifogydd hanfodol i warchod busnesau Llambed

Mae staff gweithrediadau o Gyfoeth Naturiol Cymru newydd gwblhau gwaith atgyweirio brys rhag llifogydd ar lan afon sy’n darparu amddiffyniad pwysig rhag llifogydd i brifysgol, cartrefi pobl, archfarchnad a nifer o adeiladau busnes yn Llanbedr Pont Steffan.

Mae’r tîm wedi atgyfnerthu’r arglawdd, a oedd yn ymddangos fel pe bai bron cwympo, drwy osod amddiffyniad craig galed ar hyd darn 35 metr o Afon Dulais.

Roedd glan yr afon wedi cael ei difrodi yn sgil llifau uchel yn yr afon, sy’n gorlifo’n aml, gan effeithio ar seilwaith ac eiddo gerllaw.

Mae’r ardal hon yn gorwedd mewn ardal amgylcheddol sensitif, gan ei bod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).

Cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle, datblygwyd cynlluniau peirianneg manwl er mwyn datblygu cynllun a fyddai’n addas ar gyfer y safle. Ymgynghorwyd â swyddogion bioamrywiaeth arbenigol o Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gwneud yn siŵr fod nodweddion y safle’n cael eu diogelu.

Mae’r afon o bwysigrwydd Ewropeaidd oherwydd ei phoblogaethau o bysgod, yn cynnwys eog yr Iwerydd, lamprai’r afon, y nant a’r môr, a’r grothell ac mae hefyd yn gartref i boblogaeth sylweddol o ddyfrgwn.

Mae’r afon yn nodedig hefyd oherwydd ei chymuned nodweddiadol ac amrywiol o blanhigion afon, yn cynnwys y ‘crafanc y dŵr’ prin.

Meddai Neil Davies, o Gyfoeth Naturiol Cymru:

“Roedd hi’n bwysig ein bod yn gwneud y gwaith hwn, oherwydd roedd glan yr afon yn ansefydlog a heb sylw, gallai fod wedi arwain at lifogydd difrifol mewn nifer o gartrefi, siopau a busnesau, yn ogystal ag effeithio ar y brifysgol.

“Ar yr un pryd, roedd yn rhaid i ni gydbwyso anghenion yr amgylchedd lleol, gan sicrhau nad oedd ein gwaith i warchod pobl yn effeithio ar fywyd gwyllt yn yr ardal hefyd.

“Y tro diwethaf y cafwyd llifogydd yn yr ardal, effeithiwyd ar 12 o adeiladu, gan gael effaith ar gartrefi a tharfu ar fusnesau a bywoliaeth pobl.  Gobeithio y bydd y gwaith a wnaed gennym nawr yn gostwng y perygl fod hynny’n digwydd eto.

“Rydym yn ddiolchgar am gydweithrediad y perchnogion lleol a’r brifysgol i gael mynediad am unrhyw darfu arnynt yn ystod y gwaith.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.