Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Darganfod rhyfeddodau amgylchedd Cymru

A white mushroom called the puffball

Mae ein hamgylchedd bendigedig yn gartref i amrywiaeth anhygoel o blanhigion ac anifeiliaid a gaiff eu dathlu yn ystod WythhosWythnos Bioamrywiaeth Cymru sy’n cychwyn yfory (Dydd Sadwrn).

Felly, beth sydd gan Gymru i’w gynnig o ran bioamrywiaeth?

 Wel, mae nifer o ddarganfyddiadau newydd wedi’u gwneud ac mae gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru wedi arwain at well dealltwriaeth o rai o’r rhywogaethau egsotig a llai adnabyddus sydd i’w cael yng Nghymru.

 Dyma restr CNC o’r pum darganfyddiad / llwyddiant mwyaf cyffouscyffrous yn ystod y 12 mis diwethaf.

  1.  Ym mis Tachwedd 2014, darganfyddodddarganfu arolwg CNC o 200 o gorsydd calchog pwysicaf y wlad ffwng o’r enw Bovista paludosa ym Mynydd Epynt ym Mhowys.Dyma’r tro cyntaf i’r ffwng hynod brin hwn gael ei ganfod yng Nghymru, a dim ond pump o enghreifftiau sydd wedi’u cofnodi erioed yn y DU.Mae mor brin nes ei fod wedi’i enwi ar restr yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig fel rhywogaeth â blaenoriaeth yn y DU. Er bod mwy na 30 math o’r ffwng hwn ym Mhrydain, mae cynefin corsiog y Bovista paludosa yn arbennig iawn, ac mae ei brinder yn adlewyrchu diffyg cynefinoedd corsiog yn ne Prydain
  2. Dan y don ger Gwarchodfa Natur Forol Sgomer yn Sir Benfro, llwyddodd arolwg blynyddol CNC i ddod o hyd i 51 o fathau gwahanol o noethdagellogion.Enw arall ar noethdagellogion yw gwlithod môr; ond nid gwlithod arferol mo’r rhain, ac maent i’w cael mewn llu o siapiau a lliwiau thrawiadoltrawiadol. Gellir dod o hyd i oddeutu 68% o holl rywogaethau’r DU yn y dyfroedd oddi ar Sgomer. Cigysyddion yw gwlithod môr ac maent ar frig y gadwyn fwyd. Mae gan bob rhywogaeth ei phrae ei hun, felly caiff y rheini sydd ar y brig eu cynnal gan ecosystem yr un mor amrywiol
  3. Mae prosiect a aeth ati i arolygu darn o goetir sy’n cyfateb mewn maint i 1,000 o gaeau pêl-droesdroed wedi darganfod nid un, ond tair o rywogaethau rhyngwladol bwysig. Mae’r elusen gadwraeth Plantlife wedi treulio’r deunaw mis diwethaf yn mapio Coedydd Derw Meirion mewn prosiect a ariannir gan CNC, gan ddod o hyd i fath o gen barnacle lichenThelotrema lepadinum na chofnodwyd mohono yng Nghymru erioed o’r blaen; math o felt lichenErioderma pedicellatum a welwyd am y tro diwethaf yn yr 1800au a math o tree fluteMenegazzia terebrata y tybiwyd ei fod wedi diflannu o Gymru a Lloegr. Mae’r coetir yn rhan o Goedwig Law Geltaidd Gorllewin Prydain ac Iwerddon. Mae’r cynefin hwn yn brinnach na choedwigoedd glaw trofannol, ond yr hyn sy’n ei wneud yn wirioneddol arbennig yw’r planhigion a’r ffygauffyngau sy’n tyfu yno
  4. Mae un o’r dolffiniaid mwyaf arbennig, a mwyaf o ran maint, wedi cartrefu yn nyfroedd Cymru – sef dolffin Risso. Gyda’i gorff  llwyd golau a gwyn, gall dolffin Risso dyfu hyd at 4m o hyd, ac mae modd gwahaniaethu rhyngddo â dolffiniaid eraill oherwydd ei ben crwn a’r ffaith nad oes ganddo ‘big’. Ond ychydig iawn o bobl sy’n ymwybodol o’r ffaith fod y mamal môr unigryw hwn yn gymydog agos inni. Aeth CNC ati i gomisiynu Whale and Dolphin Conservation (WDC) i arolygu’r dolffiniaid o amgylch Ynys Enlli gan ddefnyddio ffotograffau i adnabod anifeiliaid unigol ar sail eu nodweddion unigryw, fel sgriffiadau ac ati ar eu hesgyll dorsal. Yn ystod arolwg 2014, daeth y tîm o hyd i sawl grŵp a oedd yn cynnwys hyd at 35 o ddolffiniaid, ac ymddengys fod y rhain yn bwydo ac yn cymdeithasu yn Swnt Enlli
  5. Mae niferoedd grugieir duon prin mewn ardal yng ngogledd Cymru bron iawn wedi cyrraedd y niferoedd a geid yno yn 2011 pan gafodd 328 o geiliogod paru eu cyfrif yno, diolch i waith a wnaed i’w gwarchod a gwella’u cynefin.Yng ngogledd Cymru, dim ond rhyw 140 o geiliogod grugieir duon a oedd ar ôl yn y 1980au, ac roedd un o adar mwyaf enigmatig Cymru ar fin diflannu. Fodd bynnag, mewn arolygon a gynhaliwyd gan staff CNC, RSPB Cymru, Cyngor Sir DdibnychDdinbych a nifer o sefydliadau eraill yn ystod haf 2014, cafodd bron i 320 o geiliogod paru eu cyfrif. Felly, yn dilyn dwy flynedd lle gwelwyd niferoedd llai (297 yn 2012 a 249 yn 2013), ymddengys fod niferoedd y rugiar ddu ar gynnydd unwaith eto. Roedd y niferoedd wedi bod yn gostwng yn ddifrifol, ac erbyn y flwyddyn 2000 roedd yr aderyn wedi diflannu o dde Cymru i gyd ac o’r rhan fwyaf o ganolbarth Cymru, gan gyd-fynd â gostyngiadau tebyg yn Lloegr ac mewn rhannau eraill o orllewin Ewrop. Ond credir bod gwaith i reoli ei chynefin a’i hysglyfaethwyr, ynghyd â hafau sychach, wedi cyfrannu at gynnydd ym mhoblogaeth y rhywogaeth

Meddai Ceri Davies, CyfarfwyddwrCyfarwyddwr Gwybodaeth, Strategaeth a Chynllunio yn CNC:

“Rydym yn lwcus yng Nghymru o gael byw mewn amgylchedd mor doreithiog ac amrywiol. Mae rheoli’r amgylchedd mewn ffordd briodol er budd y planhigion a’r anifeiliaid rydym yn byw ochr yn ochr â nhw yn arwain at nifer o fanteision cudd i’r gymdeithas.                      

“Pa un a ydych yn sôn am leihau perygl llifogydd, storio carbon neu roi hwb i’r economi, rhaid inni sicrhau ein bod yn parhau i wneud ein gorau i warchod a deall y planhigion a’r anifeiliaid rydym yn byw ochr yn ochr â nhw.

“Ond gallwch wneud mwy na dim ond gwrando ar yr hyn sydd gennym ni i’w ddweud –– beth am ymuno â miloedd o bobl o bob cwr o Gymru i ddathlu WythhosWythnos Bioamrywiaeth Cymru a darganfod mwy am ein hamgylchedd naturiol.”

I gael mwy o wybdoaethwybodaeth am Wythnos Bioamrywiaeth Cymru a digwyddiadau yn eich ardal, ewch i:

http://www.biodiversitywales.org.uk/Wythnos-Bioamrywiaeth-Cymru

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.