Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Data’n dangos pa mor eang oedd llifogydd Rhagfyr yng Nghymru

Flood warning sign

Mae data newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dangos beth oedd graddfa lawn y llifogydd a effeithiodd ar Gymru yn ystod mis Rhagfyr.

Er bod Cymru gyfan wedi gweld glaw trwm a chyson, teimlwyd effeithiau’r tywydd hwn fwyaf yn y Gogledd Orllewin.

Cyrhaeddodd sawl afon yn yr ardal eu lefel uchaf ers i gofnodion gael eu cadw, ac roedd y glaw a achosodd hyn hefyd yn torri pob record.

Ymhlith yr afonydd yng Ngogledd Cymru i gyrraedd lefelau uchaf newydd ar 26 Rhagfyr yr oedd Seiont, Llyfni a Gwyrfai, tra bo Conwy ac Elwy hefyd wedi cyrraedd y lefel ail uchaf a gofnodwyd erioed.

Yn y cyfnod rhwng 10–26 Rhagfyr dengys mesuryddion glaw yng Nghwm Dyli, Capel Curig, Ysbyty Ifan a Betws-y-coed fod lefelau glaw wedi cyrraedd, neu’n agos iawn at, yr hyn a ddisgrifir fel digwyddiad glaw 1 mewn 100 mlynedd.

Ac er i sawl cartref ddioddef llifogydd, llwyddodd amddiffynfeydd i warchod llawer mwy, gan gynnwys ein cynllun £5.6 miliwn sydd newydd ei orffen yn Nolgellau, sy’n lleihau risg llifogydd i rhyw 300 eiddo.

Yn y cyfamser bu i'n cynllun yng Nghyffordd Llandudno weithio bedwar tro yn ystod y cyfnod. Oni bai am y cynllun, byddai’r ardal wedi dioddef llifogydd bob tro.

Mae ein data hefyd yn dangos y byddai eiddo ledled Gogledd Cymru wedi dioddef llifogydd oni bai am yr amddiffynfeydd, ym Mhorthmadog, Llanelwy, Beddgelert, Aberdaron, Llanfair Talhaearn, Bangor, Bangor-is-y-coed a’r Bala.

Yn Ne Cymru fe wnaeth ein amddiffynfeydd yn Sanclêr, Tregaron ac Abergwili gadw dwr llif allan o dai a busnesau.

Cyhoeddodd CNC 178 rhybudd i fod yn barod am lifogydd a 55 rhybudd llifogydd ym mis Rhagfyr.

Meddai Jeremy Parr, Rheolwr Llifogydd a Risg Gweithredol CNC: “Mae’r data hwn yn dangos cymaint o her oedd y sefyllfa a wynebwyd gan bawb ym mis Rhagfyr.

“Oherwydd bod y ddaear mor wlyb, roedd afonydd yn codi’n eithriadol o gyflym ar ôl i’r glaw ddisgyn a bu i’r amddiffynfeydd warchod cartrefi’n llwyddiannus mewn sawl cymuned ledled Cymru.

“Tra bo’r glaw cyson dros 16 diwrnod yn cael ei ddisgrifio fel profiad ‘1 mewn 100 mlynedd’ nid yw hyn yn golygu na fydd yn gallu digwydd eto yn y dyfodol.

“Efallai fod y perygl tymor-byr wedi pasio am y tro. Serch hynny, fe fyddwn i’n annog pobl yn gryf i edrych ar eu risg o lifogydd drwy ymweld â gwefan CNC, cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim os ydyn nhw mewn perygl, a chreu cynllun er mwyn iddyn nhw fod yn barod y tro nesaf bydd bygythiad o lifogydd.”
 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.