Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Cyfri costau difrod y stormydd

Roedd difrod y stormydd a'r llifogydd ar arfordir Cymru'n cael lle amlwg iawn yn y penawdau ym misoedd Ionawr a Chwefror ond dim ond ar hyn y bryd y mae maint y difrod ar yr amgylchedd ehangach yn dod yn amlwg.

Mae ystadegau newydd o Cyfoeth Naturiol Cymru'n dangos y bu gwerth tua £1 miliwn o ddifrod i goedwigoedd a choetiroedd masnachol ar ystâd Llywodraeth Cymru.

Nid yw'r ffigwr hwn yn cynnwys y nifer fawr o goedwigoedd sydd mewn perchnogaeth breifat a oedd hefyd wedi dioddef difrod yn ystod y stormydd.

Ac er bod coed wedi disgyn yn cau'r rhan fwyaf o lwybrau traed a llwybrau beicio yng nghoedwigoedd Gogledd a Chanolbarth Cymru ar un adeg, mae llawer wedi ail agor yn ystod yr wythnosau diwethaf ar ôl ymdrechion clirio enfawr a bydd llawer mwy yn ail agor unwaith eto cyn gwyliau'r Pasg.

Yng Nghoed y Brenin ger Dolgellau, mae'r Ganolfan Ymwelwyr a'r rhan fwyaf o'r llwybrau cerdded a beicio ar agor fel arfer.

Yn y Gogledd a Chanolbarth Cymru yr oedd y stormydd ar eu hanterth.  Collodd Gwarchodfa Natur Genedlaethol yng Nghoed Bryn Mawr, ger Maentwrog ym Meirionnydd fwy na 450 o goed derw aeddfed.

Er mai hon oedd y storm waethaf o'i bath mewn 30 mlynedd, mae yna fanteision tymor hir gan y bydd y bylchau a ffurfiwyd yn y canopi'n gallu cyflymu tyfiant mewn coed newydd.

Roedd ffyrdd wedi blocio'n broblem yng Nghoed y Brenin ac mae milltir o ffordd rhwng Dolgartheg a Hermon wedi'i chlirio, ond mae yna'n dal 4,000 metr ciwbig o goed - bron iawn ddigon i lenwi dau bwll nofio Olympaidd – y mae'n rhaid eu symud i ail agor hanner milltir o'r ffordd rhwng Hermon a Llanfachreth.

Disgwylir y bydd yn dri neu bedwar mis arall cyn y bydd y rhan yma wedi'i chlirio ac yn y cyfamser, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi agor ffordd arall trwy'r goedwig.

Mae ychwaneg o waith i glirio 1,000 metr ciwbig o goed wedi ail agor ffordd ger Ganllwyd, Dolgellau, i allu cyrraedd Ferndale Lodge a llwybrau'r Rhaeadrau a'r Cloddfeydd Aur.

Bu difrod sylweddol hefyd yng Nghoedwig Clocaenog yng ngogledd-ddwyrain Cymru.  Amcangyfrifir fod tua 20,000 o goed wedi'u chwythu i lawr gan flocio wyth rhan o ffordd a dymchwel llinellau trydan a ffôn.  

Erbyn hyn mae'r gwaith o glirio mynedfeydd i eiddo a llinellau trydan wedi'i gwblhau.  Mae'r gwaith o drwsio terfynau, clirio llwybrau troed a symud canghennau sy'n hongian ac sy'n peryglu diogelwch yn dal ar y gweill.

Disgwylir y bydd y cyfanswm costau trwsio yng ngogledd a chanolbarth Cymru tua £440,000 ac y bydd y gwaith yn parhau gydol y flwyddyn.

Nid yw'r sefyllfa mor ddifrifol ne Cymru ond mae llawer o goed unigol neu grwpiau bychain o goed wedi'u chwythu i lawr ac mae rhai wedi eu gadael yn ansefydlog.

Er gwaethaf hynny, disgwylir y bydd gost o symud coed sydd wedi disgyn neu sy'n beryglus, ymdrin â phroblemau erydu dŵr, difrod gan dirlithriadau yn ogystal â phroblemau a oedd eisoes yn bodoli ond sydd wedi gwaethygu yn y tywydd drwg yn fwy na £390,000.

Ni ddihangodd safleoedd bywyd gwyllt a natur Cymru rhag y stormydd yn groeniach gyda thraethau a thwyni tywod yn enwedig yn dioddef.

Mae tunelli lawer o dywod wedi'u golchi i ffwrdd neu wedi symud a chafodd cribau graean eu gyrru tua'r tir a bu erydu ar dwyni, morfa heli a chlogwyni.

Difrododd y tywydd garw fwy na 60 o rannau o Lwybr Arfordir Cymru.  Ychydig o ddifrod oedd ar y rhan fwyaf ac roedd yn dal yn bosibl ei gerdded gyda gofal.

Ar nodyn positif, ni ddihangodd dŵr heli i gynefinoedd dŵr croyw arfordirol pwysig megis Llynnoedd Bosherton, Sir Benfro; gallai hynny fod wedi niweidio'u hecosystemau.

Fodd bynnag, efallai na ddaw'r cyfan o'r effeithiau ar fywyd gwyllt yn amlwg tan yn hwyrach yn y flwyddyn gan y gallai anifeiliaid sy'n gaeaf gysgu, amffibiaid ac infertebratiaid fod wedi dioddef yn y stormydd.

Meddai Kim Burnham, Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Achosodd y stormydd a fu'n bwrw Cymru ddifrod helaeth a bydd yn cymryd cryn amser i'w atgyweirio.

"Fodd bynnag, mae gwaith caled ein timoedd yn clirio'n mynd yn ei flaen yn dda ac eisoes mae llawer o'n coedwigoedd a choetiroedd ar agor am fusnes a bydd rhagor yn eu dilyn.

"Mae'r amgylchedd naturiol yn bwysig i ymwelwyr ac i drigolion fel ei gilydd ac mae cyfraniad hamdden yr awyr agored i economi Cymru, ac i ffordd o fwy iach, yn un arwyddocaol.

"Dyna pam ein bod ni'n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau y bydd y gwaith clirio wedi'i gwblhau gynted â bo modd.

"Yn y tymor hir, pan fydd y coetiroedd yn adfer o ddifrod y stormydd bydd yna ragor o goed amrywiol iach yn tyfu a fydd yn eu gwneud yn lleoedd gwell i bobl ac i fywyd gwyllt."

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.