Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Cymunedau’n elwa ar gydweithredu yn y diwydiant coedwigaeth

Lorry transporting timber on the A483 trunk road

Mae lorïau’n llwythog o bren yn olygfa gyfarwydd, os braidd yn ddigroeso weithiau, ar ffyrdd Cymru.

Yn aml, mae effaith cludo pren ar gymunedau gwledig wedi bod yn destun pryder, ond mae partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, sectorau coedwigaeth preifat ac awdurdodau lleol Sir Gâr, Ceredigion a Phowys yn ymdrin â’r broblem trwy gyfrwng Fforwm Cludo Pren Tywi.

Sefydlwyd y fforwm yn 2012 gan ragflaenydd CNC, sef Comisiwn Coedwigaeth Cymru, gyda’r nod o symud cymaint ag y bo modd o’r traffig a oedd yn gysylltiedig â chludo pren oddi ar ffyrdd di-ddosbarth trwy ddefnyddio ffyrdd oddi mewn i goedwigoedd.

Meddai Brian Hanwell, Rheolwr Ardal Lleol CNC:

“Mae agor ffyrdd coedwigoedd i draffig cludo pren wedi bod o fudd i gymunedau gwledig bach.

“Er enghraifft, mae 7,000 o gerbydau a fyddai o bosibl wedi gyrru trwy bentref Rhandirmwyn, yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, yn ystod y pum mlynedd diwethaf wedi defnyddio ffordd goedwig wyth milltir o hyd rhwng Esgair Dafydd a Chwm Henog.”

Erbyn hyn dyma’r ffordd goedwig brysuraf yng Nghymru, gan symud traffig oddi ar gefnffordd yr A483 ar ddaliadau coedwig 10,000 hectar Tywi Uchaf, gyda nifer y cerbydau wedi dyblu er 2013.

Mae’r gost o gynnal a chadw ffyrdd cludo a rennir o fudd i gymunedau, yn cefnogi diwydiannau gwledig ac yn lleihau traul ar briffyrdd cyhoeddus; a chan fod ffyrdd coedwig â gro arnynt yn rhatach i’w cynnal a’u cadw na ffyrdd tarmac, maent yn arbed arian cyhoeddus.

Mae buddsoddiad y fforwm o ran gwella a chynnal a chadw’r ffordd, a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer cludo oddeutu wyth o lorïau bob diwrnod, yn enghraifft wych o gydweithio sy’n esgor ar dwf economaidd tra’n cydnabod anghenion y gymuned leol.

Ychwanegodd Brian:

 “Rydym yn annog yr holl gludwyr i gofrestru gyda ni er mwyn defnyddio ffordd goedwig Esgair Dafydd i Gwm Henog. Mae awdurdodiad o’r fath yn rhoi gwell eglurder i’r gofynion yswiriant, ac nid ydym yn codi unrhyw dâl am hyn.

“Ymhellach, mae modd inni roi newyddion ynglŷn â chau ffyrdd i gludwyr pren, diolch i’n cysylltiadau agos â’r awdurdodau priffyrdd. A hefyd rydym yn ceisio ategu arferion da a gaiff eu hyrwyddo gan y cod ymddygiad ar gyfer cludo pren crwn ar ffyrdd.”

Yn ddiweddar, mae’r fforwm wedi ymestyn ei gylch gwaith ymhell y tu hwnt i Gwm Tywi Uchaf.

Roedd cryn dipyn o draffig cludo pren o ddaliadau Tilhill Forestry a Scottish Woodlands ym Mannau Brycheiniog i fod i deithio trwy gymuned fechan Y Coelbren yng Nghwm Tawe.

Cyn i’r gwaith gychwyn, cynhaliwyd ymgynghoriad gyda chynrychiolwyr lleol, peirianwyr priffyrdd a rheolwyr coedwigoedd a luniodd Gynllun Rheoli Traffig Cludo Pren Y Coelbren ar y cyd.

Roedd y cynllun yn cyfyngu ar yr arfer o gludo pren i amseroedd penodol yn ystod y dydd er mwyn osgoi amseroedd danfon/nôl plant ysgol, a cheid cyfyngiad cyflymder o 20 milltir yr awr hyd nes yr oedd y traffig wedi cyrraedd cefnffordd yr A4221.

Meddai Alastair Squire, Uwch Rheolwr Coedwigoedd a Chynaeafu yn Scottish Woodlands, ac Iwan Parry, Uwch Reolwr Coedwigoedd yn Tilhill Forestry Limited:

“Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd i leihau effaith traffig cludo pren ar gymuned Y Coelbren. O fewn dim, roedd ein cludwyr wedi cytuno ac yn cydymffurfio â’r cynllun, ac ymddengys fod hyn wedi ymdrin â’r holl faterion a oedd yn pryderu trigolion yr ardal.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.