Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Gofyn yn daer i bysgotwyr ryddhau pob eog

Angler releasing a salmon into the river

Gofynnir yn daer i bysgotwyr yng Nghymru helpu i warchod stociau pysgod trwy gytuno i ryddhau’r holl eogiaid a gaiff eu dal ganddynt yn 2015, yn ogystal â mwy o sewin.

Gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru’r cais hwn yn dilyn adroddiadau fod niferoedd eogiaid yn afonydd Cymru wedi dirywio’n sylweddol y llynedd; ac er bod niferoedd sewin yn fwy amrywiol, gyda rhai afonydd yn well na’i gilydd, ymddengys fod eraill yn parhau i ddirywio.

Fel ymgais i ymdrin â hyn, mae CNC yn dymuno gweld pysgotwyr yn rhyddhau’r holl eogiaid a gaiff eu dal ganddynt, yn ogystal â mwy o sewin, er mwyn sicrhau y bydd mwy o bysgod yn ymfudo i fyny’r afon i silio a chreu mwy o bysgod ifanc i roi hwb i’w niferoedd.

Ar hyn o bryd, caiff 78% o eogiaid a siwin ar gyfartaledd eu rhyddhau ar ôl iddynt gael eu dal.

Mae’r ffigurau sy’n deillio o Afon Gwy ac Afon Taf, lle mae is-ddeddfau ar waith sy’n gorfodi pysgotwyr i ryddhau’r holl bysgod hyn, yn awgrymu y gall yr arfer o ddal a rhyddhau gael effaith gadarnhaol ar stociau pysgod.

Mae niferoedd eogiaid yn 2014 wedi cynyddu yn Afon Gwy ac Afon Taf fel ei gilydd, a rhagwelir na fyddant yn y categori ‘mewn perygl’ erbyn 2019 diolch i gyfuniad o ddal a rhyddhau a gwelliannau yn eu cynefin ac ansawdd y dŵr.

Caiff stociau pysgod eu hasesu bob blwyddyn yng Nghymru mewn 23 o afonydd eogiaid a 27 o afonydd siwin, a chânt eu rhoi wedyn mewn categorïau risg.

Dengys yr asesiadau sy’n seiliedig ar ffigurau 2014 fod 23 o afonydd eogiaid naill ai ‘mewn perygl neu ‘mewn perygl yn ôl pob tebyg’.

Ymhellach, ceir pryder ynghylch stociau siwin mewn ambell le, yn enwedig yn yr afonydd ‘mewn perygl’ a ganlyn: Llwchwr, Tywi, Taf, Ystwyth, Cleddau Dwyreiniol a Chleddau Gorllewinol. Ac mae afonydd Afan, Tawe, Gwendraeth, Aeron a Seiont ‘mewn perygl yn ôl pob tebyg’.

Meddai Rob Evans, cynghorydd pysgodfeydd CNC:

“Roedd nifer y pysgod, ac yn enwedig yr eogiaid, a ymfudodd i nifer o afonydd Cymru yn isel iawn y llynedd, felly rydym yn gofyn i bysgotwyr helpu trwy ryddhau mwy o’r pysgod a ddaliant er mwyn rhoi hwb i’r genhedlaeth nesaf.

“Eisoes, mae mwyafrif y pysgotwyr yn dal ac yn rhyddhau’r pysgod yn wirfoddol, ac maen nhw wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd lawer; ond rydym o’r farn fod y sefyllfa erbyn hyn mor ddifrifol i eogiaid nes ein gorfodi i ofyn yn daer i bysgotwyr ryddhau’r holl eogiaid a gaiff eu dal ganddyn nhw.

“Rydym wrthi’n ystyried dewisiadau’n ymwneud ag is-ddeddfau, a byddwn yn cynnal ymgynghoriadau’n ddiweddarach yn y flwyddyn yn ymwneud â chamau newydd posibl ar gyfer pysgodfeydd rhwydi a gwialen.

“Y dyddiau yma, mae pwysau o bob math yn wynebu eogiaid a sewin, gan gynnwys colli eu cynefin, pysgota anghyfreithlon, goroesiad gwael yn y môr a hinsawdd gyfnewidiol; ond mae astudiaethau wedi dangos bod mwyafrif llethol y pysgod a gaiff eu rhyddhau yn byw i silio’n llwyddiannus.

“Mae’n hollbwysig, fodd bynnag, i’r pysgod gael eu trin yn ofalus a’u rhyddhau cyn gynted ag y bo modd ac mor ofalus â phosibl.”

Mae dal a rhyddhau ymhlith nifer o fentrau sydd ar waith i wella stociau pysgod Cymru.

Yn ystod y 12 mlynedd diwethaf mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Rhaglen Pysgodfeydd Cynaliadwy a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd, mewn partneriaeth â’r Rivers Trusts ac eraill, wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd er mwyn gwella stociau pysgod.

Fel rhan o hyn, agorwyd mwy na 1,500 cilometr o fynediad i hwyluso pysgod i gyrraedd safleoedd silio trwy adeiladu llwybrau pysgod a gwella mwy na 500 cilometr o’u cynefin – er enghraifft, trwy godi ffensys i rwystro defaid a gwartheg rhag mynd at lannau afonydd.

Er mwyn rhoi’r cyfle gorau i bysgod oroesi, dylai pysgotwyr ddefnyddio bachau sengl neu ddwbl heb adfachau, dirwyn y pysgodyn yn gyflym, ei gadw yn y dŵr drwy’r amser a chynnal y pysgodyn tra mae’n wynebu’r cerrynt hyd nes y bydd yn ddigon cryf i nofio ymaith.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.