Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Galw ar bysgotwyr i ryddhau pob eog

Angler holding a salmon while standing in a river

Gofynnir yn daer i bysgotwyr yng Nghymru helpu i warchod stociau pysgod trwy ryddhau’r holl eogiaid a gaiff eu dal ganddynt yn ystod 2017.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwneud y cais hwn gan fod nifer yr eogiaid yn afonydd Cymru yn parhau i beri pryder difrifol.

Meddai Dave Mee, uwch gynghorydd pysgodfeydd yn CNC:

“Mae’r eog yn rhan bwysig o’n hamgylchedd a’n diwylliant yng Nghymru, felly mae’n hollbwysig inni wneud popeth o fewn ein gallu i geisio gwarchod cymaint o bysgod ag y gallwn.

“Fe hoffem weld pysgotwyr a rhwydwyr yn rhyddhau’n wirfoddol bob eog a mwy o siwin er mwyn gwneud yn siŵr y bydd mwy o bysgod yn goroesi i ymfudo i fyny’r afon i silio a chynhyrchu mwy o bysgod ifanc, gan roi hwb i’r stociau.”

Caiff stociau pysgod mewn 23 o afonydd lle y ceir eogiaid a 33 o afonydd lle y ceir siwin eu hasesu bob blwyddyn yng Nghymru a’u gosod mewn categorïau’n ôl eu perygl o fethu â chyflawni targedau pwysig yn ymwneud â stociau.

Mae’r asesiadau ar gyfer 2016 yn dangos bod pob un ond dwy o’r afonydd lle y ceir eogiaid (sef Hafren ac Wysg) yn methu â chyrraedd eu targed a’u bod naill ai ‘mewn perygl’ neu ‘mewn perygl yn ôl pob tebyg’. Ar gyfer siwin, mae 16 o blith y 33 afon a aseswyd mewn cyflwr gwael, gydag ychydig iawn o bysgod yn silio.

Caiff oddeutu 78% o eogiaid a siwin eu rhyddhau ar ôl cael eu dal, er mae hyn yn cynnwys mesurau statudol presennol. Mae nifer y pysgod a gaiff eu dychwelyd yn wirfoddol oddeutu 60% yn ystod yr haf.

Meddai Peter Gough, prif ymgynghorydd pysgodfeydd yn CNC:

“Er bod lefel y stociau’n parhau i beri pryder, mae rhai o afonydd Cymru yn dangos arwyddion addawol.

 “Gwelwyd cynnydd calonogol yn nifer yr eogiaid yn Afon Gwy yn 2015 a 2016 ac rydym yn rhagweld y bydd yr afon yn symud o’r categori ‘mewn perygl’ erbyn 2020 i’r categori ‘heb fod mewn perygl yn ôl pob tebyg’.

“Credwn mai cyfuniad o arferion ‘dal a rhyddhau’ cynharach a ffyrdd eraill o reoli pysgota sydd wrth wraidd y canlyniad hwn.

“Trwy gyfrwng partneriaeth gref, yn bennaf gyda Sefydliad Gwy ac Wysg, a hefyd Asiantaeth yr Amgylchedd, Dŵr Cymru Welsh Water a CNC, mae yna welliannau sylweddol wedi’u cyflwyno i’r cynefin ac i ansawdd y dŵr.

“Mae’n werth sôn am Afon Ogwr hefyd, gyda Chymdeithas Bysgota Ogwr wedi cyflwyno eu rheolau eu hunain er mwyn sicrhau bod 100% o’r eogiaid yn cael eu rhyddhau."

 Ychwanegodd Dave Mee:

“Y llynedd roedd nifer y pysgod – eogiaid yn arbennig – a oedd yn ymfudo i nifer o afonydd Cymru yn bryderus o isel. Rydym wedi cael dalfeydd bychain iawn, yn enwedig gleisiaid (sef eogiaid sy’n dychwelyd ar ôl eu gaeaf cyntaf yn y môr), ers tair blynedd bellach.

“Eisoes mae’r rhan fwyaf o bysgotwyr yn mynd ati’n wirfoddol i ryddhau’r pysgod a gaiff eu dal ganddynt, ond rydym o’r farn fod y sefyllfa mor ddifrifol i eogiaid erbyn hyn nes ein gorfodi i ofyn i bob pysgotwr ryddhau pob un o’u heogiaid.

 “Rydym yn ystyried camau rheoli pellach ac rydym wedi bod yn ymgysylltu â physgotwyr ac eraill sydd â budd yn y maes i geisio annog mwy o ymdrech wirfoddol.

“Mae nifer yr eogiaid sy’n goroesi yn y môr wedi gostwng yn sylweddol ac ar hyn o bryd mae’n is nag a welwyd erioed o’r blaen. Mae hyn yn anodd ei daclo; ond mae yna bwysau ychwanegol ar ein stociau pysgod y dyddiau hyn, gan gynnwys niwed i gynefinoedd, llygredd a physgota anghyfreithlon, ac fe allwn wneud rhywbeth ynglŷn â’r pethau hyn.

“Tra y mae hyn ar y gweill, cael pysgotwyr i ryddhau eu pysgod yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o geisio diogelu ein stociau trwy ganiatáu i fwy o bysgod oroesi a silio.”

Er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’r pysgod oroesi, mae’n bwysig iddynt gael eu trin gyda gofal mawr a’u rhyddhau mor gyflym ac mor ofalus â phosibl. Gall pysgotwyr helpu trwy ddefnyddio bachau sengl neu ddwbl heb adfachau, delio â’r pysgodyn yn gyflym, ei gadw yn y dŵr drwy’r amser a chynnal y pysgodyn wrth iddo wynebu’r cerrynt hyd nes y bydd yn ddigon cryf i nofio ymaith.

Gall dulliau pysgota fel defnyddio bachau abwyd neu fachau triphlyg leihau’n arw siawns y pysgodyn o oroesi a chaiff pysgotwyr eu hannog i ddefnyddio dulliau eraill.

Mae ‘dal a rhyddhau’ yn un fenter o blith llawer sydd â’r nod o wella stociau pysgod Cymru.

Yn ystod y pymtheg mlynedd ddiwethaf mae Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Afonydd, Llywodraeth Cymru a’r Rhaglen Pysgodfeydd Cynaliadwy, wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn gwella stociau.

Mae hyn wedi cynnwys agor mwy na 1,500 cilometr o safleoedd silio a oedd cyn hynny’n anhygyrch trwy adeiladu ysgolion a hwylusfeydd pysgod, a gwella mwy na 500 cilometr o gynefin.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.