Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Gofyn i bysgotwyr ryddhau pob eog

Angler holding a salmon while standing in the River Usk

Gofynnir unwaith yn rhagor i bysgotwyr helpu i warchod stociau pysgod trwy ryddhau pob eog a gaiff ei ddal ganddynt rhwng rŵan a diwedd y tymor.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn hyn yn dilyn adolygiad o’r data monitro sy’n dangos bod stociau eogiaid mewn ambell afon yng Nghymru – yn arbennig Afon Wysg, Afon Tywi ac Afon Clwyd – yn wynebu bygythiad ‘digyffelyb’, diolch i ostyngiad dramatig yn nifer y silod mân.

Meddai Dave Mee, uwch-gynghorydd pysgodfeydd yn CNC:

“Mae’r eog yn rhan bwysig o’n hamgylchedd a’n diwylliant yng Nghymru ac mae pysgota’n cyfrannu’n fawr at yr economi wledig. Yn awr, rhaid inni gymryd camau i warchod ein stociau.

“Yn aml, yn ystod wythnosau olaf y tymor y caiff y nifer fwyaf o eogiaid eu dal, felly mae angen inni sicrhau ar frys fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i roi cyfle i gynifer o eogiaid â phosibl silio ac atgynhyrchu mwy o bysgod ifanc er mwyn rhoi hwb i’r stociau.”

Ar hyn o bryd caiff 78% o eogiaid Cymru ar gyfartaledd eu rhyddhau ar ôl cael eu dal, ond mae hyn yn cynnwys y cyfnod cyn 16eg Mehefin bob blwyddyn, pan mae pysgota ‘dal a rhyddhau’ eisoes yn ofynnol yn ôl is-ddeddf, a hefyd Afon Gwy ac Afon Taf lle y mae ‘dal a rhyddhau’ yn ofynnol drwy gydol y tymor.

Y wir gyfradd ar gyfer ‘dal a rhyddhau’ gwirfoddol, lle y mae pysgotwyr yn dewis gwneud hynny, yw ychydig yn uwch na 50% ar draws Cymru.

Mae ffigurau ar gyfer Afon Gwy ac Afon Taf, lle y mae is-ddeddfau ‘dal a rhyddhau’ llawn ar waith, yn awgrymu y gall yr arfer gael effaith gadarnhaol a chyflym ar stociau pysgod heb effeithio ar niferoedd pysgotwyr nac ar y manteision economaidd cysylltiedig.

Mae Cymdeithas Bysgota Ogwr yn un enghraifft lle y mae pysgotwyr eisoes wedi cyflwyno’u rheolau eu hunain er mwyn sicrhau bod 100% o’r eogiaid a ddelir yn cael eu rhyddhau heb fod angen unrhyw ddeddfwriaeth. Mae hwn yn ddewis sydd ar gael i bob pysgotwr, clwb pysgota a physgodfa breifat.

Ychwanegodd Dave:

“Mae CNC yn cynyddu ei ymdrechion i ddod o hyd i achos y dirywiad, a allai fod yn gysylltiedig â’r tymheredd mis Rhagfyr uchaf i’w gofnodi, a ddigwyddodd yn 2015; ond yn y cyfamser, gall pysgotwyr chwarae eu rhan trwy ‘ddal a rhyddhau’ yn wirfoddol.

“Mae nifer yr eogiaid sy’n ymfudo’n ôl i’n hafonydd yn bryderus o isel, ac ochr yn ochr â’r dirywiad digyffelyb yn niferoedd silod mân eleni mae’n golygu bod pob pysgodyn llawndwf angen cyfle i silio.

“Mae nifer o bysgotwyr eisoes yn rhoi arfer ‘dal a rhyddhau’ ar waith, ac wedi bod yn gwneud hynny ers sawl blwyddyn. Ond yn awr, rydym o’r farn fod y sefyllfa mor ddifrifol i eogiaid nes bod yn rhaid inni ofyn ar frys i bysgotwyr ryddhau pob eog tra’r ydym yn ystyried pa gamau rheoli y gall fod eu hangen yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Rhys Llywelyn, Llywydd Cymdeithas Genweirwyr Eog a Brithyll Cymru:

“Yn amlwg, dylai pob eog gael ei arbed er mwyn iddo allu silio, ac ar gyfer y dyfodol fe fydd angen inni roi ystyriaeth i orbysgota. Fe fydd gwytnwch a strategaethau bywyd yr eog yn gwneud yn iawn am hyn i ryw raddau, felly mae’r angen pwysig i barhau i’w hadfer ym mhob un o’n hafonydd yn parhau.

“Mae’n hanfodol i bysgotwyr ddefnyddio dulliau sy’n sicrhau bod yr eogiaid a gaiff eu rhyddhau’n cael y cyfle gorau posibl i oroesi.

“Mae defnyddio bachau sydd heb adfachau, fel y gellir rhyddhau’r pysgod yn rhwydd ac yn gyflym, a pheidio â chodi’r pysgod o’r dŵr wrth eu dadfachu, yn ddwy ffordd hollbwysig o wella’u goroesiad.

“Mae codi pysgod i’r awyr am 30-60 eiliad yn haneru eu siawns o oroesi. Dychmygwch eich bod wedi rhedeg nes eich bod wedi ymlâdd, ac yna’n gorfod dal eich anadl? Gall delio â’r pysgodyn yn gyflym ac yn ofalus wneud gwahaniaeth mawr.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.