Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Gofyn i bysgotwyr helpu i hybu stociau o eogiaid a brithyll môr dan fygythiad

Gofynnir i bysgotwyr helpu i warchod stociau pysgod drwy gytuno i ryddhau mwy o'r eogiaid a'r brithyll môr y maent yn eu dal.

Daw'r cais hwn yn sgil adroddiadau fod niferoedd eogiaid a brithyll môr yn afonydd Cymru wedi gostwng y llynedd.

Fel rhan o'n hymdrechion i fynd i'r afael â hyn, byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn hoffi gweld pysgotwyr yn rhyddhau o leiaf 90% o'r pysgod y maent yn eu dal mewn afonydd eogiaid sydd 'mewn perygl'.

Drwy ryddhau mwy o'r eogiaid a'r brithyll môr y maent yn eu dal, bydd mwy o bysgod yn gallu symud i fyny'r afon i silio a chynhyrchu mwy o bysgod ifanc i hybu'r boblogaeth.

Ar hyn o bryd mae 72% ar gyfartaledd o eogiaid a 76% o frithyll môr yn cael eu rhyddhau ar ôl cael eu dal.

Awgryma ffigurau o Afon Gwy ac Afon Taf, lle ceir is-ddeddfau dal a rhyddhau 100% gorfodol, bod system 'dal a rhyddhau' yn cael effaith bositif ar stociau pysgod.

Cynyddodd niferoedd eogiaid yn Afon Gwy ac Afon Taf yn 2013, a bellach rhagwelir y byddant yn symud o'r categori 'mewn perygl' erbyn 2018.

Fwy na thebyg, mae hyn o ganlyniad i gyfuniad o reolau dal a rhyddhau a gwelliannau yn ansawdd y cynefin ac ansawdd y dŵr.

Mae stociau pysgod mewn 23 o afonydd eogiaid a 27 o afonydd brithyll môr, yn cael eu hasesu'n flynyddol yng Nghymru a'u gosod mewn categorïau perygl.

Mae'r asesiadau sy'n seiliedig ar ffigurau 2013 yn dangos bod 20 o afonydd eogiaid un ai 'mewn perygl' neu 'mewn perygl tebygol'.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, yn arbennig, eisiau gweld mwy o eogiaid yn cael eu rhyddhau yn afonydd Ogwr, Tywi, Taf, Dwyrain a Gorllewin Cleddau, Rheidol, Nyfer, Dyfi a Seiont.

Roedd cyfradd dal a rhyddhau ar Afon Dyfrdwy eisoes ar lefel galonogol o 81% y llynedd ond argymhellir y dylai hyn gyrraedd o leiaf 90% eleni.

Hefyd ceir achos pryder gyda golwg ar stociau brithyll môr, yn arbennig mewn afonydd 'mewn perygl' fel Afon Llwchwr, Tywi, Taf a Dwyrain a Gorllewin Cleddau, yn ogystal ag afonydd 'mewn perygl tebygol' fel Afon Tawe, Nyfer, Rheidol, Ystwyth, Dwyryd, Seiont ac Afon Conwy.

Meddai Rob Evans, cynghorydd pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Roedd nifer y pysgod oedd yn mudo i lawer o afonydd Cymru yn bryderus o isel y llynedd felly rydym yn gofyn i bob pysgotwr ein helpu drwy ryddhau mwy o'r pysgod y maent yn eu dal er mwyn hybu'r genhedlaeth nesaf.

"Mae'r rhan fwyaf o bysgotwyr eisoes yn defnyddio'r dull dal a rhyddhau o'u gwirfodd ers nifer o flynyddoedd. Gallai cyrraedd cyfraddau dal a rhyddhau o 90% mewn afonydd eogiaid sydd 'mewn perygl' a chynyddu mwy ar nifer y brithyll môr sy'n cael eu rhyddhau, yn arbennig y pysgod mwy, helpu i osgoi'r angen am fwy o is-ddeddfau gorfodol.

"Mae llawer o elfennau sy'n effeithio ar eogiaid a brithyll môr y dyddiau hyn, gan gynnwys colli cynefin, goroesiad isel yn y môr a newid hinsawdd ond dangosodd astudiaethau bod y mwyafrif helaeth o bysgod sy'n cael eu rhyddhau, os cânt eu trin yn ofalus, yn llwyddo i silio yn llwyddiannus."

Mae dal a rhyddhau yn un o nifer o fentrau i wella stociau pysgod yng Nghymru.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Rhaglen Pysgodfeydd Cynaliadwy sy'n cael ei chyllido gan yr UE, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaethau Afonydd a chyrff eraill, wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd i wella stociau.

Golygai hyn agor mwy na 1,500km o fynedfeydd i ardaloedd silio drwy adeiladu ysgolion pysgod a gwella mwy na 500km o gynefin drwy, er enghraifft, ffensio i rwystro defaid a gwartheg rhag agosáu at lannau afonydd.

Mae cyfyngiadau wedi bod ar ddalfeydd rhwydwyr hefyd yn ystod y blynyddoedd diweddar, ond efallai bod angen gorfodi mwy o gyfyngiadau. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ddiweddarach eleni fel rhan o'r broses i adolygu ein Gorchymyn Cyfyngu ar Rwydi.

Er mwyn rhoi'r cyfle gorau i bysgod oroesi, dylai pysgotwyr ddefnyddio bachau didagell sengl, blino'r pysgodyn yn gyflym, ei ddal o dan y dŵr drwy'r adeg a'i gynnal drwy ei ddal i gyfeiriad y cerrynt nes bydd yn ddigon cryf i nofio ymaith.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.