Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Plannu 750,000 o goed i ailstocio coedwigoedd a effeithiwyd gan glefyd y llarwydd

Mae gwaith gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ailblannu rhannau eang o goetir a dorrwyd o ganlyniad i glefyd y llawrydd wedi’i gwblhau mewn nifer o goedwigoedd ledled Cymru yn yr wythnosau diwethaf.

Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd pwysig megis Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth, Cwm Afan ger Castell-nedd a Choed Gwent yn Nyffryn Gwy.

Yn y 18 mis diwethaf, mae arbenigwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru wedi plannu mwy na 750,000 o goed i ailstocio ardaloedd a gwympwyd yn sgil y clefyd.

Mae hyn ochr yn ochr â’r 3.4 miliwn o goed a ailblannwyd mewn coetiroedd eraill i adfywio’r coedwigoedd ar ôl torri ar gyfer cynhyrchu pren.

Mae’r gwaith wedi ei ariannu yn rhannol gan £2.5 miliwn o arian ychwanegol gan Llywodraeth Cymru.

Bellach mae’r arbenigwyr yn ailblannu 37 rhywogaeth wahanol o goed yn lle’r rheiny a gwympwyd, yn cynnwys coed derw, ceirios a phisgwydd cynhenid yn ogystal â phren sy’n haws ei farchnata fel ffynidwydd Douglas, sbriws Serbia a chedrwydd cochion.

Mae hyn ddwywaith nifer y rhywogaethau coed a fyddai wedi cael eu plannu ddeng mlynedd yn ôl.

Y nod yw creu coetir sy’n gallu gwrthsefyll clefydau yn well a chreu coedwig fwy deniadol i ymwelwyr a chynnig cynefin i fwy o rywogaethau bywyd gwyllt.

Mae’r gwaith ailblannu ar ystâd goetir Llywodraeth Cymru yn digwydd mewn ymateb i’r angen i dorri dros 2 miliwn o goed, a oedd yn gorchuddio bron i 2000 hectar o dir, ers i’r clefyd gael ei ddarganfod gyntaf yn 2010.

Cadarnhawyd bellach fod coed a heintiwyd yn gorchuddio dros 6600 hectar o goetir, 5300 ohonynt ar ystâd goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Canfu arolygon yn 2013 fod y clefyd wedi lledaenu’n gynt na’r disgwyl wedi i aeaf gwlyb a chynnes greu’r hinsawdd berffaith i’r sborau deithio i goed eraill.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal mwy o arolygon yn y misoedd nesaf i asesu hyd a lled yr ardaloedd a heintiwyd gan y clefyd.

Meddai Neil Muir o Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae mynd i’r afael â’r clefyd hwn yn ein coed llarwydd yn dasg anodd. Rydym yn gweithio ar strategaeth newydd *Llywodraeth Cymru sy’n anelu i arafu’r clefyd drwy dorri coed mewn ardaloedd a heintiwyd o’r newydd.

“Serch hynny, mae yna agwedd bositif i’r clefyd hwn oherwydd mae gennym gyfle unwaith mewn oes i ailgynllunio’r coedwigoedd sydd yn ein rheolaeth i’w gwneud yn fwy gwydn yn wyneb clefydau ac yn llefydd gwell i bobl a bywyd gwyllt.

“Rydym angen hefyd i bobl sy’n mwynhau’n coedwigoedd, fel cerddwyr, beicwyr mynydd a theuluoedd ar ddiwrnod allan  gymryd camau syml i’n helpu i arafu lledaeniad clefydau fel hyn.”

Gall pobl gael cyngor ar ba gamau y gallant eu cymryd i reoli lledaeniad clefydau ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r rhain yn cynnwys cadw at lwybrau’r goedwig, cadw cŵn ar dennyn a glanhau pridd, nodwyddau a thameidiau o blanhigion oddi ar esgidiau a dillad ar ddiwedd eich ymweliad.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.