Gaeaf yn y twyni tywod

Gaeaf yn y twyni tywod

CYHOEDDWYD: 16 CHWEF 2017

AWDUR: Rhodri Dafydd

Sand dunes at Morfa Dyffryn

Gyda mwy na 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru, mae pob un ohonom o fewn ychydig filltiroedd o le arbennig lle y gellir darganfod natur.

Mae ein cydweithwyr sy'n gofalu am y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol wedi dod ynghyd i ysgrifennu blog, gyda'r bwriad o roi newyddion diweddaraf a helyntion gwahanol safle ichi bob mis.

Y mis hwn, Rhodri Dafydd, Uwch Reolwr Gwarchodfeydd Morfa Harlech a Morfa Dyffryn, Gogledd Cymru...

Pe bawn yn gofyn i chi gau eich llygaid, eistedd yn ôl am ennyd, a meddwl am dwyni tywod, rwy’n siwr y byddai’r mwyafrif ohonoch yn dychmygu golygfa ddelfrydol, hafaidd Flooded dune slack at morfa dyffryn– tywod gwyn, ychydig o foresg yn siglo yn yr awel ysgafn, awyr las uchben a chynhesrwydd bendigedig yr haf ar ei orau. Onid godidog fyddai cael gweithio yn y fath amgylchedd…

Rwan ta – caewch eich llygaid eto, a dychmygwch eich bod yno yng nghanol mis Ionawr, a’r rhewynt wedi dod a’r tymheredd i lawr i -2. Mae’r tywod a fuoch yn ei deimlo yn feddal a chynnes rhwng bodiau eich traed yn gynharach yn awr yn cael ei chwythu i’ch llygaid gan gorwynt, ac yn ffeindio ei ffordd i mewn i bob cilfach a thwll a chornel. Mae’r tywod dan eich traed wedi rhewi fel concrid, ac yn hytrach na cherdded drwy slaciau twyni gogoneddus yn llawn blodau gwyllt – rydych yn rhydio drwy ddŵr poenus o rewllyd a fydd yn sicr o ddod dros ben eich welingtons ymhen dim - gan sicrhau y bydd eich traed fel dau floc o rew erbyn i chi gyrraedd yn ôl at y fan.

Dim mor braf erbyn hyn o bosib?! Nid wyf yn gorddweud wrth gwrs – gall y tywydd fod yn echrydus ac mae’r disgrifiadau uchod yn codi o brofiad – ond, er nad ydynt yn ymddangos yn ddeniadol yn ystod y gaeaf ar yr olwg gyntaf.

Mae twyni tywod ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn fendigedig ar unrhyw adeg o’r flwyddyn

Does yna byth ddiwrnod diflas, ac yn wir gall rhai o’r profiadau gorau o fywyd gwyllt daro ynghanol gaeaf hirlwm. Dod ar draws haid o frain coesgoch yn bwydo er engrhaifft; taro ar sgwarnog yn annisgwyl; neu hyd yn oed gael cipolwg ar foda tinwyn yn hela yn isel dros y morfa heli. Beth sy’n gwneud y profiad yn well byth yw y gallwch osgoi pobl yn gyfangwbl bron iawn, gan fwynhau unigrwydd y lleoliadau hardd, agored, gwyllt bron iawn ar eich pen eich hun. Dyma ‘le i enaid gael llonydd’.

Oes, mae gan y twyni eu hud eu hunain yn ystod golau egwan, isel y gaeaf

Ond mae tywydd tymhestlog, gwyllt y gaeaf ar yr arfordir – gwyntoedd cryfion, tonnau stormus a llifogydd yn y slaciau – oll yn rhan o beth sydd wedi creu ac sydd yn cynnal y cynefin newidiol hwn hefyd – ac felly mae astudio – a phrofi’r elfennau yn rhan annatod o ddeall yr ardaloedd cymhleth hyn.

Gweithio gydag eraill mewn prosiect ymchwilMorfa dyffryn sand dunes

Ar Forfa Dyffryn, yr ydym yn dechrau trafod prosiect ymchwil newydd cyffrous gyda choleg Hope, Michigan a phrifysgol Hope, Lerpwl i edrych ar ddatblygiad ‘blowouts’ yn y twyni (h.y. edrych ar ba effaith mae gwynt yn ei gael wrth siapio’r twyni); gyda thîm o ymchwilwyr o’r Unol Daleithiau ar hyn o bryd yn brysur yn paratoi i ymweld â’r safle unwaith eto ym mis Mehefin i gynnal nifer o arbrofion a chasglu amrywiaeth eang o ddata amgylcheddol.

Tra’n bod yn parhau i gasglu peth data ein hunain – er enghraifft monitro newidiadau yn lefel y dŵr daear – ac yr ydym ar fin gosod gorsaf fonitro’r tywydd a fydd yn casglu mwy o ddata ynghylch cyflymder gwynt a glawiad yn Harlech - mae ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn safleoedd hynod bwysig ble gall gwaith ymchwil (sydd yn aml o bwysigrwydd rhyngwladol) ddigwydd yn rheolaidd. Gyda’n cyllid ni yn dirywio oherwydd toriadau yn y sector gyhoeddus mae ein gallu i gynnal gwaith ymchwil ein hunain yn gyfyngedig dros ben – ac oherwydd hyn bydd partneriaethau â phrifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill yn dod yn fwyfwy pwysig yn y dyfodol.

Y mae Morfa Dyffryn yn safle gwych ar gyfer ymchil oherwydd iddo gael ei gydnabod fel un o’r unig systemau twyni tywod sydd yn parhau i gynnal ardaloedd mawr, naturiol o dywod noeth. Mae ar nifer o blanhigion a phryfed arbenigol y twyni angen amgylchiadau ‘agored’ (hynny yw tywod noeth, gyda dim neu ond ychydig o blanhigion yn bresennol) oddi mewn i’r system twyni. Yr ydym wedi colli’r amgylchiadau hyn o nifer o systemau twyni eraill dros y blynyddoedd wrth i lystyfiant eu gorchuddio; ac felly mae tywod noeth bellach yn nodwedd yr ydym yn sylweddoli sydd yn hollbwysig mewn termau Ewropeaidd. Y mae yn rhywbeth yr ydym bellach yn gweithio i’w efelychu ar safleoedd eraill drwy ddulliau artiffisial i ddechrau (gweler blog Duncan Ludlow o fis mai llynedd i weld peth o’r gwaith a gyflawnwyd ar dwyni Merthyr Mawr er enghraifft). Yn hyn o beth rwy’n edrych ymlaen i weld y safle hwn yn parhau i gyfrannu at wybodaeth fyd-eang am dwyni tywod a’r prosesau sy’n effeithio arnynt.

Gyda Morfa Harlech yn rhan o gais CNC am gyllid Ewropeaidd o dan faner LIFE (‘Twyni symudol’ – gobeithiwn glywed yn fuan os oedd y cais yn llwyddianus ai peidio!) a phartneriaeth ar y gweill gyda Natural England a fydd gobeithio yn fodd o ariannu prosiectau cadwraethol, mae amser cyffrous ar y gorwel i dwyni tywod Cymru, sydd cyn bwysiced ag erioed ar y llwyfan byd-eang.

Ymweld â Morfa Dyffryn and Morfa Harlech

Yr ydym yn croesawu ymwelwyr gofalus i’r gwarchodfeydd natur hyn. Dysgwch fwy am yr ardal ar ein gwefan.

Byddwn yn cynnal digwyddiad glanhau traeth ar Forfa Dyffryn y gwanwyn hwn. Dewch i’n cynorthwyo i lanhau sbwriel a phlastig o’r traeth hyfryd.

Darperir menyg, bagiau ac offer codi sbwriel ar y diwrnod. Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas – a pheidiwch anghofio dod â chinio efo chi!

Pryd: Dydd Sadwrn 4ydd Mawrth 2017

Lle: Maes parcio Benar, Dyffryn Ardudwy

Amser: 10:00am - 15:00pm

 
Adborth