Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Bob mis mae un o’n timau ni yn ysgrifennu blog i drafod y safleoedd arbennig a warchodir ganddynt. Y tro yma mae Kate Lock, Swyddog Cadwraeth Forol ar Ynys Sgomer, yn siarad am y morloi sy’n byw yn yr ardal, yn ogystal â’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn eu hamddiffyn.

Anaml iawn y cawn ni’r cyfle i wylio mamaliaid gwyllt yn eu hamgylchedd naturiol, dyna un o’r rhesymau pam fod gwylio morloi gwyllt yn brofiad mor hudolus.

Morloi llwyd, Haliochoerus grypus, yw’r ysglyfaethwyr mwyaf ym Mhrydain, a gall y teirw bwyso hyd at 230kg. Maent yn helwyr medrus, gan lwyddo i oroesi mewn amgylchedd sydd yn heriol dros ben.

Gellir gweld morloi hyd arfordir Sir Benfro trwy gydol y flwyddyn, ond mae niferoedd mawr yn dychwelyd i’r glannau oddeutu diwedd yr haf a dechrau’r hydref er mwyn geni’r rhai bychain.

Bydd morlo benywaidd yn dewis traeth tawel neu ogof er mwyn esgor ar un llo bychan.

O’u geni i’w harddegau mewn 3 wythnos

Gallant fod yn ddigon bywiog, gyda rhai’n dechrau nofio yn eu hwythnos gyntaf, ond fel rheol, maent yn tueddu i aros ar y lan.

Bydd y mamau yn dychwelyd yn gyson i’w bwydo, gan eu bod angen treblu eu pwysau yn ystod y tair wythnos gyntaf.

Erbyn daw’r amser i ddiddyfnu’r llo, bydd y fam wedi colli hyd at draean o’i phwysau.

Wedi hynny bydd y lloi yn gorfod gofalu am eu hunain, gan golli’r got wen er mwyn arddangos eu cot newydd aeddfed.

Yna byddant yn gadael y traethau, ond gan ddychwelyd i orffwys yn achlysurol.

Parth Cadwraeth Forol Sgomer (PCF) Monitro Morloi Llwyd

Rydym ni’n monitro’r boblogaeth o forloi llwyd o fewn Parth Cadwraeth Forol Sgomer, gan ddilyn hynt a helynt pob llo bach o’u genedigaeth nes iddynt gael eu diddyfnu.

Caiff y lloi eu geni ar draethau ac yn yr ogofâu sydd o gwmpas Ynys Sgomer, yn ogystal ag ar benrhyn Marloes ar y tir mawr.

Dechreuwyd y monitro manwl ar yr ynys yn 1983, ac ar y tir mawr yn 1992. Golyga hyn fod gennym storfa enfawr o ddata er mwyn gwella’n dealltwriaeth o forloi, ac i ddilyn y newidiadau yn y boblogaeth dros y cyfnod.

Mae’r wybodaeth o gymorth wrth ddatblygu dulliau rheoli sy’n lleihau’r tarfu ar y morloi, gan gynnwys cyfyngiadau cyflymder ger y glannau, a chau ardaloedd dros y tymor magu lloi. Mae taflenni a mapiau ar gael i gynorthwyo ymwelwyr i wylio morloi heb amharu arnynt.

Y newydd da yw bod morloi llwyd yn yr ardal hon yn ffynnu, gyda 345 o loi yn cael eu geni yn PCFSgomer yn 2016, o gymharu â 200 yn 1992.

 Ffeithiau am Forloi Llwyd

  • Morloi llwyd? Gall eu cot amrywio o lwyd tywyll i liw hufen, yn aml gyda phatrymau brown neu arian. Gallent fod yn gringoch hyd yn oed! Pwy ddewisodd eu galw’n llwyd?
  • Mae eu cyrff wedi’u hymestyn a’u gorchuddio gan floneg er mwyn eu gwneud mor effeithlon yn y dŵr ag sy’n bosibl. Mae eu breichiau a’u coesau wedi’u haddasu i fod fel rhwyfau er mwyn symud trwy’r môr. Ar gyfartaledd, maent yn nofio 4mya, gyda chyfnodau byr o deithio’n gyflymach.
  • Gallant blymio hyd at 80m o ddyfnder, gan aros dan y wyneb am 5-6 munud.
  • Pysgod, môr-lewys, a physgod cregyn yw eu bwyd. Mae astudiaethau’n awgrymu eu bod yn bwyta o gwmpas 5kg y diwrnod.
  • Gallant gysgu yn y dŵr, gydag ond eu hwynebau i’w gweld uwch y don, neu ar greigiau ar lanw isel.
  • Gall y morloi benywaidd golli oddeutu 4kg o’u pwysau bob dydd pan fyddent yn magu. Mae nifer yn colli hanner pwysau eu cyrff yn y broses o esgor a bwydo lloi. Er mwyn llwyddo i wneud hyn, maent yn defnyddio tua 30,000 kcal y diwrnod, gyfystyr a ni’n bwyta 70 cacen hufen bob diwrnod!
  • Cafodd y morlo benywaidd hynaf ei chofnodi ar ynysoedd y Shetland yn 46 mlwydd oed, a’r tarw hynaf yn 29 oed yng Nghanada. 30 yw’r disgwyliad oes arferol i’r rhai benywaidd, gan gyrraedd aeddfedrwydd rhywiol rhwng 3 a 5 oed. Mae’r teirw’n tueddu i fod oddeutu 10 oed cyn ennill eu lle mewn grŵp sy’n paru, a’n byw i fod yn 20 oed fel arfer.

Gwylio Morloi: Canllaw i wylio morloi a’u lloi

Pryd:     Rhwng Awst a Rhagfyr

Ble:        Ar draethau penrhyn Marloes ac ar Ynys Sgomer, yn ogystal ag Ynys Dewi a mannau anghysbell ar arfordir gogledd Penfro.

How:     Mae’n hawdd  tarfu ar forloi! Byddwch mor llonydd a thawel ag y gallwch. Bydd y mamau yn cadw draw os cant eu haflonyddu, gan beri i’r lloi fethu â bwydo. Weithiau gall y mamau droi’n ffyrnig, neu gefnu ar y llo.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.