Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Wrth i mi ysgrifennu’r blog hwn, mae’n rhaid i mi gyfaddef ‘mod i’n gwylio Cwpan y Byd.

Ac wrth wneud, dechreuais bendroni pa wlad fyddai’n ennill Cwpan y Byd ar gyfer gwarchodfeydd natur ac ardaloedd cadwraeth. Byddai Cymru, heb os, ar flaen y gad.

Er nad oes gan Gymru gymaint o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol â Lloegr, nac arwynebedd mor fawr â’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn yr Alban, mae ganddi, mae’n siŵr, nifer dda iawn o ardaloedd cadwraeth pwysig a phrydferth

Ond sut fyddech chi’n beirniadu cystadleuaeth fel hon? Trwy ddefnyddio Harddwch? Mae Harddwch yn rhywbeth goddrychol iawn. Beth am Faint? Gall gwarchodfa fechan fod yr un mor bwysig, os nad yn fwy pwysig, na’r un fwyaf. Yn ogystal â hyn, nid cystadleuaeth rhwng gwledydd yw gwarchod natur, ac ni ddylai fod yn gystadleuaeth chwaith. Dyw natur ddim yn cefnogi na chwaith yn chwarae dros dimau gwahanol.

Felly, ar ôl anghofio am y syniad o gael Cwpan y Byd ar gyfer Gwarchodfeydd, dechreuais ystyried sut mae fy ngwaith wedi peri i mi gysylltu â phobl o wledydd eraill, a sut mae fy ngwaith yn cael ei weld o safbwynt cyd-destun byd-eang.

Crëwyd y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNG / GNC) er mwyn amddiffyn rhai o gynefinoedd, rhywogaethau a daeareg pwysicaf Prydain.

Fodd bynnag, mae eu pwysigrwydd yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau Prydain. Mae nifer yn ardaloedd dynodedig o bwysigrwydd Ewropeaidd, ac o bosib, o bwysigrwydd byd-eang. Felly, trwy wneud gwaith cadwraeth ar GNG Twyni Merthyr Mawr a GNG Coetiroedd Pen-hw dwi’n helpu i warchod darnau bychain, ond nid di-nod, o jig-so ecolegol ein planed.

O ran maint mae rhai o’r tasgau yma yn rhai mawr a gallant fod o fudd i gynefinoedd a rhywogaethau e.e. creu cynefin newydd o lac dwyni, neu reoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol.

Mae’r prosiectau llai hefyd yn chwarae rôl ym maes cadwraeth fyd-eang. Er enghraifft, mae effaith plastig ar ein moroedd a’u bywyd gwyllt wedi denu llawer o sylw.

Mae gwirfoddolwyr ym Merthyr Mawr wedi gwneud eu gwaith drwy gasglu sbwriel o’r traeth fyddai wedi ei sgubo allan i’r môr neu wedi ei gladdu yn y twyni tywod fel arall.

Mae ychydig o’r plastig wedi cael ei ailgylchu er mwyn gwneud cynhwyswyr newydd ar gyfer siampŵ a hylif golchi llestri. Efallai nad yw awr neu hyd yn oed ddeg munud o gasglu sbwriel yn ymddangos yn beth mawr, ond mae pob cyfraniad o gymorth.

Dwi hefyd yn ffodus ‘mod i’n cael siarad ag ymwelwyr sy’n dod o bob cwr o’r byd.

Pan mae nifer yr ymwelwyr yn cynyddu wrth i’r haf agosáu, mae’n syndod weithiau clywed o ba mor bell mae rhai pobl wedi teithio er mwyn cyrraedd y rhan hwn o Dde Cymru.

Dwi hefyd yn cael y cyfle i gwrdd ag ymwelwyr ar lefel broffesiynol. Er enghraifft, fel rhan o raglen addysg gyda Phrifysgol Abertawe, croesawodd Merthyr Mawr gynrychiolwyr o dalaith Hainan, China.

Yn ddiweddar, cefais y cyfle i fynychu’r Gweithdy Rhyngwladol Twyni Arfordirol a Thraethau Tywodlyd yn Dunkirk.

Roedd y cynrychiolwyr yn dod o amrywiaeth o wledydd - Ffrainc, Denmarc, Portiwgal, Yr Almaen, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Sbaen, Sweden, Ynys Malta, Latfia, Lithwania a hyd yn oed Hong Kong.

Roedd hi’n ysbrydoliaeth gweld brwdfrydedd a phrofi arbenigedd y gwahanol siaradwyr, ac i glywed am y gwaith cadwraeth sy’n cael ei wneud yn y gwahanol wledydd yma.

Mae cwrdd â phobl sy’n gweithio ym maes cadwraeth natur yn y modd yma yn rhoi cyfle i ni, nid yn unig i arddangos y GNC Cymreig a gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru, ond hefyd i weld gwaith cadwraeth yn digwydd mewn gwledydd eraill, ac i gysylltu â, a chreu dolenni cyswllt â chydweithwyr cadwraeth natur ac i ddysgu o’u gwahanol brofiadau. Mae rhannu gwybodaeth yn hanfodol wrth i ni ddatblygu ein dealltwriaeth o reoli cadwraeth.

Wrth gwrs, dyw cyfathrebu ddim yn digwydd wyneb-yn-wyneb yn unig, ac mae cyfathrebu byd-eang wedi’i weddnewid dros y blynyddoedd diweddar trwy gymorth y we.

Mae tudalen Facebook GNG Twyni Merthyr Mawr yn cynnig porthol gwych ar gyfer hysbysebu’r lle a gwahanol GNC ar draws Cymru. Mae postiadau am Ferthyr Mawr wedi cyrraedd pobl ar draws y byd. O Norwy i Seland Newydd, o’r Unol Daleithiau i Awstralia, Brasil i Fwlgaria, mae postiadau am Ferthyr Mawr wedi’u gweld ym mhedwar ban y byd.

Pan fydd y blog hwn wedi’i gyhoeddi, bydd Cwpan y Byd bron â bod wedi gorffen am bedair blynedd arall.

Ar ddiwedd y gystadleuaeth bydd un wlad wedi ennill. Bydd yr angen am gadwraeth natur yn parhau am dipyn yn hirach. Ond trwy gwrdd â phobl o wledydd eraill, gweithio gyda’n gilydd, a rhannu ein gwybodaeth a’n profiad er budd cadwraeth natur, dwi’n siŵr y bydd natur, a ninnau, i gyd yn ennill.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.