Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Ceunant a ffeniau mwsoglyd

Daw blog y mis hwn gan Jamie Bevan, Uwch Reolwr Gwarchodfeydd ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin…

Mae dros 70 Gwarchodfa Natur Genedlaethol yng Nghymru, felly does neb ohonom yn byw ymhellach nag ychydig filltiroedd i ffwrdd o le arbennig iawn i ddarganfod byd natur.

Mae ein cydweithwyr sy’n gweithio i ofalu am y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNC) wedi dod ynghyd i ysgrifennu blog, sy’n dod â’r newyddion a’r anturiaethau diweddaraf o bob safle i chi bob mis.

Daw blog y mis hwn gan Jamie Bevan, Uwch Reolwr Gwarchodfeydd ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin…

Rwy’n teimlo’n wirioneddol freintiedig i fod yn geidwad dros-dro a Rheolwr Gwarchodfa Allt Rhyd y Groes, yn enwedig am mai’r safle ysblennydd hwn oedd un o’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru.

Trysor cudd yw’r warchodfa, yn swatio mewn cwm pellennig yng Nghanolbarth Cymru, tua 5km i’r gogledd o Randirmwyn, yng ngogledd eithaf sir Gaerfyrddin.

Dyma dir o rostiroedd ucheldir a chymoedd serth, creigiog a choediog, â nentydd chwim yn torri fel cyllell drwyddyn nhw. Dim ond ymwelwyr mentrus sy’n dod yma, a’r ffermwyr defaid gwydn sy’n naddu bywoliaeth o’r dirwedd arw hon.

Gorau Po Leiaf

Yn wahanol i rai o’r Gwarchodfeydd Natur eraill yr ydym ni wedi blogio amdanyn nhw, gwarchodfa goedwig dderw yw hon, ble mae’r galw am reolaeth gadwraethol yn golygu ymyrraeth isel.

Rydym ni’n defnyddio pori ysgafn gan ddefaid, sy’n helpu cynefin cyffredinol y goedwig, mwsoglau, cennau ac adar arbennig y goedwig. Ond ar y cyfan, rydym ni’n gadael i’r goedwig wneud yr hyn y mae hi’n ei wneud yn naturiol, ac rydym ni’n annog prosesau deinamig naturiol.

Fy hoff adeg o’r flwyddyn yn Allt Rhyd y Groes yw mis Ebrill. Dyma pryd y bydd adar fel y gwybedog brith a’r tingoch yn dychwelyd o Affrica. Ar ôl y daith bell maent yn ymuno â’r adar lleol fel y dringwr bach, delor y cnau a’r titwod hefyd.

Wrth gerdded drwy’r warchodfa yr adeg hon o’r flwyddyn, fe glywch chi’r gog yn galw ar draws y cwm. Bydd ceiliog telor y coed, yn ysblennydd mewn plu brest melyn a chân flodeuog, yn hedfan yn ôl ac ymlaen drwy’r coed, gan wneud ei orau glas i ddenu cymar.

Daeth Allt Rhyd y Groes i ofal y Warchodaeth Natur gyntaf yn 1959, gyda’r pwrpas syml o geisio gwarchod un o leoliadau olaf y barcud coch.

Bellach, wrth i’r barcud ffynnu, a rhai miloedd o barau’n magu’n llwyddiannus ledled y DU, mae hi’n hawdd anwybyddu’r ymdrechion cadwraeth enfawr a ddigwyddodd pan oedd y boblogaeth yn ddim mwy na nifer fach o adar yng Nghymru. Roedd casglu wyau’n fygythiad gwirioneddol, a bu milwyr y Gurkha hyd yn oed yn gwarchod nythod barcutiaid Rhyd y Groes bob awr o’r dydd a’r nos – a gwae unrhyw gasglwr wyau a fyddai’n cael ei ddal ganddyn nhw!

Mae’r goedwig yn rhagorol

Does dim rhyfedd ein bod ni’n gweld cynifer o adar hardd yma. Maen nhw’n byw mewn gwarchodfa sy’n un o’r enghreifftiau gorau o goedwig dderw'r ucheldir yng Nghymru, gyda rhyw 60 hectar o goedwig dderw ddigoes ragorol yma.

Mae llawer o’r coed wedi bod yma ers cannoedd o flynyddoedd ac maen nhw’n enfawr, ac fe welwch chi fwsoglau a rhedynnau ar hyd eu rhisgl, sydd hefyd yn datgelu’u hoedran mawr.

Oherwydd y glaw trwm sy’n disgyn yma bob blwyddyn, a’r hinsawdd gefnforol laith, mae’r coedwigoedd derw hyn yn yr ucheldir wedi cael eu llysenwi’n goedwig law dymherus Cymru!

Dolydd Gwych

Mae dwy ddôl wair ucheldirol yma sy’n rhy serth i ddefnyddio peiriannau amaethyddol arnyn nhw, felly byddwn ni’n eu cribinio â llaw ar ôl eu torri tua diwedd mis Awst.

Prin fod angen dweud nad ydyn nhw erioed wedi cael eu haredig na’u gwrteithio â gwrtaith artiffisial, felly mae yma gyfoeth o hen flodau’r ddôl.

Bydd y sioe flodau’n dechrau gyda ‘hen lesmeiriol baent’ y clychau gog tua diwedd mis Mai (maen nhw’n blodeuo rai wythnosau’n hwyrach i fyny fan hyn nag y byddan nhw ar y tir isel), a chlytiau gwyn o flodau’r gwynt drwyddyn nhw.

Yn fuan wedyn daw cymylau pinc tegeirian brych y rhos. Ar ganol haf, gallwch ddisgwyl gweld enfys o liw gan flodau fel tresgl y moch, ytbys y coed, cribau San Ffraid, bwrned mawr a thamaid y cythraul. 

Nodwedd arbennig o’r dolydd ucheldirol hyn yng Nghymru yw’r ffacbysen chwerw, blodyn sy’n Genedlaethol Brin. Mae’n debyg bod yma felynog y waun a'r tegeirian llydanwyrdd hefyd, er i mi fethu â dod o hyd i’r pethau prin hyn dros y blynyddoedd diwethaf.

Gwlad y rhostir uchel – cynefin ffridd ddelfrydol

Os dilynwch chi’r llwybr 2km drwy’r warchodfa at ddiwedd y goedwig, bydd camfa’n eich arwain at y bryn agored yr ochr draw. Byddwch yn ofalus, nid oes llwybrau sy’n cael eu cynnal ar ôl y fan hon, ac mae’n dir serth a garw dan draed.

Rhostir yw’r tir hwn – cynefin ‘ffridd’ Gymreig draddodiadol. Ar y cyd â’r grug a’r llus, fe gewch chi gymysgedd o goed mân yr helyg, bedwen a cherdinen, sy’n rhoi lle i adar fel telor yr helyg, corhedydd y coed a chrec yr eithin fwrw golwg dros y wlad.

Oherwydd bod llai o bori’n digwydd yn yr ardal hon, mae matiau o gnwp-fwsogl corn carw ymysg llystyfiant y rhos.

Bydd cigfrain a’r hebog tramor yn hongian ar yr awel uwchlaw i gwblhau’r olygfa fynyddig. Os ydych chi’n ffodus, fe all y gwelwch chi fwyalchen y mynydd (sy’n ddigon tebyg i fwyalchen ond â hanner cylch gwyn ar ei brest) ymysg y llethrau cerrig rhydd, neu sgri. Serch hynny, adlewyrchir y dirywiad cenedlaethol yma hefyd.

Ymweld ag Allt Rhyd y Groes

Mae Allt Rhyd y Groes yn warchodfa syfrdanol sy’n llwyr haeddu’i statws Gwarchodfa Natur Genedlaethol; dewch yma unwaith, a byddwch yn cofio’r lle am byth.

Mae croeso i ymwelwyr yma, dilynwch y ffordd fechan o Lanymddyfri tua’r gogledd i Randirmwyn a chronfa ddŵr Llyn Brianne. Rhyw 3km o Randirmwyn, ewch tua’r chwith a chroeswch y bont newydd dros Afon Tywi ger y maes gwersylla. Dilynwch y lôn gul am 2km ymhellach, ac yna parciwch ger y bont Bailey; byddwch yn ofalus i beidio â rhwystro cerbydau fferm neu waith coed llydan rhag gallu croesi’r bont. Ewch drwy’r glwyd sydd yma a cherddwch i fyny’r llwybr heibio i fwthyn Rhyd y Groes cyn mynd i mewn i’r warchodfa natur. Mae llwybrau cerdded yn y warchodfa wedi’u marcio’n glir.

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.