Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

NRW staff members - Jack, Llinos, Catherine, Richard

Gyda dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru, rydym i gyd dim ond ychydig filltiroedd i ffwrdd o le arbennig i ddarganfod natur.

Bob mis bydd ein timau'n ysgrifennu blog am y mannau arbennig maen nhw’n gofalu amdanynt. Yma, mae staff haf brwdfrydig Dyfi Ynyslas yn egluro sut maen nhw wedi bod yn gofalu am y safle a helpu mwy o bobl i fwynhau’r awyr agored yn ystod gwyliau'r ysgol.

Llanw cryf a bomiau heb eu ffrwydro!

Gan Jack Simpson

Mae lleoliad hardd Ynyslas yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi yn denu hyd at 250,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys pobl leol sydd wedi dod am ddiwrnod allan, pobl ar wyliau, a rhai grwpiau addysgol hefyd.

Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein hymwelwyr yn mwynhau eu hamser yn ddiogel, a heb niweidio'r safle arbennig hwn sy'n gartref i fywyd gwyllt anhygoel.

Mae gan y traeth yma statws baner goch, sy'n golygu nad oes modd nofio oherwydd ceryntau cryf peryglus. Rydym yn gweithio'n agos gyda Gwylwyr y Glannau a Chyngor Sir Ceredigion i gyflwyno negeseuon diogelwch ar y wefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Efallai na fydd rhai yn gwybod hyn, ond roedd Ynyslas yn safle profion magnelau yn yr Ail Ryfel Byd.

Gall y llanw cryf symud y tywod ac yn achlysurol mae’n datgelu bomiau heb ffrwydro, neu fagnelau. Y llynedd fe wnaeth uned Difa Bomiau’r Llynges ymweld â ni’n rheolaidd, gwnaethant 32 o eitemau'n ddiogel gyda ffrwydradau dan reolaeth. 

Peidiwch â gadael i hyn eich rhwystro rhag ymweld â ni. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn, Gwylwyr y Glannau a'r Llynges Frenhinol i leihau'r ordnans ar y safle, ac i godi ymwybyddiaeth. Os bydd pobl yn dod ar draws eitem ar y traeth y maent yn poeni amdani, dylent ddeialu 999 a gofyn am warchodwyr y glannau.

Mynd i’r awyr agored a dysgu am Dyfi Ynyslas

Gan Llinos Roberts

Rydym yn falch iawn bod mwy nag erioed wedi ymuno â’r rhan fwyaf o'n teithiau eleni, gyda dros 25 o bobl yn cymryd rhan yn ein taith gerdded flynyddol i chwilio am degeirianau.

Yn ogystal â'n teithiau cerdded wythnosol, rydym hefyd wedi bod yn cynnal ein digwyddiadau poblogaidd Nytars Natur. Mae'r gweithgareddau wythnosol hyn ar gyfer plant yn cynnwys helfeydd trysor a chelf a chrefft, fel argraffu natur mewn clai ac adeiladu blychau adar.

Hyrwyddwyd yr holl ddigwyddiadau ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli unrhyw ddigwyddiadau i ddod trwy ein dilyn ar Facebook a Twitter.

Gwarchod adar

Gan Catherine Blower

Mae'r adar sy’n nythu yma yma yn nodwedd gadwraeth allweddol. Rydym yn cynnal arolygon ben bore yn ystod y tymor nythu er mwyn i ni allu gwylio newidiadau a gweld sut maen nhw'n dod ymlaen.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu newid yn rhai o'r rhywogaethau sy'n ymgartrefu yn Ynyslas, o bosib oherwydd y cynnydd mewn prysgwydd a mieri ar y safle.

Er enghraifft, bu cynnydd yn nifer y troellwyr bach. Mae'r aderyn bychan di-nod hwn yn gwneud y daith hir o Orllewin Affrica i nythu yma. Gallwch glywed yr adar bach hyn yn trydar yn hir gyda'r nos o fis Ebrill hyd Gorffennaf.

Cafodd yr ehedydd, corhedydd y waun, llwydfron a chlochdar y cerrig dymor llwyddiannus eleni, gyda llawer o gywion i’w gweld yma.

Darganfyddiad cyffrous arall eleni oedd pâr o hwyaid yr eithin yn nythu. Mae'r adar lliwgar, clyfar a chyfrinachol hyn yn defnyddio hen dyllau cwningen i nythu. Fe'u gwelwyd yn mynd i mewn i dwll yn y twyni yn gynnar un bore, yn anffodus ni allem gadarnhau a oeddent yn magu cywion.

Mae'n rhaid i un aderyn arall gael sylw yma sef y cwtiad torchog.  Mae'r aderyn hwn, fel y troellwr bach a'r ehedydd, ar y rhestr data coch ar gyfer y DU, sy'n golygu eu bod o'r flaenoriaeth gadwraeth uchaf.Plover

Roedd niferoedd bach yn nythu’n flynyddol yn Ynyslas tan 2007. Erbyn hynny roedd yr ardal o gerrig mân a chregyn wedi datblygu’n dwyn newydd ac nid oedd bellach yn addas ar gyfer nythu ar y ddaear.

Felly, roeddem ni wrth ein bodd o ddod o hyd i dri nyth cwtiaid torchog ac wyau ynddynt ddechrau Gorffennaf mewn ardal newydd. Mae'r safleoedd nythu yn agored iawn i aflonyddu, felly gwnaethom sicrhau bod ein hymwelwyr yn gwybod pa ardaloedd i'w hosgoi er mwyn helpu i roi'r cyfle gorau i'r adar.

Yn anffodus, er gwaethaf ein hymdrechion gorau i amddiffyn y nythod hyn, nid oeddem yn gallu eu hamddiffyn rhag y llanw cynyddol a natur gyfnewidiol y traeth. Er hynny, mae eu hymgais i nythu yn galonogol gan ei fod yn awgrymu bod rhai ardaloedd wedi dod yn addas iddynt eto. Gobeithiwn y flwyddyn nesaf y byddant yn cael mwy o lwyddiant.

Ymladd baw cŵn er mwyn diogelu planhigion prin

Gan Richard Lewis

 

Mae gan Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi Ynyslas amrywiaeth gwirioneddol wych o blanhigion. Mae'r cyfuniad o system twyni tywod dynamig, ochr yn ochr â morfa heli sy'n ehangu, yn golygu bod amrywiaeth o lefydd i wahanol rywogaethau dyfu.

Mewn gwirionedd, y cynefinoedd eithafol hyn sy’n galluogi rhywogaethau prin i ffynnu yma!

Yn ystod fy amser yma, rwyf wedi bod yn helpu i fonitro rhai o’r planhigion prin fel y tegeirian bera, tafod y bytheiad a helys pigog.

Mae llawer o'r rhywogaethau yr wyf wedi bod yn eu harolygu hefyd wedi'u rhestru ar Gofrestr Planhigion Prin Ceredigion, ac mewn rhai achosion, Gwarchodfa Dyfi Ynyslas yw'r unig safle yn y sir lle ceir rhai ohonynt!

Er bod llawer o'r rhywogaethau wedi cael blwyddyn dda, maent mewn perygl oherwydd prysgwydd cynyddol, rhywogaethau ymledol a maetholion o faw cŵn.

Rydym yn gweithio'n galed i ddelio â'r rhywogaethau ymledol anfrodorol, fel llin Seland Newydd and chlychau’r gog hybrid/Sbaenaidd. Er hynny, bydd angen ymdrech barhaus dros y blynyddoedd i gael gwared arnynt yn llwyr.

Efallai, ac er syndod o bosib, y bygythiad mwyaf anodd i ddelio ag e yw faint o faw cŵn a adewir ar y safle.

Mae pridd y twyni tywod yn brin o faetholion ac mae unrhyw faeth ychwanegol a ychwanegir o ffynhonnell allanol yn gallu newid cemeg y pridd.

Gallai hyn ymddangos yn ddibwys, ond mae'r maetholion o'r baw cŵn yn gwneud yr amodau'n llawer mwy addas ar gyfer planhigion mwy cyffredin, ac yna maent yn cystadlu yn erbyn y rhywogaethau prin ac yn eu disodli.

Rydym yn darparu biniau baw cŵn ar y safle ac yn annog perchnogion cŵn i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn pan fyddant yn ymweld. Mae Dyfi Ynyslas yn lle mor wych i bobl a natur, a gallwn ni i gyd fwynhau'r ardal a'i ddiogelu ar yr un pryd.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.