Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Oystercatcher in the sea

Bob mis mae ein timau’n ysgrifennu blog am y lleoedd arbennig y maen nhw’n gofalu amdanynt. Yma, mae Nick Edwards, Uwch-reolwr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Whiteford, yn sgwrsio am y piod môr sy’n bwydo yn yr ardal a sut ydym yn gweithio i’w gwarchod nhw ar gyfer y dyfodol.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Whiteford, ger Abertawe, mor amrwyiol. Mae’n cynnwys twyni tywod, traeth, ardaloedd rhynglanw, a morfa heli. Mae’n gyfoethog iawn o ran bioamrywiaeth ac yn darparu cartref i lawer o wahanol blanhigion ac anifeiliaid.

Yn ogystal â bod yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), mae’r warchodfa wedi’i dynodi’n safle ‘Ramsar’. Golyga hyn bod y gwlyptir yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei bwysigrwydd i adar mudol, prin.Whiteford NNR

Pa adar prin sy’n ffynnu yno?

Mae nifer fawr o biod môr o fewn cilfach Tywyn. Mae oddeutu 14,000 ohonynt yn gaeafu yno.

Mae’r Warchodfa ei hun yn denu dros dair mil o biod môr ym misoedd y gaeaf. Gall hyn amrywio gan ddibynnu ar ba mor oer yw hi a phatrymau mudo, felly gall niferoedd amrywio o bump i chwe mil ar benllanw, i hanner y nifer hwnnw’n bwydo pan fo’r llanw ar drai.

Rhan o fy swydd i yw cyfri’r niferoedd sy’n bwydo pan fo’r llanw ar ei isaf, ac arolygu a chofnodi eu harferion bwydo, ac unrhyw darfu gan ysglyfaethwyr neu bobl.

Mae piod môr yn bwydo ar y pysgod cregyn sydd ar gael. Mae cregyn gleision a chocos ar gael yng nghilfan Tywyn, ond mae cocos wedi dioddef yn ystod y blynyddoedd diweddar oherwydd afiechyd yn effeithio ar fridio gan achosi i nifer fawr o’r poblogaethau lleol farw. Serch hynny, mae llawer o gregyn gleision, rhai ifanc ac aeddfed.

Cyfri’r adar

Rwy’n cyfri’r adar bob pythefnos, ond mae wedi bod yn anodd iawn yn ddiweddar. Mae’r traeth yn Whiteford wedi gweld newid mawr gyda thywod yn cael ei golli yng nghanol y traeth, tra bo swmp mawr o dywod wedi cronni naill ochr. O ganlyniad mae proffil y traeth yn ‘gromennog’ ac yn uwch yn y canol, gan ei gwneud hi’n amhosibl gwylio unrhyw adar yn bwydo, pan fo’r llanw’n isel.

Efo fy sbienddrych, camera a llyfr nodiadau, rwy’n cerdded o fewn pellter rhesymol er mwyn gwylio’r adar, naill ai’n bwydo, neu’n dechrau clwydo. Gan fod yn ofalus i beidio â tharfu arnyn nhw, rwy’n ceisio’u cyfri’r, fel arfer yn eu miloedd.

Er ei bod hi’n anodd cael ffigwr manwl gywir, mae’n hawdd cyfrif blociau mawr o adar a dod yn gyfarwydd â’r niferoedd. Neu, yn aml, mae’n haws tynnu lluniau o’r adar a’u cyfrif ar sgrin cyfrifiadur yn y swyddfa.

Yna caiff y niferoedd eu cofnodi ar daenlen er mwyn i ni, ac eraill, allu deall y niferoedd a’u harferion yn well.

Oystercatchers Whiteford NNR  Oystercatchers Whiteford NNR

Mae aflonyddu gan bobl yn broblem i’r adar

Yn anffodus, mae cŵn heb dennyn yn broblem gynyddol. Mae cynhyrfu’r adar wrth iddyn nhw gael eu cwrso ar hyd y traeth yn defnyddio egni, ac yn ei dro’n golygu bod angen bwydo mwy ar y pysgod cregyn sydd ar gael.

Gall casglu cregyn gleision a chocos yn ystod misoedd pwysig y gaeaf hefyd gael effaith niweidiol ar niferoedd. Er bod casglu weithiau’n gyfreithlon ac wedi’u trwyddedu, gall fod yn anodd cael cydbwysedd rhwng cadw digon o fwyd i’r miloedd o biod môr, a’r cynhaeaf masnachol a gaiff ei dynnu o’r safle. Dyma pam ein bod ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau diogelwch a chynaladwyedd gwelyau cregyn gleision a’r adar sy’n bwydo.

Ymweld â GNG Whiteford

Mae GNG Whiteford wedi’i lleoli yng ngogledd Gŵyr ger pentref Llanmadog, mae maes parcio’r traeth ger Cwm Ivy sy’n eiddo preifat, a gellir cael mynediad i’r safle trwy gerdded i lawr y ffordd o’r pwynt yma.

Mae arwyddion ar hyd y llwybr i lawr i’r GNG, ac mae’n croesi tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae tair cuddfan wych ar gyfer gwylio’r adar ar y safle, gyda digonedd o adar amrywiol i’w gweld.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.