Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Shape in the sky made by Starlings

Gyda mwy na 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru, mae pob un ohonom o fewn ychydig filltiroedd o le arbennig lle y gellir darganfod natur.

Mae ein cydweithwyr sy’n gofalu am y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol wedi dod ynghyd i ysgrifennu blog, gyda’r bwriad o roi newyddion diweddaraf a helyntion gwahanol safle ichi bob mis.

Y mis hwn, Kevin Dupè, Rheolwr Gwarchodfa, yw awdur y blog. Yma, mae’n sôn am yr adar sydd i’w cael yn un o warchodfeydd natur mwyaf newydd ac arbennig Cymru.

Pe bai rhywun yn gofyn imi pa adeg o’r flwyddyn sydd orau gennyf yng Ngwlyptiroedd Casnewydd, ni fuaswn yn gallu penderfynu rhwng y gaeaf a’r gwanwyn. Felly, rydw i’n dweud y ‘gaeaf’ pan mae hi’n aeaf, a’r ‘gwanwyn’ pan mae hi’n wanwyn.

Yn y gwanwyn ceir y cyffro a’r wefr o weld llu o adar gwahanol yn bridio ar y safle.A bittern at Newport Wetlands

Eleni, yr uchafbwynt oedd ceiliog aderyn y bwn, gyda’i alwad yn atseinio o grombil y corsleoedd am fwy na saith wythnos. Yn ystod y saith wythnos hyn, unwaith yn unig y gwelwyd ef, ond roedd modd ei glywed ymhellach na milltir i ffwrdd!

Dyma oedd y tro cyntaf i alwad aderyn y bwn daranu yma ers cyfnod maith. Yn anffodus, ni lwyddodd i ddenu cymar y tro hwn, ond mae’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn addawol.

Fel yr aderyn y bwn hwn, mae’n haws clywed na gweld nifer o’r adar sy’n byw yn y corsleoedd.

Mae gennym ddwsinau o regennod dŵr yma, ac maent yn gwneud sŵn gwichian mawr dros bob man – tebyg i fochyn. Rydw i’n eu clywed yn aml, ond ni allaf gofio’r tro diwethaf imi weld un!

A bearded tit at Newport WetlandsRydym yn gweld y titwod barfog rywfaint yn amlach. Maent yn gwneud sŵn “tincial” fel cloch yn canu, ac fe fyddwch bob amser yn eu clywed cyn eu gweld.

Pan ddaw’r gaeaf o’r diwedd, cawn y pleser o wylio miloedd o hwyaid ac adar hirgoes yn ymfudo yma. Ond yn gyntaf, rhaid inni sicrhau bod y warchodfa’n barod ar eu cyfer.

Paratoi ar gyfer adar y gaeaf

Rhwng diwedd y tymor bridio a dyfodiad yr adar sy’n dod yma i aeafu (diwedd Awst a dechrau Medi), mae gennym gyfnod byr i gwblhau llawer o waith a pharatoi’r cynefin ar gyfer y newydd-ddyfodiaid.

Caiff y brwyn ar y glaswelltir gwlyb eu torri, eu byrnu a’u cludo ymaith fel deunydd gorwedd i anifeiliaid. Caiff y gwrychoedd o amgylch y caeau eu torri. Caiff y prysgwydd a’r llystyfiant ar yr ynysoedd eu torri’n llai. Efallai y bydd angen dadsiltio’r lagwnau a thrwsio ffensys a giatiau. A chaiff estyll pren y llifddorau eu hailosod a’u hadnewyddu os oes angen.

Ddiwedd mis Medi a dechrau mis Hydref rydym yn pwmpio dŵr allan o’n corsleoedd (sy’n gweithredu fel cronfeydd dŵr) ar y glaswelltir gwlyb – gan ei foddi mewn da bryd ar gyfer yr adar a fydd wedi teithio milltiroedd i dreulio’u gaeaf yma.A wigeon at Newport Wetlands

Er enghraifft, mae chwiwellod yn bridio yn Yr Alban a gogledd Lloegr mewn niferoedd bach, ond fe fydd y rhan fwyaf o’r miloedd sy’n dod yma dros y gaeaf wedi hedfan o Wlad yr Iâ, Sgandinafia a Rwsia.

Mae gennym oddeutu 2,000 o chwiwellod yng Ngwlyptiroedd Casnewydd ar y funud. Yn wahanol i hwyaid sy’n “cwacio”, mae chwiwellod yn chwibanu, a dyma yw un o’r synau cyfrin a glywir o amgylch aberoedd y DU drwy gydol y gaeaf.

Cornchwiglod ‘hen het’

Aderyn arall sy’n helpu i wneud y gaeaf mor arbennig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd yw’r gornchwiglen. Yn y gwanwyn mae gennym oddeutu 20 o barau’n bridio yma, ond A lapwing at Naewport Wetlandsyn y gaeaf fe allwn fod â chynifer â 3,000 o gornchwiglod.

Maent yn tueddu i dreulio llawer o amser yn sefyll mewn dŵr bas yn wynebu’r gwynt, ond yn aml byddant yn codi i hedfan heb unrhyw reswm amlwg.

Enwau eraill am y gorchwiglen ydi hen het, cornicyll y gors, ac fel maent yn cael eu galw’n ‘peewit’ weithiau yn Saesneg, ar ôl eu cân, mae rhai yn eu galw nhw’n ‘gwae fi’.

Drudwennod dihafal

Yr aderyn mwyaf niferus yma dros y gaeaf yw’r ddrudwen. Bob nos, rhyw ugain munud cyn i’r haul fachlud, maent yn dechrau ymgasglu ar y peilonau.

Ar y cychwyn ceir dwy neu dair; yna bydd heidiau o ychydig ddwsinau, ac wedyn heidiau o filoedd, yn cyrraedd. O fewn munudau gwelir hyd at 150,000 yn troelli trwy’i gilydd. Yn y diwedd, byddant yn plymio i’r cyrs am y noson a gallwch glywed eu clegar croch.

Mae’r olygfa naturiol drawiadol hon yn denu nifer o ymwelwyr. O dro i dro, os bydd y drudwennod yn rhoi sioe arbennig o dda, fe fydd y dyrfa’n dechrau cymeradwyo’n ddigymell wrth i’r aderyn olaf blymio i’r corsleoedd.

Fel arfer, mae drudwennod yn mynd tua’r de i Wlad yr Haf ddechrau mis Rhagfyr, ond ambell flwyddyn maent yn aros tan ddiwedd Rhagfyr.

Gallwch gysylltu â Chanolfan Ymwelwyr yr RSPB, Gwlyptiroedd Casnewydd ar 01633 636363 i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am glwydfan y drudwennod a gwybodaeth am deithiau tywysedig, neu e-bostiwch Newport-Wetlands@rspb.org.uk. Mae gan wefan yr RSPB fwy o wybodaeth am olygfa drawiadol y drudwennod. Hefyd, ceir gwybodaeth am ddrudwennod Aberystwyth.

Monitro’r adar

Rydym yn gwybod yn eithaf cywir faint o adar o bob rhywogaeth sydd ar y warchodfa. Caiff niferoedd adar eu monitro bob mis drwy gydol y flwyddyn, ond yn y gaeaf cânt eu monitro hyd at deirgwaith y mis.

Mae wardeniaid gwirfoddol yn ein helpu i gyfrif yr adar gan fod y warchodfa’n rhy fawr, a hefyd mae yna ormod o adar i ddau aelod o staff eu cyfrif. Gyda phedwar neu bump o bobl yn cyfrif yr un adeg â’i gilydd ar draws hyd 5 cilometr y warchodfa, gallwn gael darlun llawer mwy cywir.

Ewch am dro i Wlyptiroedd Casnewydd i weld a chlywed yr adar drosoch eich hunain

Dewch draw am dro i weld yr adar unrhyw adeg. Ceir llwybrau cerdded a llwyfannau gwylio ar y warchodfa. Hefyd, mae gennym bontŵn arnofiol sy’n arwain at Oleudy Dwyrain Wysg, sydd dros 120 mlwydd oed.

I gael lluniau a newyddion diweddaraf am y warchodfa, gallwch ein dilyn ni ar Facebook hefyd.

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.