Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Cennau ein Coetiroedd Cymreig Hynafol

Loberia virens (copywright Dave Lamecraft) Coedydd Aber

Gyda mwy na 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru, mae pob un ohonom o fewn ychydig filltiroedd o le arbennig lle y gellir darganfod natur.

Mae ein cydweithwyr sy'n gofalu am y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol wedi dod ynghyd i ysgrifennu blog, gyda'r bwriad o roi newyddion diweddaraf a helyntion gwahanol safle ichi bob mis.

Y mis hwn, Huw Green, Rheolwr Gwarchodfa Coedydd Aber...

Cyn y Nadolig tra’r oeddwn allan yng nghoetir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber (rhwng Bangor a Llanfairfechan) cefais anrheg Nadolig cynnar pan ddeuthum o hyd i rywogaeth newydd nad oedd wedi’i chofnodi o’r blaen ar y safle.

Cen o’r enw Lobaria virens oedd y darganfyddiad hwn, sef rhywogaeth a gaiff ei hystyried fel un mewn perygl yng Nghymru, ac un y mae gan Brydain gyfrifoldeb rhyngwladol i’w gwarchod (Woods and Coppins, 2003).

Mae Lobaria virens yn perthyn i gymuned o gennau a elwir yn Lobarion, sef rhywogaethau sy’n arwydd o Goetiroedd Hynafol ac sy’n gysylltiedig â choedwigoedd Atlantaidd ar arfordir gorllewin Prydain. Gan fod y coetiroedd hyn yn cael cymaint o law, caiff rhai ohonynt eu hystyried fel coedwigoedd glaw tymherus, lle mae lliwiau llachar a ffurfiau diddorol amrywiaeth o gennau yn addurno’r coed a’r creigiau.

Cyn imi ddechrau mwydro am gennau, dylwn esbonio beth yn union ydynt.

Uniad rhwng dau organeb hollol wahanol yw cennau, sef ffwng, ac alga neu cyanobacteria. Mae’r ffwng yn darparu strwythur (cartref diogel, os mynnwch) ar gyfer yr alga neu’r cyanobacteria, ac mae’r rheiny yn cynhyrchu bwyd trwy ffotosynthesis, y gall y ddau organeb elwa arno.

Pam y mae coedwigoedd glaw Cymru yn gartrefi mor dda i gennau?Loberia pulmoneria on Oak tree in Coedydd Aber

Dan ddylanwad llif y Gwlff, mae’r gaeafau mwyn a’r holl law a gawn drwy gydol y flwyddyn, yn creu amodau perffaith ar gyfer ecosystem amrywiol y gall cennau’r goedwig ffynnu ynddi. Mae nifer o’r rhywogaethau hyn wedi’u cyfyngu i goedwigoedd llaith, a dyna pam y mae cymaint o rywogaethau’n brin neu dan fygythiad.

Mae ein tirwedd wedi mynd trwy nifer o newidiadau yn y gorffennol, gyda darnau helaeth o’n coetiroedd brodorol wedi cael eu torri dros amser. Mae presenoldeb y grwpiau arbennig hyn o gennau yn arwydd bod pocedi o goed wedi osgoi cael eu cwympo’n llwyr a’u bod wedi dal eu gafael yn yr organebau hardd ac arbennig hyn.

Yn ein coedwigoedd glaw tymherus mae yna naws hudol. Mae’r coed sydd wedi’u gorchuddio â chennau a mwsoglau’n creu’r teimlad eich bod yn cerdded trwy goetir gwirioneddol hynafol.

Rheoli coetir er budd cennau

Mae cennau Coedydd Aber mor bwysig nes ei fod yn dylanwadu’n gryf ar y ffordd rydym yn rheoli’r coetir.

Er mwyn dod o hyd i’r patrymau pori priodol i greu’r amodau delfrydol ar gyfer y cennau a’r coed yr un pryd, rhaid cymryd cryn ofal a chynllunio’n ofalus. Mae CNC yn cydweithio’n agos efo staff canolfan Ymchwil Henfaes, Prifysgol Bangor, sydd yn pori’r Warchodfa efo praidd o ddefaid mynydd Cymreig.

Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn gweithio gyda sefydliad o’r enw Plantlife hefyd, sydd wedi bod o gymorth i asesu cyflwr presennol y cennau yng Nghoedydd Aber.

Mae cennau yn ddiarhebol o anodd i’w hadnabod, a gall gymryd blynyddoedd i ddod yn arbenigwr cennau cymwys, sy’n gallu adnabod ac enwi’r gwahanol rywogaethau.

Yn ddiweddar, mae Dave Lamacraft (Hyrwyddwr Is-blanhigion IPA Cymru a Lloegr) wedi bod yn cynnal arolygon i weld beth yw sefyllfa y cennau yng Nghoedydd Aber. Diolch i’r drefn, mae’r newyddion yn dda, gyda nifer o’r rhywogaethau llai cyffredin yn gwneud yn dda ac yn lledaenu i ardaloedd newydd ers i’r safle gael ei arolygu’r tro diwethaf.

Ehangu’r coetir

Coedydd Aber WoodlandMae coetir brodorol Coedydd Aber yn ehangu – cyffrous iawn!

Mae planhigfa gonwydd CNC gerllaw, sy’n rhannu ffens derfyn â’r warchodfa natur, wrthi’n cael ei llwyrgwympo.

Oherwydd anawsterau i gael pren oddi ar y safle, sy’n ei gwneud yn fwy costus i’w gynaeafu na phlanhigfa arferol, ni fydd yr ardaloedd hyn yn cael eu hailblannu gyda chonwydd, ond yn hytrach coed llydanddail brodorol fydd yn cael tyfu yno.

Eisoes, mae coed brodorol 10 mlwydd oed yn tyfu’n llwyddiannus ar ddarn o dir 30 hectar yng nghanol y blanhigfa. Oherwydd hyn, mae yna botensial i ehangu’r coetir brodorol Aber dros 1 cilometr sgwâr a mwy! Fe fyddai hyn o fudd enfawr i fywyd gwyllt yr ardal ac yn hwb anferthol i fioamrywiaeth.

Felly, y tro nesaf yr ewch am dro i Goedydd Aber (neu goetiroedd brodorol eraill yng Nghymru), treuliwch funud neu ddau’n sylwi ar y cennau sy’n gorchuddio’r coed, gyda’u ffurfiau a’u lliwiau di-rif. Hefyd, edrychwch i fyny ar y blanhigfa a dychmygwch goetir brodorol yn gorchuddio ochr y dyffryn.

Ymweld â Choedydd AberCoedydd Aber Woodland Coedydd Aber

Croesewir ymwelwyr, ac un o’r prif atyniadau yw’r rhaeadr ysblennydd. Bydd y llwybr yn eich tywys o’r fynedfa wrth y Bont Newydd at odre’r Rhaeadr Fawr, ac mae ambell safle picnic i’w gael ar hyd y ffordd.

Hefyd, mae yno nifer o nodweddion sydd o ddiddordeb hanesyddol ac archeolegol, gan gynnwys bryngaer o’r Oes Haearn ac olion nifer o dai crynion.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ymweld â Choedydd Aber ar ein gwefan.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.