Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

View of Stackpole Coast between Mowingoword Saddle Point

Y mis hwn, Paul Culyer, Uwch-reolwr Gwarchodfeydd, Sir Benfro, yw awdur y blog...

Gyda mwy na 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru, mae pob un ohonom o fewn ychydig filltiroedd o le arbennig lle y gellir darganfod natur.

Mae ein cydweithwyr sy’n gofalu am y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol wedi dod ynghyd i ysgrifennu blog, gyda’r bwriad o roi newyddion diweddaraf a helyntion gwahanol safle ichi bob mis.

Does bosib nad yw pawb wrth eu boddau’n gwylio adar y môr yn chwyrlïo uwchlaw’r tonnau neu’n hongian yn yr awel uwchben clogwyni’r môr?

Mae llinell agoriadol cerdd Dafydd ap Gwilym, ‘Yr Wylan’, (sydd hefyd yn deitl i’r blog hwn), yn cyfleu’r ddelwedd yn berffaith yn fy marn i.

Bob gwanwyn a haf bydd clogwyni Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Ystagbwll, ger Penfro, yn gartref i gyfoeth o adar y môr. Daw llursod a gwylogod, ynghyd â gwylanod ar eu nythod, adar drycin y graig a hyd yn oed ambell bâl yma i baru bob blwyddyn.

Mae’r llursod a’r gwylogod yn aelodau o deulu’r carfil – adar y môr agored yw’r rhain, a’r unig bryd y dôn nhw i’r tir fydd ym misoedd Ebrill, Mai a Mehefin bob blwyddyn.

Mawr, a drewllyd, ond yn hardd o hyd

Os dewch chi i’r warchodfa nawr, byddwch chi’n gweld miloedd o wylogod sy’n ffurfio ‘pentrefi’ mawr, swnllyd (a drewllyd weithiau!).

Byddwch chi hefyd yn gweld llursod, sy’n nythu mewn niferoedd llai, a bydd y parau’n aml yn dychwelyd i’r un safle nythu bob blwyddyn,

Yma ac acw ymhlith y nythfeydd adar môr mwy fe welir gwylanod cefnddu mwyaf a lleiaf a gwylanod penwaig. Mae’r tair rhywogaeth yn chwilio am fwyd ac yn ddigon parod i wledda ar wyau neu gywion eu cymdogion.

Dyma ryfeddod byd natur go iawn ar garreg ein drws yma yng Nghymru!

Dodwy wyau ar ymyl y graigGuillemot

Ym mis Mai bydd gwylogod a llursod benywaidd yn dodwy’u hwyau ar silffoedd nythu peryglus 20-30 metr uwchben y môr.   Diolch byth, mae’r wyau ar siâp côn felly byddan nhw’n rholio mewn cylch, yn hytrach na chwympo dros ymyl y dibyn.

Pan fydd y cywion yn deor ac yn barod i adael y nyth, byddan nhw’n hedfan – wel, cwympo – i’r môr, gan geisio ymestyn eu hadenydd i dorri’u cwymp. Bydd hi’n bythefnos arall cyn y bydd y cywion yn gallu hedfan a nofio go iawn, ac yna bydd hi’n ddeufis arall cyn iddyn nhw adael Ystagbwll i fudo i Fôr y Canoldir.

Bydd yr adar yn treulio dyddiau’r gwanwyn a’r haf yn hedfan yn ôl ac ymlaen i’r silffoedd nythu. Os edrychwch chi’n ofalus, efallai y sylwch chi ar guriadau anarferol o gyflym eu hadenydd. Mae eu hadenydd yn gymharol fach o ystyried maint eu cyrff, sy’n gwneud yr adar yn ehedwyr aneffeithiol, ond yn blymwyr a nofwyr tanfor rhagorol, pan ddaw hi’n amser hela’u prae. Fel arfer byddan nhw’n plymio i ddyfnder o ryw 25m, ond maen nhw’n abl i blymio’n llawer dyfnach, hyd at dros 100m o dan y dŵr!

Chwydu amddiffynol – rhybudd i ddringwyr clogwyni!

Mae gennym ryw 20-30 phâr o adar drycin y graig yn Ystagbwll hefyd – mae’r aderyn hwn yn gefnder llai o faint i’r albatros a geir yn hemisffer y de. Mae ganddo adenydd syth iawn, a ddefnyddir ganddo i gleidio ar hyd pennau’r clogwyni.Fulmar

Daw’r enw Saesneg amdano - fulmar - o’r Hen Norwyeg am wylan afiach, a’r rheswm am hyn yw’r arferiad gwarchodol sydd ganddo o chwydu hylif drewllyd oeliog yn syth i gyfeiriad unrhyw beth sy’n dod yn rhy agos ato.

Gall hyn ludo plu adar ysglyfaethus at ei gilydd yn llwyr, gan beri iddyn nhw ddisgyn i’w tranc yn y môr. Cynghorir dringwyr y clogwyni hefyd i gadw’n glir! Fel y carfilod, byddan nhw’n treulio pob awr y tu allan i’r cyfnod paru allan ar y môr, felly dyma’r amser gorau i’w gweld nhw.

Cyfri’r adar

Ym mis Mehefin, byddaf yn cydio yn yr ysbienddrych ac yn mynd allan i gyfri’r adar yn y Warchodfa Natur. Fe all hyn olygu mynd mewn cwch i gyfri’r adar o’r môr, neu sefyll ar y lan os yw’r môr yn rhy arw.

Mae hi mor bwysig gwneud hyn am ei fod yn golygu y gallwn ni fonitro sut mae’r adar yn dod ymlaen – neu beidio – ac mae’n rhoi tystiolaeth bwysig i ni sy’n ein helpu (yn CNC) i gynnig cyngor neu wneud penderfyniadau. Yn ‘Yr Wylan’, anfonir yr wylan fel negesydd, neu latai, ac efallai y gallem ni edrych sut y mae ein hadar môr ni’n anfon neges atom ni ynghylch cyflwr iechyd ein moroedd.

Gall adar môr fyw am ryw ugain mlynedd, ond gall rhai fyw dros ddeugain mlynedd. Rydw i’n hoff iawn o’r syniad y gallwn i fod yn cyfri’r un adar drwy gydol fy ngyrfa!

Buasai’n amhosib gwneud y gwaith hwn ar fy mhen fy hun, felly mae gennym sawl warden gwirfoddol sy’n fy helpu bob blwyddyn. Ac mae’r ymdrech ar y cyd yn golygu fod gennym dros dri deg o flynyddoedd o ddata amhrisiadwy sy’n ymwneud â’r adar môr sy’n paru ar hyd arfordir Penrhyn Castellmartin.

Beth mae’r holl gyfri’n ei ddweud wrthym?

Wel, mae niferoedd y llursod a’r gwylogod ar gynnydd, efallai’n codi’n ôl ar ôl y lleihad a fu adeg yr Ail Ryfel byd.

Mae gwylanod, ac yn enwedig yr wylan goesddu, wedi lleihau. Yn 1985 roedd bron i 700 o barau’n nythu yma, ond erbyn hyn dim ond rhyw dri neu bedwar pâr o wylanod coesddu sydd yma. Bu dirywiad cyffredinol yn yr wylan gefnforol hon o gwmpas Prydain, a’r rheswm tebygol yw bod lleihad wedi bod yn argaeledd eu prif fwyd, sef llyswennod y tywod. Un syniad yw bod y llyswennod bellach yn byw yn ddyfnach yn y dŵr oherwydd bod tymheredd y moroedd yn fwy cynnes, sy’n ei gwneud hi’n fwy anodd i adar sy’n bwydo ar arwyneb y dŵr gyrraedd atyn nhw.

Mae’r wybodaeth a ddaw o’n gwaith monitro hefyd yn ein helpu i ddeall sut yr effeithir ar yr adar gan drychinebau, er enghraifft trychineb tancer olew y Sea Empress a ddaeth i’r lan mewn storm 21 mlynedd yn ôl. Gyda chymorth data a thystiolaeth hirdymor, gallwn weithio i warchod ein bywyd gwyllt yng Nghymru nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Ymweld ag YstagbwllPenyholt stack

Dewch i ymweld nawr ac ewch am dro allan i Benrhyn Ystagbwll ble gwelwch chi olygfeydd rhagorol o’r adar, a chymaint mwy! Mae’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i’w weld ar ein gwefan.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.