Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd 2016

View of a field in Cors Caron

Heddiw (2 Chwefror 2016) mae hi’n Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd, diwrnod i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd a gwerth gwlyptiroedd. Y thema eleni yw Gwlyptiroedd ar gyfer y Dyfodol: Bywoliaeth Gynaliadwy.

Nid yn unig y mae gwlyptiroedd yn gartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin, ond maen nhw hefyd yn hollbwysig o ran sicrhau y bydd gennym ddyfodol cynaliadwy, gan ddarparu nifer o’r pethau y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt.

Maen nhw’n storio llifddwr, yn ei buro, ac yn helpu’r economi wledig trwy droi darnau o dir fferm eithaf anghynhyrchiol yn dir y gellir ei ddefnyddio unwaith eto, er enghraifft ar gyfer pori.

Ymhellach, mae gwlyptiroedd yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Gyda’r posibilrwydd o hafau sychach, mae rheoli gwlyptiroedd yn hanfodol, oherwydd pan fyddont ar eu gorau gallant ddal a storio llawer iawn o garbon a fyddai, fel arall, yn cael ei ryddhau i afonydd ac i’r atmosffer.

Dim ond yn ystod tymhorau arbennig y bydd rhai gwlyptiroedd dan ddŵr, er enghraifft glaswelltiroedd corsiog. Mae eraill, fel gwlyptiroedd sy’n ffurfio mawr, yn wlyb drwy gydol y flwyddyn.

Gwlyptiroedd Cymru

Mae Cymru yn gartref i sawl math gwahanol o wlyptir, gan gynnwys corsydd calchog, mawnogydd, corsydd pori, gwernydd, glaswelltiroedd corsiog ac, wrth gwrs, llynnoedd, pyllau ac afonydd.

Gwelir bod gwlyptiroedd tir uchel Cymru, yn enwedig y gorgorsydd sy’n ymestyn yr holl ffordd ar hyd asgwrn cefn Cymru, yn fannau agored gwyllt a dramatig, gan gyfrannu’n fawr at gymeriad y dirwedd.

Mae nifer ohonynt yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol a gaiff eu rheoli gennym er mwyn adfer a gwarchod eu nodweddion naturiol er budd planhigion a bywyd gwyllt. Mae mynediad rhwydd ar hyd llwybrau pren hefyd yn eu gwneud yn lleoedd gwych i bobl fynd am dro iddynt a’u mwynhau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n agos gyda miloedd o dirfeddianwyr a sefydliadau eraill i adfer a chynnal nifer o wlyptiroedd ein cenedl.

Gogledd Cymru

Mae’r Prosiect LIFE wedi adfer oddeutu 1,850 acer (yr un maint â 1,000 o gaeau pêl-droed) o gorsydd calchog yn Ynys Môn a Phen Llŷn. Dyma un o’r prosiectau mwyaf uchelgeisiol o’i fath, a’r mwyaf o ran maint, yn Ewrop, a chaiff ei ariannu gan yr UE. Mae’n cynnwys 11 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ac mae pedwar o’r safleoedd hyn yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol hefyd – Cors Bodeilio, Cors Erddreiniog, Cors Geirch a Chors Goch. Maen nhw’n storio llifddwr, yn gwella ansawdd y dŵr ac yn sicrhau bod mwy o dir ar gael ar gyfer ei bori.

Canolbarth Cymru

Mae Cors Caron ger Tregaron yn ymestyn dros ardal enfawr 800 hectar o faint a 6 chilometr o hyd. Dyma gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a phlanhigion. Ceir tair cyforgors – sef llecynnau dwfn o fawn sydd wedi cronni yn ystod y 12,000 mlynedd ddiwethaf – o fewn y warchodfa, ac yn eu tro caiff y rhain eu hamgylchynu gan gymysgedd gymhleth ac unigryw o gynefinoedd.

Gyda llwybrau pren (3.5 cilometr) sy’n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, llwybrau ag wyneb caled (6 chilometr) a llwybr glan yr afon (7.5 cilometr), mae yna antur at ddant pawb. Mae’r holl bryfed yn ffynhonnell fwyd werthfawr i adar a mamaliaid. Gellir dod o hyd i ddyfrgwn, llygod pengrwn y dŵr, llygon y dŵr a ffwlbartod ar y warchodfa.

De Cymru

Mae Cors Crymlyn yn hafan i fywyd gwyllt, rhwng ardal ddiwydiannol Dwyrain Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Hon yw’r gors llawr gwlad fwyaf yn y DU, ac mae ganddi fywyd gwyllt rhyfeddol ac amrywiol, gan gynnwys corryn rafftio’r gors galch – y mwyaf ym Mhrydain – ac amryw byd o adar ysglyfaethus.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd yn ferw o adar gwahanol sy’n ymweld â’r ardal o rannau oerach y byd. Gellir gweld cwtieir, crehyrod a chrehyrod glas yn gyffredin ar gorsleoedd y warchodfa. Mae’r hwyaden lygad-aur brin, y dylluan glustiog a’r cudyll bach yn ymwelwyr hefyd. Ceir tri chilometr o lwybrau o amgylch y corsleoedd, sy’n hawdd cerdded a beicio ar eu hyd ac sy’n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.

I ddathlu Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd, bydd taith gerdded yn cael ei chynnal ar Wlyptiroedd Casnewydd Ddydd Mawrth 2 Chwefror 3.30 – 5.30pm.

Brithwaith o lynnoedd, pyllau bas, nentydd a lagwnau sy’n ffinio â chorsydd heli a glannau godidog Porth Tywyn yw gwlyptiroedd Llanelli. Oherwydd ei amrywiaeth o gynefinoedd, mae’r safle 450 acer hwn yn hafan i lu o blanhigion ac anifeiliaid gwahanol, gyda degau o filoedd o adar ymfudol yn ymweld ag ef bob blwyddyn.

Rhaglen LIFE Natura 2000

Yng Nghymru ceir rhai o’r gwlyptiroedd llawr gwlad gorau yn Ewrop, gydag 11 o’r rhain wedi’u gwarchod ar ffurf safleoedd Natura 2000.

Mae Rhaglen Natura 2000 LIFE wedi creu cynlluniau gweithredu wedi’u costio ar gyfer holl safleoedd Natura 2000 gwlyptirol Cymru, gan gynllunio ar gyfer y dyfodol a helpu i gael gafael ar arian hollbwysig.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.