Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Plannu Coed – Ras yn erbyn amser

Man replanting trees on a hillside

Ar ddechrau’r hydref, mae tîm Gweithrediadau Coedamaeth Cymru (WSO) yn paratoi at gyfnod prysura’r flwyddyn, gan mai eu cyfrifoldeb hwy yw ailstocio Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru â thua 4.4 miliwn o goed. 

Bydd yn ras yn erbyn amser a’r elfennau i John Williams a’i gydweithwyr yn WSO oherwydd bydd rhaid iddynt fod wedi cwblhau’r gwaith plannu erbyn y gwanwyn a bydd glaw trwm, rhew ac eira’r gaeaf yn llesteirio gwaith y timau plannu coed.

Yn ystod cam cyntaf y gwaith bydd tua 36,000 o goed sbriws Sitka, pob un wedi ei lapio’n unigol mewn cell bapur fechan, yn cyrraedd Abaty Cwm Hir, yn syth o blanhigfa Comisiwn Coedwigaeth yn Delamere, Swydd Gaer.

Popeth yn rhan o’n gwaith bob dydd

Byddai meddwl yn unig am blannu’r holl goed hyn yn codi braw ar y rhan fwyaf ohonom, ond i JBJ Tree Services, y contractwyr cwympo coed o Garno, mae’r cwbl yn rhan o ddiwrnod o waith – neu wythnos o waith i ddweud y gwir, gan fod y tîm o bump yn gobeithio plannu’r 36,000 o goed mewn wythnos.

Yna byddant yn mynd ymlaen i’r safle nesaf, a’r un nesaf, nes bydd y tîm, a nifer o dimau plannu coed eraill CNC, wedi cwblhau’r gwaith o ailstocio 1,400 hectar erbyn canol mis Ebrill (os bydd y tywydd yn caniatáu).

Wrth gwrs, nid dim ond sbriws Sitka fyddwn ni’n eu plannu, oherwydd byddwn yn defnyddio 39 rhywogaeth wahanol y tymor hwn a hyd yn oed ar y safle cyfredol, byddwn yn gorfod dychwelyd yn fuan yn 2016, i blannu ffynidwydd Douglas, a bydd gan y rhain fwy o siawns o oroesi wrth gael eu plannu’n agosach at y gwanwyn.

Yn y cyfamser, mae John, Goruchwyliwr WSO, yn gobeithio bod tywydd mwyn yr hydref wedi dirwyn i ben o’r diwedd gan fod llawer o’r planhigion coedwig a archebodd yn disgwyl i gael eu codi o blanhigfa Delamere a’u cludo iddo fel cynhyrchion gwreiddiau moel. 

Tywydd oer yn anfodol

Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid i’r tywydd fod yn ddigon oer i wneud i’r planhigion ‘fynd i gysgu’, fel eu bod, fwy neu lai, wedi stopio tyfu. 

Er mwyn gwirio fod hyn wedi digwydd, mae’r blanhigfa yn cynnal ‘prawf electrolyt ar y gwreiddiau’ a dim ond pan hyn yn dangos fod y planhigyn wedi cyrraedd lefel arbennig o syrthni, y gellir ei godi a’i gludo i’r goedwig.

Mae ein gaeafau mwyn diweddar wedi gweld planhigion mewn planhigfeydd yn ‘mynd i gysgu’n’ hwyrach bob tro, ac mae rhai planhigion hyd yn oed wedi peidio ‘mynd i gysgu’n’ llwyr dros y gaeaf.

Fodd bynnag, mae hon yn sefyllfa anodd sy’n gofyn am waith pwyso a mesur manwlgywir, oherwydd, er bo John yn gobeithio y bydd hi’n oeri er mwyn i’r planhigion ei gyrraedd yn y cyflwr gorau posibl, nid yw eisiau ei gweld mor oer fel bo’r ddaear yn rhewi, a fyddai’n gwneud unrhyw waith plannu yn amhosibl.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.