Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Byd dirgel morloi….gan Dr Thomas Stringell, Uwch-Ecolegydd Mamaliaid Morol

Hydref. Yr adeg o’r flwyddyn pan fydd lloi morloi llwyd yn cael eu geni – yn eu ffwr gwyn nodweddiadol. Ond maen nhw’n bethau prin i’w gweld. Fel arfer bydd y creaduriaid swil hyn yn byw mewn rhannau anghysbell o’n harfordir, ymhell o sylw pobl.

Yma yng Nghymru, mae ein morloi llwyd yn defnyddio’r llecynnau mwyaf cudd posib! Genir tua hanner y lloi mewn ogofeydd – arferiad anarferol sy’n ei gwneud yn dipyn o her, ac yn brofiad rhyfeddol – pan ddaw hi’n amser eu cyfri!

Eleni, am y tro cyntaf ers dros i ddegawd, rydym ni’n gwnued cyfrifiad o loi morloi llwyd gogledd Cymru.

Mae hyn yn golygu ymweld ag ogofeydd môr mewn caiac. Two people kayaking

Yn y cynefinoedd tywyll oer yma, sy’n cael eu curo’n ddidrugaredd gan y tonnau, bydd morloi a’u lloi’n cuddio mewn corneli tywyll neu weithiau yn uchel ar silffoedd creigiog.  

Mae’n ymdrech aruthrol i ymweld â phob safle posib ar gyfer geni lloi morlo rhwng Aberystwyth ac Aber Dyfrdwy rhwng mis Medi a Rhagfyr. Ond mae gan ein syrfewyr ddigon o offer i gyrraedd y lleoliadau syfrdanol hyn. A’u gwobr yw cael cipolwg prin ar fyd naturiol sy’n cuddio oddi wrth y rhan fwyaf ohonom.

Pam cyfri morloi?

Mae’r morlo llwyd yn rhywogaeth a warchodir, ac yn nodwedd o dair Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru – ACA Morol Sir Benfro, Bae Ceredigion a Phen Llŷn a’r Sarnau. Byddwn ni’n monitro’r morloi er mwyn gallu adrodd yn ôl ar eu cynnydd. Po fwyaf fyddwn ni’n gwybod am y creaduriaid dirgel hyn, y gorau y gallwn ni gynghori’r Llywodraeth ac eraill ar faterion a allai effeithio arnyn nhw, gan helpu i’w cadw at y dyfodol a sicrhau bod eu cynefinoedd yn cael eu gwarchod.

Sut mae’n mynd hyd yn hyn?

Ar ôl mis, rydan ni wedi cyfri 80 o loi. Mae deufis o waith ar ôl, ac felly rydan ni yn disgwyl cyfri mwy na’r cyfanswm o 100 dros y tymor cyfan mewn cyfrifiadau blaenorol. Mae’r mwyafrif wedi’u cyfri hyd yn hyn ym mhen Llyn, ac Ynys Enlli sy’n dal y goron hyd yn hyn! 

Y darlun ehangach…

Mae morloi yng Nghymru’n rhan o boblogaeth neu rwydwaith o glystyrau cysylltiedig llawer ehangach yn Ne Orllewin Prydain ac Iwerddon. Drwy gyfrwng tracio lloeren ac adnabod â ffotograffau, gwyddom fod morloi a lloi o bob cwr o Gymru’n ymweld â lleoliadau eraill ym Môr Iwerddon a thu hwnt.

Ond gwyddom hefyd fod y morloi’n dychwelyd i’r un safleoedd i fridio flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’r strwythur boblogaeth hon yn golygu ei bod hi’n hanfodol monitro ac asesu’r boblogaeth yn ehangach na dim ond oddi mewn i’r ACA neu mewn clystyrau unigol.

Yn yr Alban a Dwyrain Lloegr, ble mae’r rhan fwyaf o boblogaeth y DU o forloi llwyd yn byw, defnyddir arolygon o’r awyr i archwilio ardaloedd mawr o’r arfordir yn gyflym. Ond yma yng Nghymru, â’r morloi’n cuddio mewn ogofeydd môr, byddai arolygon o’r awyr yn methu â chanfod hanner y lloi na safleoedd eu geni. Dyna pam ein bod ni’n ymweld â nhw’n bersonol…!

Eisiau dysgu rhagor?

Gallwch ddarllen am arolygon blaenorol yng ngogledd Cymru fan hyn:

When aerial surveys will not do: grey seal pup production in cryptic habitats of Wales.

Journal of the Marine Biological Association of the United Kingdom. 94 (6): 1155-1159. Stringell TB, Millar CP, Sanderson WG, Westcott SM, McMath MJ (2014) 

Ar gael ar:

https://www.cambridge.org/core/journals/journal-of-the-marine-biological-association-of-the-united-kingdom/article/div-classtitlewhen-aerial-surveys-will-not-do-grey-seal-pup-production-in-cryptic-habitats-of-walesdiv/38CBADE1F241AB819A2EA0E157D4084B

A: https://www.researchgate.net/publication/256843124_When_aerial_surveys_will_not_do_Grey_seal_pup_production_in_cryptic_habitats_of_Wales 

Westcott SM, Stringell TB (2003). Grey Seal Pup Production for North Wales, 2002. Adroddiad Monitro Morol CCW Rhif: 5a. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bangor

Ar gael ar: https://www.researchgate.net/publication/256843609_Grey_seal_pup_production_for_North_Wales_2002 

Gallwch ddarllen am forloi sir Benfro yma: https://naturalresources.wales/about-us/news-and-events/blogging-from-our-special-places/wild-seals-at-skomer-marine-conservation-zone/?lang=en

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.