Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Crwbanod môr ar draethau Cymru

Tom with a sea turtle

Efallai eich bod yn credu bod crwbanod môr yn byw filoedd o filltiroedd oddi wrth arfordir garw Cymru, ond mae yna un rhywogaeth sy’n byw yn nes o lawer nag y tybiwch.

Mae Dr Tom Stringell, Uwch-ecolegydd Mamaliaid Môr, yn cynnig cyngor ynghylch crwbanod môr a mamaliaid môr, fel morfilod, dolffiniaid, llamidyddion a morloi. Mae Tom hefyd yn cynghori ynghylch mentrau polisi ac effeithiau posibl datblygiadau ar y môr.

Yma, mae Tom yn sôn am y crwbanod môr sy’n ymweld â Chymru, a’r bygythiadau sy’n eu hwynebu…

Mae bywyd gwyllt yn rhan bwysig o’n hamgylchedd, ein treftadaeth a’n diwylliant yng Nghymru, ac mae’n bwysig inni weithio tuag at ei warchod.

Rhan o’m swydd i yw sicrhau bod crwbanod môr yn cael eu gwarchod. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwneud hyn trwy ystyried crwbanod môr yn y broses cynllunio morol, a thrwy ddiogelu eu hamgylchedd mewn modd cynaliadwy fel y gallant barhau i ffynnu yma.

Yn ystod yr haf y bydd crwbanod môr cefn-lledr, neu Dermochelys coriacea, yn ymweld â Chymru a’r moroedd o amgylch Ynysoedd Prydain. Er mai creaduriaid gwaed oer ydynt, gallant godi tymheredd eu cyrff a gwrthsefyll ein dyfroedd oer.

Bydd crwbanod môr cefn-lledr llawndwf yn mudo ymhell iawn bob rhyw flwyddyn. Maent yn teithio oddeutu 7000km o’r dyfroedd trofannol lle y maent yn nythu, i ddyfroedd oerach i fwydo.

Er gwaethaf eu maint (hyd at 2m o hyd ac oddeutu 700kg mewn pwysau), ar slefrod môr y maent yn bwydo; ac mae’n ymddangos eu bod yn hoff o’n slefren wythgoes (Rhizostoma octopus) leol. 

harlech turtleAr eu siwrnai, mae crwbanod môr cefn-lledr mewn perygl o gael eu dal yn ddamweiniol mewn offer pysgota, fel offer pysgota lein hir yn nyfroedd y môr mawr, neu fynd yn sownd mewn rhaffau pysgota mewn dyfroedd arfordirol.

Crwban môr cefn-lledr gwrywaidd llawndwf a olchwyd i’r lan yn farw ar draeth Harlech, Gogledd Cymru yn 1988 yw’r un mwyaf o’i fath i’w gofnodi erioed. Roedd yn pwyso 916kg, ac yn anffodus boddodd ar ôl mynd yn sownd mewn offer pysgota.

Ymhellach, gall crwbanod môr wynebu peryglon yn eu safleoedd nythu pell, lle y gallant gael eu lladd oherwydd eu cig, lle y gallai eu hwyau gael eu dwyn, neu lle y gallai eu traethau ddioddef neu gael eu dinistrio yn sgil datblygiadau arfordirol (yn aml er budd twristiaeth).

Y peryglon hyn sydd wrth wraidd y ffaith fod rhywogaethau crwbanod môr i gyd yn cael eu hystyried fel bod mewn perygl, a’u bod yn cael eu gwarchod yn llym gan amrywiol ddeddfwriaethau, fel y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad yn y DU, y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn Ewrop, a’r Confensiwn ar Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Mewn Perygl (CITES).Tom profile picture

Er gwaethaf yr holl beryglon y mae crwbanod môr yn eu hwynebu, mae nifer o boblogaethau yn yr Iwerydd yn cynyddu, diolch i ymdrechion cadwraethol.

Crwbanod môr yn dod i’r lan

Caiff mathau eraill o grwbanod môr eu gweld yn aml yn ein dyfroedd, neu eu gweld wedi dod i’r lan. Caiff y rhywogaethau ‘cragen galed’ hyn eu chwythu’n aml oddi ar eu llwybr mewn stormydd a’u hurtio yn ein dyfroedd oer.

Yn ystod gaeaf 2015/16 cafodd tri o grwbanod môr gwyrdd (Chelonia mydas) eu golchi ar ein glannau yng Nghymru – mwy nag yn ystod unrhyw flwyddyn arall yn y gorffennol. Credwn fod hyn wedi digwydd oherwydd y tywydd stormus parhaus a gawsom yng ngogledd yr Iwerydd y gaeaf diwethaf.

Hefyd, cofnodwyd bod 9 o grwbanod môr pendew Kemp (Lepidochelys kempii) wedi’u golchi yn y DU a 2 ohonynt yng Nghymru. Dyma’r crwban môr prinnaf o blith y saith rhywogaeth a geir yn y byd, ac mae mewn perygl difrifol.

Yn ystod y 1980au dirywiodd y rhywogaeth hon i rai cannoedd o grwbanod benywaidd a oedd yn nythu ar un traeth arbennig ym Mecsico. Digwyddodd y dirywiad gan fod eu hwyau’n cael eu dwyn a chan eu bod yn cael eu dal fel ‘sgil-ddalfa’ mewn pysgodfeydd treillio – sgil-ddalfa yw dal rhywogaethau na chânt eu targedu mewn offer pysgota, fel dolffiniaid, crwbanod môr ac adar môr.

Ers hynny, mae camau cadwraethol wedi helpu’r rhywogaeth i adfer i fwy na 10,000 o grwbanod benywaidd sy’n bridio. Mae’r rhain yn nythu o amgylch Gwlff Mecsico.

Mae CNC yn cefnogi’r ‘Cetacean Strandings Investigation Programme’ yng Nghymru trwy gofnodi achosion o weld crwbanod môr a rhai sydd wedi dod i’r lan ar arfordir Cymru. Yna, caiff y data ei ddwyn ynghyd i greu cronfa ddata, lle y ceir mwy na 2600 o gofnodion sy’n dyddio’n ôl i’r ddeunawfed ganrif.

Os gwelwch famal môr neu grwban môr wedi dod i’r lan

Ffoniwch 0800 652 0333 neu ewch i www.strandings.com i gael mwy o wybodaeth.

Bywyd crwban môr

Mae crwbanod môr yn gadael eu nyth ar ôl dod allan o’r wy ac yn nofio allan i’r môr. Yno, maent fel arfer yn bwydo ar y creaduriaid di-asgwrn-cefn sydd i’w cael mewn matiau arnofiol o wymon. Maent yn treulio sawl blwyddyn yn bwydo, yn tyfu ac yn mynd gyda’r llif.

Ar ôl iddynt dyfu i faint plât cinio, maent yn mentro i safleoedd bwydo arfordirol i dyfu ac aeddfedu (er, mae crwbanod môr cefn-lledr a chrwbanod môr Olive Ridley yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau yn y môr mawr).

Mae crwbanod môr yn cyrraedd eu llawn dwf rhyw 20 neu 30 mlynedd yn ddiweddarach. Yr  adeg hon, maent yn mentro mudo’n ôl i’r dyfroedd y gwnaethant nofio iddynt gyntaf fel crwbanod bach newydd ddeor.

Yno, maent yn paru ac mae’r crwbanod benywaidd yn ymlusgo i fyny’r un traeth lle y gwnaethant hwy eu hunain ddeor, gan ddodwy sawl nythaid o wyau dros gyfnod o rai wythnosau.

Wedyn, maent yn mudo’n ôl i’w safleoedd bwydo ac yn ailadrodd y broses ymhen rhai blynyddoedd.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.