Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Digwyddiad ymwybyddiaeth llifogydd

Analyse / recognise safety measures. Safety is paramount. Take 5 - assess risk

Mae un o bob chwech o bobl yng Nghymru yn byw neu'n gweithio mewn ardal sy dan beryg o lifogydd ac gyda tywydd eithafol yn digwydd yn fwy aml.

Oherwydd hyn rydym yn cefnogi rhwydwaith o Wardeiniaid Llifogydd sy’n chwarae rhan hanfodol o amddiffyn y gymuned yn erbyn llifogydd.

Cafodd Wardeiniaid Llifogydd o bob rhan o Gymru gyfle i rannu profiadau a’u gwybodaeth mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn Llandudno.

Yno, bu wardeiniaid yn cyfarfod â chynrychiolwyr y gwasanaethau brys, awdurdodau llifogydd a sefydliadau gwirfoddol i drafod beth yn union yw eu rôl cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.

Cawsant gyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithdai i drafod arferion gorau o ran cadw eu hunain yn ddiogel, yn ogystal â’r penderfyniadau anodd sy’n wynebu’r awdurdodau llifogydd a’r gwasanaethau brys wrth orfod dewis ble i anfon adnoddau gwerthfawr.

Defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol

Rydym yn defnyddio ein cyfrif Twitter @NatResWales i ddiweddaru pobl am berygl llifogydd ac yn cyfeirio pobl at rhybuddion llifogydd sy’n fyw ar ein gwefan.

Daw Barry Griffiths o Fae Cinmel ac mae’n wirfoddolwr ers 26 mlynedd.

Yn y digwyddiad esboniodd pa mor ddefnyddiol y gall Gwefannau a’r Cyfryngau Cymdeithasol fod i godi ymwybyddiaeth ymhlith cymunedau.

Ac yntau wedi cychwyn gwefan ei hun, Kinmel Bay Community Flood Plan, mae wrthi’n brysur rŵan yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i sefydlu tudalennau ar gyfer ei grŵp llifogydd ei hun ar Facebook, ac yn helpu eraill ar draws y wlad.

Barry Griffiths

Esboniodd Barry: “"Dechreuodd y cwbl 26 mlynedd yn ôl pan effeithiodd llifogydd Towyn fy nhŷ.

“Diddordeb personol oedd o ar y cychwyn, oherwydd roeddwn i’n medru gweld potensial prosiectau ynni’r llanw yn gweithio law yn llaw gydag amddiffynfeydd arfordirol.

“Ond wrth imi ddechrau sylweddoli’r effaith y gall llifogydd ei gael, newidiodd yn ddiddordeb a oedd yn ymwneud â’r gymdeithas yn gyffredinol.

Ychwanegodd: “Dydw i ddim yn meddwl fod y rhan fwyaf o bobl yn cymryd sylw o lifogydd hyd nes y mae’n digwydd iddyn nhw.

“Ar y cychwyn, roedd y wefan yn rhyw fath o arbrawf i geisio dod yn fwy cynhwysol.

“Mae gennym saith neu wyth o wardeiniaid ar gyfer ardal a chanddi boblogaeth o 7,000, felly byddai’n cymryd oriau i geisio mynd i weld pawb.

“Mi wn i (yn ôl adroddiadau) nad oes gan 30% o bobl fynediad I’r rhyngrwyd, neu nad ydynt yn cymryd unrhyw ddiddordeb ynddi, ond mae’r gwrthwyneb yn wir ar gyfer y mwyafrif o bobl.

“Mae’n ffordd gyflym iawn o gyfathrebu a lledaenu’r gair. Mae’n ychwanegu’n fawr at yr hyn rydym yn ei wneud.”

Dysgu Gwersi

Mae Jill Bullen yn Warden Llifogydd yn Y Borth ac Ynyslas, ac mae’n gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru fel Uwch-arbenigwr Tirwedd yn Aberystwyth.

Jill Bullen - Flood Warden for Borth and Ynyslas

Meddai Jill: “Rydw i wedi bod yn warden llifogydd ers oddeutu tair blynedd.

“Ymunais â Chyngor Cymuned Y Borth, ac roedden ni’n arfer cael gohebiaeth a oedd yn gofyn inni ddiweddaru ein cynllun llifogydd.

“Erbyn hyn, rydym wedi diweddaru ac ehangu’r cynllun llifogydd er mwyn cael cynllun argyfwng a all ddelio â sawl sefyllfa wahanol, fel toriadau trydan a thywydd eithafol fel eira.

“Bob tro rydym yn delio ag argyfwng, rydym yn dysgu gwersi ac yn diweddaru ein cynllun, felly mae’n ddogfen fyw.

“Y rhan rydym wrthi’n ei diweddaru rŵan yw dynodi ardaloedd wardeiniaid  llifogydd yn barthau.

“Rydym yn sôn am barthau yn hytrach na defnyddio enwau strydoedd neu enwau lleol, oherwydd nid yw pawb yn gyfarwydd â’r rhain.

“Mae’r digwyddiad wedi bod yn fuddiol iawn, nid yn unig o ran cyfarfod a siarad â wardeiniaid llifogydd eraill, ond hefyd o ran dod o hyd i wybodaeth a gwahanol ffyrdd o wneud pethau’n well.”

Mae archif y Met Office, yn dangos bod Cymru wedi dioddef y mis Rhagfyr gwlypaf ers dechrau cadw cofnod yn 1910.

Gall unrhywungreu cynllun llifogydd - gallwch lawrlwytho templed i greu cynllun i helpu eich cartref, busnes neu gymuned yn cael ei baratoi ar gyfer llifogydd.

Am fwy o wybodaeth ewch i'r tudalen Flood Ymwybyddiaeth LLifogydd Cymru ar Facebook

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.