
Efallai y bydd pobl ar draws Cymru yn cael neges destun gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth inni ymestyn ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim.
Bydd mwy na 15,000 o gwsmeriaid sydd ar rwydwaith symudol O2 yn cael neges ddwyieithog yn rhoi gwybod iddynt eu bod wedi’u hychwanegu at y system rhybuddion llifogydd.
Bydd y negeseuon yn hysbysu pobl eu bod wedi’u cofrestru’n awtomatig ar gyfer rhybuddion llifogydd a bydd yn cynnwys dolen yn arwain at wefan CNC lle y nodir rhif ffôn Floodline pe baent yn dymuno cofrestru’n llawn ar gyfer y gwasanaeth.
Hefyd, gallant ddewis optio allan o’r gwasanaeth trwy ateb y neges destun.
Ar ôl iddynt gofrestru, bydd pobl yn cael neges yn uniongyrchol i’w ffôn symudol pe bai rhybudd llifogydd yn cael ei gyhoeddi yn eu hardal yn y dyfodol – gan roi amser hollbwysig iddynt baratoi.
Bydd y neges yn cael ei hanfon ddydd Llun 11eg Rhagfyr i 15,600 o gwsmeriaid O2 sy’n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd, oni bai y bydd rhybuddion llifogydd ar waith y diwrnod hwnnw.
Os cewch y neges destun, fe fyddwch wedi’i chael am eich bod yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd, felly fe fyddem yn annog pobl i barhau i fod yn rhan o’r gwasanaeth a dysgu beth y dylent ei wneud pe baent yn cael rhybudd.
Fe ddechreuodd yr arfer o rybuddio pobl ar y ffôn yn 2010, pan weithiodd rhagflaenydd CNC, sef Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd/Environment Agency, â British Telecom i gael mynediad at rifau ffôn llinellau tir yn yr ardaloedd hynny a oedd mewn perygl mawr, a’u cofrestru’n awtomatig.
Erbyn mis Mawrth 2017, roedd hyn wedi arwain at fwy na 40,000 o gyfeiriadau, nad oeddynt wedi ymuno o’r blaen â’n gwasanaeth, yn cael rhybuddion llifogydd uniongyrchol.
Wrth i ffonau symudol ddod yn fwy poblogaidd fe ddechreuon ni weithio gyda phedwar o ddarparwyr ffonau symudol hefyd.
Roedd ein cytundeb cyntaf gydag EE, ac arweiniodd at ychwanegu 15,000 eiddo arall at y gwasanaeth rhybuddion llifogydd erbyn Mehefin 2017. Hefyd, rydym yn gweithio gyda Three a Vodafone i ymestyn y gwasanaeth ymhellach fyth yn ystod y chwe mis nesaf.
Gall cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd roi rhybudd ymlaen llaw i bobl ynghylch llifogydd ac amser hollbwysig i baratoi.
Gall pobl nad ydynt ar rwydwaith O2 dderbyn rhybuddion llifogydd yn rhad ac am ddim hefyd – ewch i https://naturalresources.wales/flooding/sign-up-to-receive-flood-warnings/?lang=cy i weld a yw eich cartref mewn perygl o ddioddef llifogydd a chofrestrwch ar gyfer cael rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim.