Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Sylw rhyngwaldol i wellt y gamlas Cymru, gan Lucy Kay, Uwch-swyddog Cadwraeth Morol

Seagrass bed at Porth Dinllaen with a Zostera pipefish

Bob dwy flynedd mae’r Gweithdy Bioleg Gwellt y Gamlas Rhyngwladol yn dod ag arbenigwyr drwy’r byd ynghyd i gydweithio a deall yn well pa mor bwysig yw rheoli’r cynefin rhyfeddol hwn, sydd mewn perygl.

Eleni, bydd y gweithdy’n cael ei gynnal rhwng 16-21 Hydref 2016 yng Nghanolfan Iaith Gymraeg Nant Gwrtheyrn. Gyda Phorth Dinllaen ar garreg y drws – lle mae rhai o wlâu gwellt y gamlas gorau Cymru – fe fydd y gweithdy’n canolbwyntio’n gryf ar Gymru.

Mae gwellt y gamlas yn gynefin cynhyrchiol ac amrywiol, ac mae wedi’i wneud o blanhigion sydd wedi addasu i fyw yn y môr. Mae’n darparu gwasanaethau i bobl, ac o’r herwydd mae’n un o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr y blaned.

Mae dolydd gwellt y gamlas yn gynefin pwysig i bysgod ifanc, fel penfreision, lledod coch, penwaig a morleisiaid. Hefyd, maent yn helpu i liniaru newid hinsawdd trwy storio llawer iawn o garbon deuocsid mewn gwaddodion morol.

Mae diogelu’r cynefinoedd hyn yn hanfodol i’n hamgylchedd arfordirol ac i gynaladwyedd ein pysgodfeydd.

Rydym yn disgwyl i 200 o bobl o bob cwr o’r byd ymuno â’r gweithdy, gan gynnwys gwyddonwyr blaenllaw o Tsieina, Indonesia, Brasil a Sri Lanca.

Mae cynnal y digwyddiad hwn yn gyfle inni arddangos yr arfordir ysblennydd sydd gennym yng Nghymru a helpu i dynnu sylw ar gadwraeth gwellt y gamlas.

Bydd Alison Hargrave, Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Pen Llŷn a’r Sarnau, yn rhoi sgwrs ac yn tywys taith fydd yn edrych ar gadwraeth morwellt ym Mhorthdinllaen. 

Yn ôl Alison: “Ystyrir bod morwellt Porthdinllaen mewn cyflwr anffafriol, a hynny’n rhannol o ganlyniad i effeithiau angorau ac angorfeydd. Mae ein prosiect yn edrych ar sut y gallwn leihau’r effaith hwn heb amharu ar y ffyrdd mae pobl yn defnyddio’r ardal.  

“Rydym wedi bod yn cynnal arolygon i edrych ar bwysigrwydd y morwellt a maint y difrod.  Canfuwyd bod y gwely yn feithrinfa bwysig tu hwnt ar gyfer rhywogaethau o bysgod masnachol.

“Rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n agos â rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn rhan o’r gwaith o’r cychwyn cyntaf a’u bod yn helpu i benderfynu pa gamau y dylid eu cymryd ym Mhorthdinllaen. Mae’r gynhadledd yn gyfle inni gasglu syniadau ar sut i addasu angorfeydd i leihau eu heffaith ar forwellt.”

Bydd digwyddiadau ar gyfer trigolion yr ardal yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’r gweithdy.

Caiff y gweithdy ei gynnal trwy gyfrwng cydweithio rhwng gwyddonwyr a rheolwyr amgylcheddol o amryw byd o sefydliadau yng Nghymru, ond caiff ei arwain yn bennaf gan wyddonwyr ‘Prosiect Seagrass’ https://www.projectseagrass.org/.

Sefydliadau cynorthwyol: SEACAMS2, Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, Project Seagrass, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.