Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Mae amser yn hedfan……….

Emyr Roberts

Ar ei ddiwrnod olaf fel Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Emyr Roberts yn edrych yn ôl ar y pum mlynedd diwethaf. Mae'n cymryd golwg ar y llwyddiannau, ei edmygedd dwfn o waith staff CNC, ac yn cydnabod yn onest yr heriau sy’n wynebu’r sefydliad o hyd.

Bum mlynedd yn ôl, cefais y fraint o gael fy mhenodi’n Brif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru - ac erbyn hyn mae'n bryd imi ffarwelio.

Ac mae hi wedi bod yn gryn siwrnai. Mae'n debyg mai creu CNC oedd y rhaglen newid fwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ers degawd. Roedd yn dasg enfawr ac, er ei bod hi’n amlwg bod gwaith yn dal i'w wneud, does dim amheuaeth yn fy meddwl i ein bod wedi cyflawni llawer iawn yn ystod y cyfnod.

Gwella darpariaeth

Prif fwriad creu CNC oedd gwella darpariaeth gydgysylltiedig trwy ddod â'r tri chorff amgylcheddol oedd yn cael eu hariannu’n gyhoeddus o dan yr un to. Gallwn ddangos bod hyn yn llwyddo, ac mai dyma oedd y penderfyniad cywir.

Mae ein Hadroddiad o gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNARR) yn arloesol. Mae'n asesu, am y tro cyntaf, i ba raddau y mae’r amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu rheoli'n gynaliadwy, gan hyrwyddo ymagwedd ragweithiol tuag at greu gwytnwch. Mae hefyd yn cysylltu gwytnwch adnoddau naturiol Cymru â llesiant pobl Cymru.

Ac mae deddfwriaeth Gymreig newydd, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru), yn darparu fframwaith deddfwriaethol blaenllaw ar ein cyfer ni a sefydliadau sector cyhoeddus eraill. Bydd yn ein helpu i gydweithio mewn ffordd mwy cyfannol nag erioed o'r blaen - gan wella'r amgylchedd mewn ffordd sy’n cyfrannu at ein iechyd a’n lles, ein economi, a natur ei hun.

Llwyddiant arbedion ariannol

Ond roedd gofyn i ni hefyd gyflawni arbedion ariannol o £158 miliwn o fewn deng mlynedd. Ac rwy'n falch o ddweud ein bod – o fewn cyd-destun toriadau cyllideb parhaus – ar y trywydd iawn i gyflawni hyn a mwy.

Casgliad yr adroddiad "Creu Cyfoeth Naturiol Cymru - gwireddu buddiannau’r Achos Busnes", a gyhoeddwyd heddiw, yw ein bod ar y trywydd iawn i arbed cyfanswm o £171 miliwn dros ddeng mlynedd.

Bu hon yn her enfawr sydd wedi cynnwys cymaint o bobl, o bron pob rhan o'n gwaith. Dyma rai enghreifftiau o sut yr ydym wedi cyflawni hyn:

  • mae ceisiadau am gynlluniau ynni dŵr bellach, ar gyfartaledd, yn cael eu trin mewn 18 wythnos yn hytrach na 27, a dim ond yn cymryd hanner yr amser staff
  • rydym wedi lleihau nifer y systemau TGCh o 1,400 i tua 300 - gan ein gwahanu oddi wrth systemau’r sefydliadau blaenorol a dileu taliadau o fwy na £9 miliwn y flwyddyn i Asiantaeth yr Amgylchedd a Chomisiwn Coedwigaeth Prydain Fawr
  • mae lleihau ein swyddfeydd a'n depos yn arbed £840,000 i ni bob blwyddyn 

Staff anhygoel

A’r hyn sydd wedi gwneud yr holl arbedion a gwelliannau hyn yn bosib yw'r staff anhygoel yr wyf wedi bod mor ffodus i’w harwain. Maent wedi, ac yn parhau i gyflawni cymaint dros bobl ac amgylchedd Cymru.

Oherwydd tra bod yr holl newidiadau hyn yn chwyrlio o'u cwmpas, fe wnaethon nhw barhau i ganolbwyntio ar y gwaith o ddydd i ddydd - a chredwch fi, roedd hi’n gryn gamp yn ystod y fath gyfnod o newid.

Felly, tra’u bod yn cynnal a chadw 319 milltir o amddiffynfeydd rhag llifogydd, maent hefyd wedi adeiladu amddiffynfeydd newydd er mwyn darparu lefel uwch o amddiffyniad i bobl mewn mwy na 3,000 eiddo.

Maent wedi parhau i ddiogelu ac adfer rhai o'n cynefinoedd pwysicaf ar gyfer bywyd gwyllt, lleoedd fel mawnogydd sy'n storio carbon, gwella ansawdd dŵr a rheoleiddio dŵr llifogydd.

A thra’u bod yn delio ag un o'r clefydau mwyaf dinistriol i daro ein coedwigoedd ers blynyddoedd, maent hefyd wedi darparu 3.5 miliwn o fetrau ciwbig o bren ar gyfer y farchnad a phlannu mwy na 16 miliwn o goed.

Gwersi a ddysgwyd

Fe fyddwn, fodd bynnag, wedi hoffi gwneud mwy a doedd hi ddim bob amser yn hawdd.

Rwyf wedi dysgu gwers galed am yr angen i gynnwys pobl mewn newidiadau sy'n effeithio arnynt. Ac rydym yn gwneud hynny’n awr gyda’n rhaglen o ailgynllunio ein strwythurau er mwyn gallu parhau gyda’r ddarpariaeth ond gydag adnoddau sy'n lleihau.

Rwy'n siomedig gyda'r gostyngiad arfaethedig yn ein cyllideb gan Lywodraeth Cymru am y ddwy flynedd nesaf, sy’n golygu cwtogiad o tua £3 miliwn y flwyddyn. I roi hyn mewn cyd-destun, erbyn 2019-20 bydd ein cyllid refeniw sylfaenol gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng £13 miliwn, sef 29% mewn termau go iawn ers Ebrill 2013.

Fe wnaethon ni bledio achos cryf dros ddiogelu ein cyllid a'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n ailystyried y sefyllfa cyn y bydd y gyllideb derfynol yn cael ei phenderfynu.

Y dyfodol

Ac o fewn y cyd-destun hwn hefyd rwyf wedi dysgu am yr angerdd sydd gan ein staff a phobl Cymru tuag at yr amgylchedd.

Boed yn afonydd, ein safleoedd arbennig, ein bywyd gwyllt, ein cymunedau, ein coedwigoedd, ein moroedd - mae pobl bob amser am i ni wneud mwy. Ac er y byddwn innau hefyd wedi hoffi cael rhagor o adnoddau - nid felly y bu. Rydym i gyd wedi gorfod darparu ar gyfer amgylchedd Cymru hyd eithaf ein gallu o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni. Allwn ni wneud dim mwy na hynny.

Ac fe wn i mai dyna'n union y bydd Bwrdd CNC, fy olynydd fel Prif Weithredwr, a phawb arall yn CNC yn dal i’w wneud. Dylem hefyd fod yn ddiolchgar, fel yr wyf fi, fod gennym staff mor wybodus, angerddol ac ymroddedig sydd ar flaen y gad yn cyflawni hynny.

Pan oeddwn yn fachgen, ac yn cael fy magu ym Menllech ar Ynys Môn, doeddwn i ddim wir yn gwerthfawrogi ansawdd yr amgylchfyd o’m hamgylch - y traeth, yr ardal wledig fywiog a thirlun anhygoel mynyddoedd Eryri.

Mae fy nghyfnod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru wedi fy helpu i weld a deall bod yr amgylchfyd sydd ar garreg ein drws o safon fyd-eang. Rhaid i ni ofalu am a gwerthfawrogi ein hadnoddau naturiol, a’u pwysigrwydd i fyd natur, i bobl ac i’n heconomi. Mae gennym gyfrifoldeb i wneud hynny ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.