Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Peidiwch â bod yn wyliwr

Hear it. Stop it. No bystanders picture

Dwi’n meddwi ei fod yn wirioneddol bwysig i Brif Swyddog Gwybodaeth ymgysylltu efo’r busnesac ymwneud efo materion nad ydynt, fel arfer, o fewn cylch dyletswydd Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. “Dim ond” ffactor galluogi ydi TGCh, wedi’r cwbl, sy’n ein galluogi i wneud ein gwaith go iawn yn amgylchedd Cymru. Dwi hefyd yn dewis ymwneud  rhai materion o ran fy natblygiad personol fy hun, ac y mae blog heddiw am fy swyddogaeth Hyrwyddwr Rhwydwaith LHDT+ (Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol) yn y Tîm Gweithredu.

Ein rhwydwaith mewnol…

Darfu imi gymryd y swyddogaeth hon yng Ngorffennaf, ac mi es i f’Achlysur LHDT cyntaf yn fuan wedyn, sef achlysur Rhwydwaith LHDT+ CNC, efo Stonewall Cymru a Heddlu gogledd Cymru’n bresennol fel siaradwyr. Ar y ffordd yno yn y trên, darfu i gydweithiwr roi gwybod imi ei brofiadau, sut yr oedd cydweithwyr wedi trin eraill o ganlyniad iddynt ddweud eu bod yn LHDT.

Er y bu llawer o’r digwyddiadau mwyaf difrifol yn y gorffennol, roeddwn i’n rhyfeddu, ac wedi fy nhristau’n arw bod pobl yn dal i orfod dioddef hyn yn y gweithle yn 2014. Mae defnyddio iaith ddiofal ac anystyriol eto’n gyffredin, a rhaid inni oll helpu dileu hyn. Mae ymgyrch “No Bystanders” Stonewall yn neges wych, yn datgan y dylem ni, os clywn yr iaith ormesol hon yn y gweithle, ynteu siarad yn uniongyrchol efo’r sawl sy’n ei defnyddio, neu onid yw hynny’n bosibl, â’i reolwr llinell. Mae gennym Gynghorwr Cydraddoldebau, hefyd, sef Derek Carpenter, sydd newydd ddechrau yn ei swydd ac yn fodlon cynghori ynghylch materion penodol- Croeso, Derek.

Mae ein rhwydwaith Yammer yn ddefnyddiol i helpu ein rhwydwaith LHDT gysylltu a diweddaru’r sefydliad ehangach am ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd newydd i gefnogi. Gallwch ddarllen mwy am Yammer yn fy mlog diweddar.

Achosir y digwyddiadau hyn, yn aml, gan anwybodaeth a diofalwch, a byddai’r unigolyn o dan sylw yn pryderu’n fawr pe meddyliai y gallai fod wedi peri tramgwydd. Fy null personol i, felly, yw dweud yn dawel wrth rywun: “Gyfaill, mae’n 2014, allet ti ddim dweud hynny rhagor” – gan gynnwys wrth fy mab, sy’n ei arddegau, ac yn meddwl bod popeth yn “Gay”. Os dwi’n eu clywed nhw’n ei ailddweud wedi hynny, dwi’n rhoi gwybod iddynt fy mod i’n wirioneddol o ddifrif. Dyna’r cwbl sydd ei angen, i ddweud y gwir: gallwn oll wneud hynny.

Y pwnc arall ddarfu gyffwrdd â’m calon i oedd bod pobl LHDT yn dal i deimlo na allan’ nhw ddweud yn agored ac yn onest, pan ofynnir iddynt, beth ddarfu nhw’i wneud dros y Sul, neu sut wyliau gawsant, a bod rhaid iddynt ddefnyddio termau fel “fy mhartner” neu hyd yn oed “fy nghydletywr” byth a hefyd. Mae gennym eto sawl un yn ein hasiantaeth sydd ddim yn teimlo’n ddigon cyffyrddus i “ddod allan”. Er nad ydw i’n teimlo y dylai fod ar unrhyw un angen gwneud datganiad mawr am ba fath o bobl y maen nhw’n eu hoffi, dylai bawb fedru ateb ymholiad ynghylch eu bywyd personol heb ofni dial, clebran, neu hyd yn oed godi aeliau.

Angen anghofio am gonfensiynol….

Teuluoedd gwahannol – yr un cariad

Teuluoedd gwahannol – yr un cariad

Mae angen inni anghofio’r term “confensiynol” wrth drafod bywyd teuluol. Mae a wnelo hyn â rhyw wynfyd o’r 1950au, nad oedd yn bodoli hyd yn oed yr adeg honno. Dwi’n gallu cydymdeimlo â hynny’n fawr: mae gen i fab 17 oed ac un arall sydd bron yn 5 oed. Pryd bynnag dwi’n dweud hynny wrth rywun, daw “Mae hynny’n fwlch oedran mawr”, a rhaid imi lenwi bylchau cael plentyn pan oeddwn yn ifanc iawn, dwy wahanol fam, priodi, ysgaru, ac fel arfer dwi’n gwamalu’n drwsgl am ymddangos ar sioe Jeremy Kyle.

Ydi hynny’n swnio’n gymhleth? Efallai: ond mae’n gweithio’n berffaith. Mae fy mab hynaf newydd ddod i fyw ataf, gan ei fod yn dechrau gweithio yng Nghaerdydd: a phob dydd Sadwrn, ’rydw i, fy nghyn-wraig, fy mab ieuengaf a’i babi hi’n mynd allan am y diwrnod. Mae pawb yn cyd-dynnu’n iawn, ac yn cefnogi’i gilydd gan amcanu cyd-fagu gorau y gallwn. Felly efallai y bydd angen i Stonewall gymhlethu dipyn ar eu poster i ddisgrifio hynny’n gywir! Ond dyna’r pwynt, mewn gwirionedd: y MAE teulu pawb yn wahanol, a byddai arnynt angen poster enfawr er mwyn darlunio’r holl gyfuniadau hynny. Felly dewch inni anghofio am “gonfensiynol”, a theimlo cywilydd oherwydd nad ydym ni’n cydymffurfio â rhyw sefyllfa priodas 2.4 o blant dosbarth canol iwtopaidd. Mae llwybr bywyd pawb yn droellog ac yn wahanol, a daw cariad ar sawl gwahanol wedd. Felly dewch inni beidio â barnu neb, a pharchu eu dewisiadau nhw.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.