Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Ar y dibyn? Golwg ar y glöyn byw Britheg y Gors

Butterflies sat on a purple flower

gyda Miguel Ortuño-Sanchez

Mae glöyn byw, Britheg y Gors, a oedd cynt i’w gweld mewn llawer man yn Ewrop, wedi dirywio’n enfawr yn y ganrif ddiwethaf.

Colli cynefin yw prif achos y dirywiad. Fe ddiflannodd Britheg y Gors o 60 y cant o’i gynefinoedd blaenorol  yn y DU yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud pob ymdrech i roi help llaw i’r rhywogaeth yn un o’r cadarnleoedd sydd ar ôl - de a gorllewin Cymru.  Fe ganolbwyntir y gwaith cadwraeth ar gynnal poblogaethau presennol drwy ofalu ar ôl cynefinoedd maent yn dibynnu arnynt - glaswelltir gwlyb neu borfeydd rhos fel y’i gelwir.

Gan fod Britheg y Gors yn byw mewn grwpiau o gytrefi cysylltiol, gall dirywiad neu golli cynefin effeithio’n sylweddol ar eu  goroesiad tymor hir.  Mae ail-gytrefu yn llai tebygol pan mae clytiau cynefin yn fwy ynysig. Felly cysylltedd yw hanfod y peth.

Er enghraifft….ar un adeg gellid dod o hyd i Fritheg y Gors ar draws Ceredigion, ond mae’r rhywogaeth bellach wedi diflannu mewn llawer o ardaloedd lle’r oedd yna gynefinoedd yn y gorffennol.  Er mai digon bychain yw’r darnau o gynefin addas ar gyfer y Fritheg y Gors sydd ar ôl yn y sir maent, ar y cyfan, mewn cyflwr da. Ac, mae’r pellter rhwng cynefinoedd yn eithaf bach, sy’n helpu unigolion i symud rhwng poblogaethau, gan gynyddu’r siawns o oroesi yn y tymor hir.

Mae Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Rhos Talglas ynghyd â  ACA Rhos Llawr Cwrt yng Ngheredigion yn cynnal  un o’r poblogaethau mwyaf  pwysig yn genedlaethol o loÿnnod byw sy’n weddill. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru cytundebau gyda pherchnogion tir i sicrhau'r rheolaeth gorau posibl .

Fe borir y tir gan ferlod mynydd Cymreig ac fe dorri’r glaswellt yr ardal eang o ddol  Molinia  yn y gaeaf er mwyn helpu sefydlu twf newydd, ac i annog merlod i bori. Un o’r prif amcanion yw hybu tyfiant Tamaid y Cythraul, prif blanhigyn bwyd y glöyn byw. Mae cynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol yn cynnwys cael gwared ar gonwydd a rhywogaethau ymledol eraill i atal colli cynefinoedd. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar brosiectau tebyg ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig eraill yng Ngheredigion a rhannau eraill o Gymru. Ond hefyd mae angen i’r cynefin tu allan i’r safleoedd gwarchodedig hyn cael eu cynnal er mwyn diogelu un o brif gadarnleoedd Britheg y Gors yn Ewrop.

Heb y camau cadwraeth pwrpasol hyn, byddai poblogaethau Britheg y Gors yn ôl pob tebyg yn dirywio o ganlyniad i golli cynefin ac fe allai ddiflannu o orllewin Cymru mewn ychydig o ddegawdau. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gyda thirfeddianwyr ac eraill i warchod y cynefin a sicrhau goroesiad y glöyn byw hwn yn y tymor hir. 

Gallwch ddysgu mwy am Fritheg y Gors a phrosiectau cadwraethol eraill drwy ymweld â gwefannau cyfoethnaturiol.cymru neu butterfly-organisation.org

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.