Cael gwared ar brysgwydd ar dwyni tywod Pen-bre er mwyn hybu bywyd gwyllt arbenigol

Helyg y môr ar y twyni ym Mhen-bre ym mis Tachwedd 2022

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau gweithio’n fuan i gael gwared ar brysgwydd o dwyni tywod ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin.

Gan ddechrau ddydd Llun, 11 Rhagfyr, bydd CNC yn defnyddio peiriannau mawr arbenigol i gael gwared ar Rafnwydden y môr o ardaloedd twyni Coedwig Pen-bre a Pharc Gwledig Pen-bre.

Mae Rhafnwydden y môr yn rhywogaeth estron sy'n gorchuddio'r llystyfiant naturiol sy’n tyfu ar y twyni tywod. Mae’r gwaith clirio yn cael ei wneud bob blwyddyn i gael gwared ar y rhywogaeth hon ac yn creu gwell amgylchedd ar gyfer bywyd gwyllt a phlanhigion prin, a sicrhau bod y dirwedd arfordirol yn gwrthsefyll heriau’r dyfodol megis hinsawdd yn well.

Mae’r gwaith wedi’i ariannu gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn 20 Rhagfyr. Ni fydd yn bosibl defnyddio Maes Parcio 8 tra bydd y gwaith yn cael ei wneud. Bydd pob rhan arall o’r safle yn parhau i fod ar agor fel arfer.

Meddai Ruth Harding, Uwch Swyddog, Tîm yr Amgylchedd, CNC:

“Mae Rhafnwydden y môr yn tyfu’n gyflym iawn a byddai’n ysgubo ar draws rhannau helaeth o’r twyni pe na byddem yn ei rheoli. Bydd cael gwared ar y planhigion hyn yn creu gofod i’r holl rywogaethau anhygoel sy’n gallu byw mewn cynefinoedd twyni tywod yn unig.
“Mae’r arfordir o amgylch Pen-bre yn gartref i 20% o’r holl blanhigion sydd yng Nghymru ac mae’n cynnwys system twyni tywod eang sydd ar hyn o bryd yn wynebu problemau oherwydd gormodedd o lystyfiant. Os na reolir tyfiant prysgwydd, bydd hyn yn niweidiol i rywogaethau fel madfallod, tegeirianau a thrilliw y twyni (Viola tricolor curtisii) gan achosi iddynt ddiflannu hyd yn oed o’r twyni tywod hyn.”

Meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Gan weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn falch o allu parhau â’r gwaith pwysig o sicrhau bod ein twyni tywod yn dychwelyd i gyflwr a fydd yn caniatáu i wella bioamrywiaeth briodol y twyni. Mae cael gwared ar Rafnwydden y môr oresgynnol yn hanfodol ar gyfer y broses hon ac, er y gallai'r gwaith cychwynnol ymddangos yn eithafol, mae angen sicrhau bod cymaint ag sydd bosibl o'r prysglwyn cadarn hwn yn cael ei dynnu.
“Bydd aflonyddu ar y tir yn bywiogi’r gwely hadau presennol, gyda’r canlyniad y bydd amrywiaeth eang o flodau gwyllt a gweiriau yn ailsefydlu ac yn dechrau’r broses o gynyddu bioamrywiaeth y twyni ym Mhen-bre.”