Cyrff cyhoeddus yn ymrwymo i atal arogleuon yn Safle Tirlenwi Withyhedge 

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn sicrhau bod gwaith capio ar gell wastraff sy’n achosi problemau sylweddol o ran arogleuon yn Safle Tirlenwi Withyhedge yn digwydd mor gyflym a diogel â phosibl. 

Mae’r pedwar corff cyhoeddus wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd ers dechrau’r flwyddyn. Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ddydd Llun, 26 Chwefror maent yn parhau i gydweithio i sicrhau cynnydd wrth ddatrys y problemau sy’n effeithio ar y cymunedau o amgylch y safle tirlenwi.

Dywedodd Erin Smyth-Evans, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Diwydiant ar gyfer y De-orllewin, CNC: 

“Mae CNC yn parhau â’n harolygiadau ar y safle i sicrhau bod y cwmni’n symud ymlaen yn effeithiol yn ei waith i gapio’r gell ble rydym wedi canfod ffynhonnell fwyaf tebygol yr arogl. Mae’r gwaith ar y safle yn mynd rhagddo bob dydd, ac rydym yn rhagweld gostyngiadau amlwg mewn allyriadau nwyon tirlenwi ac arogleuon dros yr wythnosau nesaf. 

“Mae CNC hefyd yn parhau â’i ymchwiliadau i achosion o ddiffyg cydymffurfio o ran trwyddedu sydd yn rhannol wedi peri i ni gyflwyno hysbysiad gorfodi ar RML yn yr wythnosau diwethaf. Roedd hwn yn amlinellu’r camau y mae angen i’r cwmni eu cymryd er mwyn cydymffurfio eto, ac er mwyn cwblhau’r gwaith peirianyddol ar y safle tirlenwi er mwyn dal a chasglu nwyon tirlenwi. Bydd ein hymholiadau ymchwiliol yn cymryd amser ac ar hyn o bryd sicrhau bod y gwaith capio yn cael ei gwblhau yw ein prif flaenoriaeth.” 

Mae’r cyrff cyhoeddus yn gweithio gydag RML i fonitro ansawdd yr aer mewn ymateb i bryderon iechyd cynyddol gan y gymuned leol. Mae disgwyl i’r canlyniadau ddechrau cael eu derbyn yng nghanol mis Mawrth. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedyn yn gallu darparu cyngor pellach ar sail y canlyniadau hynny. 

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Rydym yn cydnabod bod pobl leol dan straen ac yn bryderus iawn ynghylch effeithiau arogleuon o amgylch safle tirlenwi Withyhedge.

“Er nad Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r asiantaeth arweiniol ar gyfer materion fel hyn, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i wneud yn siŵr bod y sefyllfa’n gwella’n gyflym er mwyn lleihau’r effeithiau ar bobl leol. Rydym wedi cyfarfod â CNC a’r awdurdod lleol ac yn awyddus i weld datrysiad brys i’r mater hwn. Rydym hefyd wedi argymell gosod cap ar y safle cyn gynted â phosibl er mwyn atal yr arogleuon. 

“Rydym hefyd wedi galw am waith monitro ar y safle, gan y bydd hyn yn rhoi’r wybodaeth bwysig sydd ei hangen arnom i’n helpu i gynnal asesiad llawn o unrhyw effeithiau iechyd posibl ar y gymuned leol. 

“Ein cyngor i drigolion lleol ar hyn o bryd yw y gall arogleuon ac allyriadau o’r safle hwn fod yn niweidiol i iechyd, ac y dylent gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau pan fo’r arogleuon yn bresennol a cheisio cyngor meddygol os bydd angen. Gobeithiwn y bydd modd gwella’r sefyllfa hon yn gyflym.” 

Meddai’r Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Penfro ar gyfer Gwasanaethau Preswylwyr:

“Rydym yn cydnabod effaith arogleuon ar y gymuned leol sy’n dod o safle Withyhedge ac rydym yn deall lefel y pryder y mae hyn wedi ei achosi.

“Ers cyn y Nadolig mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o’r sefydliad arweiniol, CNC, i asesu arogleuon o Withyhedge. Mae swyddogion o’n timau Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd wedi ymweld â’r safle ar y cyd â chydweithwyr o CNC ac wedi ymgysylltu â’r gweithredwyr.

“Rwy’n eich sicrhau bod llawer o waith yn mynd ymlaen yn y cefndir ac mae’r holl gyrff cyhoeddus wedi ailddatgan eu hymrwymiad i sicrhau ateb hirdymor i’r problemau cyn gynted â phosibl.

“Fel partneriaid rydym hefyd wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu â’r gymuned leol a rhoi diweddariadau am y sefyllfa.”

Anogir aelodau’r cyhoedd i barhau i adrodd am ddigwyddiadau o arogleuon i CNC. 

Mae CNC yn gofyn i chi barhau i roi gwybod am achosion o arogleuon o’r safle tirlenwi trwy ddefnyddio’r ffurflen bwrpasol hon: https://bit.ly/rhoigwybodamaroglwithyhedge 

Yma fe welwch hefyd wybodaeth fanwl am ymchwiliad a chamau gweithredu CNC hyd yma.