Cyllid Rhwydweithiau Natur yn helpu i hybu cynefinoedd Ynys Môn

Bydd prosiect ffensio yn helpu i wella cynefinoedd a bioamrywiaeth mewn dau safle gwarchodedig ar Ynys Môn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwneud gwaith ffensio ar 350 metr o dir ar hyd yr arfordir yn Rhoscolyn i ganiatáu i wartheg bori er mwyn helpu planhigion i ffynnu a darparu gwell cynefin i adar gan gynnwys brain coesgoch.

Mae hwn yn rhan o waith CNC i gyflawni Cronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru ac fe’i cynhaliwyd ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Glannau Rhoscolyn ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig Glannau Ynys Gybi.

Bu CNC yn gweithio gyda’r tirfeddianwyr ar y prosiect, a byddant yn gwneud rhagor o waith ffensio.

Bydd porwr lleol yn cyflwyno gwartheg unwaith y bydd y prosiect wedi'i orffen gyda 23 hectar o dir ar gael ar gyfer pori.

Dywedodd Ifan Hywel, aelod o Dîm Amgylchedd Môn ac Arfon ar ran CNC:

“Bydd y ffens yn caniatáu ailgyflwyno pori i’r safle sy’n cael ei danbori ar hyn o bryd. Bydd gwartheg yn cael gwared ar lystyfiant marw ac yn atal planhigion a'u blodau rhag cael eu claddu dan ddeunydd marw’r flwyddyn flaenorol.
“Bydd hyn yn cynyddu nifer y planhigion blodeuol, fel grug, grug y mêl, seren y gwanwyn ac o bosibl y cor-rosyn rhuddfannog, blodyn sirol Ynys Môn, gan helpu i hybu bioamrywiaeth.
“Mae hefyd yn golygu y bydd brain coesgoch yn gallu cael gafael ar infertebratau yn y pridd i’w bwydo – mae angen glaswellt byr arnyn nhw i gael eu pig i mewn iddo.
“Petai’r safle’n cael ei adael, mae’n debyg y byddai llawer ohono’n troi’n redyn, grug ac eithin trwchus – cynefin gwaeth i’r brain coesgoch ac i fioamrywiaeth.
“Mae hyn yn rhan o’n gwaith ehangach i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur. Mae cyfradd colli bioamrywiaeth ar draws y wlad yn cyflymu, gan effeithio ar rywogaethau sy’n dibynnu ar ein hadnoddau naturiol.
“Pan fyddwn yn bygwth bioamrywiaeth, rydym yn rhoi ein cyflenwad bwyd, ein hiechyd, ein swyddi, ein heconomi a'n hymdeimlad o le mewn perygl - dyna pam mae adfer natur er lles natur o fudd i bawb.”

Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn rhaglen a gyflwynir mewn partneriaeth gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a CNC i gryfhau gwydnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd daearol a morol gwarchodedig, gan gefnogi adferiad natur ac annog ymgysylltiad cymunedol.