Llywodraeth Leol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymo i gydweithio ar gyfer dyfodol mwy gwyrdd

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau eu hymrwymiad i gydweithio'n agosach wrth iddynt weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag argyfyngau natur a’r hinsawdd, atal llygredd a chydlynu ein gwaith i wasanaethu cymunedau Cymru yn well.

Mae Awdurdodau Lleol a CNC eisoes yn gweithio gyda'i gilydd ar amrywiaeth o ddiddordebau cyffredin gan gynnwys cynllunio, rheoli llifogydd a dŵr, gwastraff, cefn gwlad a rheoli tir.  Bydd y cytundeb newydd hwn a lofnodwyd gan CNC a CLlLC ar ran pob un o'r 22 awdurdod lleol yn helpu cymunedau ac amgylchedd Cymru.

Ar adeg o straen digynsail ar bwrs y sector cyhoeddus, mae'r cytundeb newydd hwn yn cydnabod bod ymyrraeth gynnar bob amser yn rhatach ac yn fwy effeithiol nag ymagwedd adweithiol.

Bydd y cytundeb hwn yn helpu'r sefydliadau i gydweithio'n well, drwy gyfuno adnoddau ac arbenigedd mewn ffyrdd sy'n darparu gwasanaeth mwy effeithlon ac effeithiol i gymunedau lleol.

Dywedodd Gareth O'Shea, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau CNC:

"Mae ein hinsawdd eisoes yn newid a bydd yn parhau i newid. Yn y dyfodol, bydd dinasyddion ledled Cymru yn wynebu cynnydd yn lefelau'r môr a thymheredd, a digwyddiadau tywydd mwy eithafol.
"Mae ansawdd ein cynefinoedd naturiol hefyd yn dirywio ac mae llawer o'n rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu.  Rhaid lleihau lefelau llygredd.
"Bydd y tueddiadau hyn yn effeithio ar ein cymunedau, y gwasanaethau a ddarparwn, ein hasedau a'n seilwaith.  Ni fydd gweithio ar wahân i fynd i'r afael â'r effeithiau hyn ac atal y digwyddiadau hyn yn ddigon.
"Rydym yn croesawu'r cytundeb hwn a fydd yn ein helpu ni a'n partneriaid mewn awdurdodau lleol. Mae'n nodi fframwaith a all gydlynu gwaith cydweithredol yn well, rhannu gwybodaeth ac arferion gorau ar draws awdurdodau ac felly ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu yn sgil argyfyngau’r hinsawdd a natur."

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:

"Mae cyflwr ein hamgylchedd a byd natur yn cyflwyno rhai o heriau mwyaf diffiniol ein hoes. Mae cynghorau ledled Cymru’n gweithio'n galed yn yr ymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn gweithio i gyflawni Sero-Net.
"Ond nid yw llywodraeth leol yn gweithio heb gymorth eraill, ac mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol nid yn unig i wynebu'r heriau hyn ar lefel strategol, ond i wella'r amgylchedd, yr economi a'r gymdeithas yng Nghymru yn barhaus."
"Bydd llofnodi'r memorandwm hwn yn ein helpu i adeiladu ar gydweithio rhwng CNC ac awdurdodau lleol, trwy CLlLC. Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith hanfodol hwn yn datblygu wrth i ni weithio gyda'n gilydd ar y blaenoriaethau sy’n perthyn i bawb."