Cwympo i dynnu coed wedi’u heintio yn Nyffryn Conwy

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau gwaith i gwympo coed llarwydd wedi’u heintio ym Mynydd Deulyn, Dyffryn Conwy.

Mae’r coed, mewn bloc coedwig sy’n cwmpasu 9.5 hectar yn ardal Llyn Crafnant ger Trefriw, wedi cael eu heintio â Phytophthora ramorum, a elwir yn glefyd y llarwydd.

Cyhoeddwyd Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN) sy’n ei gwneud yn ofynnol i CNC weithredu o fewn cyfnod penodol o amser i reoli’r clefyd, a all ledaenu’n gyflym drwy goetir neu goedwig, gan ladd coed cyfan.

Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 11 Rhagfyr a bydd yn para am dri mis.

“Bydd y gwaith cynaeafu yn rhoi ystyriaeth lawn i bresenoldeb unrhyw rywogaethau a warchodir a’u cynefin, yn ogystal ag unrhyw effeithiau arnynt. 

Meddai Kath McNulty, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru:

“Er mwyn cydymffurfio â’r hysbysiad, bydd angen cael gwared ar y coed er mwyn atal clefyd y llarwydd rhag lledaenu ymhellach.
“Oherwydd lleoliad y safle, mae angen rheoli mynediad ar gyfer y gwaith er mwyn cadw pawb yn ddiogel a gallai olygu cau hawl tramwy cyhoeddus dros dro.
“Byddwn yn ymdrechu i leihau’r effaith ar y gymuned leol lle bynnag y bo modd ac ni fydd unrhyw weithrediadau coedwig yn digwydd ar benwythnosau.
“Ein blaenoriaeth yw cadw pawb yn ddiogel a gofynnwn i aelodau’r cyhoedd ddilyn unrhyw arwyddion sydd mewn lle yn ystod y gwaith.
“Hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad.”

Bydd mynedfeydd preswyl, amaethyddol ac i drydydd partïon yn parhau i fod ar agor bob amser ond efallai y bydd rhywfaint o oedi tra bod lorïau’n codi pren.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y gwaith hwn, cysylltwch â Thîm Gweithrediadau Coedwig Gogledd-orllewin Cymru ar 0300 065 3000 neu e-bostiwch gweithrediadaucoedwigoeddgogleddorllewin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk