Coed llarwydd heintiedig i gael eu cwympo yng Nghoedwig Gwydir

Bydd gwaith cwympo coed yn dechrau yn Llyn Geirionydd yng Nghoedwig Gwydir ddydd Llun, 19 Mehefin, am gyfnod o dri mis.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwneud y gwaith dan Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol ar ôl i nifer o goed llarwydd gael eu heintio â Phytophthora ramorum, a elwir yn gyffredin yn glefyd y llarwydd.

Bydd cyfanswm o 2.9 hectar yn cael ei gwympo o ardal o amgylch Llyn Geirionydd ac am resymau diogelwch bydd angen cau'r llwybr cyhoeddus ar hyd glan orllewinol y llyn drwy gydol y gwaith.

Bydd y coed yn cael eu symud o'r safle drwy Fferm Glyn i'r A5, yng Nghapel Curig.

Ni fydd unrhyw waith yn digwydd ar benwythnosau a bydd contractwyr sy'n gweithio ar ran CNC yn gosod arwyddion i hysbysu ymwelwyr.

Dywedodd Kath McNulty, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig CNC yng Ngogledd-orllewin Cymru:

“Er mwyn cydymffurfio â'r hysbysiad, bydd angen cwympo'r coed i atal clefyd y llarwydd rhag lledaenu ymhellach. “Oherwydd lleoliad y safle, mae'r gwaith yn gofyn am reoli mynediad er mwyn cadw pawb yn ddiogel. Yn anffodus, mae hyn yn golygu cau'r llwybr cyhoeddus ar ochr orllewinol Llyn Geirionydd. “Mae ein gwaith cynaeafu yn rhoi ystyriaeth lawn i bresenoldeb unrhyw rywogaethau a warchodir, a'u cynefin, yn ogystal ag unrhyw effeithiau arnynt.  “Bydd cyfyngiadau cludo ar waith sy'n golygu na fydd coed yn cael eu symud ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus a byddwn yn gweithio i leihau'r effaith ar y gymuned leol lle bynnag y bo modd, ond ein blaenoriaeth yw cadw pawb yn ddiogel. “Hoffem ddiolch ymlaen llaw i aelodau'r cyhoedd am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth.”

Bydd mynedfeydd preswyl ac amaethyddol yn parhau i fod ar agor bob amser ond efallai y bydd rhywfaint o oedi tra bod lorïau’n codi pren.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Thîm Gweithrediadau Coedwig Gogledd-orllewin Cymru ar 0300 065 3000 neu e-bostiwch GweithrediadauCoedwigoeddGogleddOrllewin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk