Cwblhau gwaith yn golygu bod amddiffynfeydd llifogydd Llanfair Talhaiarn wedi’u cryfhau

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gadarnhau fod gallu cymuned yn y Gogledd i wrthsefyll peryglon llifogydd wedi’i gryfhau yn dilyn gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar i wella asedau rheoli llifogydd lleol.

Roedd gwaith ar asedau rheoli perygl llifogydd Nant Barrog yn Llanfair Talhaiarn yn cynnwys cryfhau waliau glan yr afon a strwythur y sianel a gosod sgrin ym mewnfa’r cwlfert, sgrin fras (daliwr coed) mwy effeithlon i fyny'r afon yn ogystal ag adnewyddu offer monitro.

Mae'r gwaith hwn bellach yn sicrhau bod system cwlfert Nant Barrog nawr yn gweithio mor effeithlon ag sydd bosibl, gan wneud y gorau o gyfaint y dŵr a llif yr afon y gellir ei gynnwys a gwella safon yr amddiffyniad i drigolion.

Dywedodd Sara Pearson, Rheolwr Gweithrediadau CNC (Rheoli Llifogydd a Dŵr):

“Rydym yn falch ein bod wedi cwblhau'r rownd ddiweddaraf o waith yn Llanfair Talhaiarn. Bydd hyn yn gwella gallu’r gymuned i wrthsefyll llifogydd a fydd yn dod yn her gynyddol.
“Bydd y sgrin newydd ym mewnfa’r cwlfert yn gwella effeithlonrwydd ac yn ei gwneud yn haws i’w chynnal. Bydd hefyd yn caniatáu i ddeunydd yr ystyrir nad yw'n debygol o achosi rhwystr fynd drwy'r cwlfert.
“Bydd waliau glan yr afon a gryfhawyd yn ddiweddar yn helpu i gadw mwy o ddŵr yn y sianel a gwneud defnydd llawn o gapasiti’r cwlfert. Mae strwythur y sianel wedi'i gryfhau a'i wneud yn fwy gwydn i wrthsefyll erydiad er mwyn helpu i leihau'r risg o gwymp yn y dyfodol.
“Diolch i’r sgrin fras newydd, bydd deunydd mwy nawr yn cael ei ddal yn ôl i leihau’r risg o rwystr. Bydd hyn hefyd yn helpu i reoli llif yr afon yn well yn ystod llifogydd.”

Roedd cam cyflawni’r gwaith a gwblhawyd yn cynnwys oedi o chwe wythnos ym mis Mai 2022 gan fod pâr o siglennod llwydion yn nythu ar y safle. Gwelwyd y pâr yn mynd i mewn i gwlfert Water Street a chadarnhaodd ecolegydd yn ddiweddarach eu bod yn nythu. Arweiniodd hyn at sefydlu parth gwahardd am y cyfnod gofynnol.

Cwblhawyd y gwaith gan dîm prosiect yn cynnwys William Hughes Civil Engineering Ltd, ymgynghorwyr AECOM Design a swyddogion CNC. 

Ychwanegodd Sara Pearson:

“Rhaid i ni gofio, wrth i newid hinsawdd ddwysáu, y byddwn yn gweld digwyddiadau tywydd mwy eithafol, gan gynnwys cyfnodau gwlyb dwys. Mae hyn yn gwneud rheoli perygl llifogydd yn her gynyddol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
“Mae effaith y stormydd yn 2020 a 2021 yn dangos heriau hinsawdd sy’n newid a’r risg barhaus i gymuned Llanfair Talhaiarn.
“Hoffem ddiolch i’r gymuned leol am ei hamynedd yn ystod y gwaith diweddar ac rydym yn parhau i annog trigolion i gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Rhybudd Cynnar (Larwm Nant Barrog 1 a 2) i helpu gyda pharatoi ar gyfer llifogydd yn y dyfodol.”

Er mwyn cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Rhybudd Cynnar neu i gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn Llanfair Talhaiarn, e-bostiwch Flood.Risk.Llanfairtalhaiarn@naturalresourceswales.gov.uk